Neidio i'r prif gynnwy

De-orllewin Caerdydd

 

Arweinydd y Clwstwr Dr Huw Williams 


Practisau Cyffredinol yn Iechyd De-ollewin Caerdydd
Ceir deg practis sy’n gweithredu yn ardal glwstwr Iechyd De-ollewin Caerdydd.

Meddygfa Ely Bridge 
Meddygfa Kings Road 

Afon Elai Partnership
Practis Taff Riverside 
Canolfan Feddygol Woodlands 
Meddygfa Greenmount 
Meddygfa Canna 
Practis Meddygol Caeau Llandaf 
Y Feddygfa St Davids Court 

Yr hyn rydym yn gweithio arno

Rydym yn parhau i ddatblygu ein Hyb Gofal Integredig, gan ehangu'r tîm i gynnwys llu o broffesiynau i sefydlu ffyrdd integredig ac arloesol newydd o weithio. Ar hyn o bryd mae'r tîm yn cynnwys Llyw-wyr Gofal, Fferyllwyr, Gweithiwr Cymorth Gofal Iechyd, Therapydd Galwedigaethol a Rheolwr Prosiect - sy'n gweithio gyda'i gilydd i wella ac alinio gwasanaethau i ddiwallu anghenion ein poblogaeth.

Ar ôl llwyddiant ein prosiect imiwneiddio yn ystod plentyndod, rydym yn ehangu'r gwaith hwn i wella ymgysylltiad ac addysg imiwneiddio i'n poblogaeth yn eu harddegau.

Yn ogystal â hyn, rydym yn ymgysylltu ag Ysgolion Lleol ar hyn o bryd i archwilio pa wasanaethau y gellir eu datblygu i wella iechyd a lles myfyrwyr yn seiliedig ar yr hyn sy'n bwysig iddynt.

Mae Datblygu Clwstwr Carlam wedi esblygu'r ffordd rydym yn gweithio fel clwstwr, rydym yn parhau i feithrin perthnasoedd a rhannu dysgu ar draws y cydweithwyr proffesiynol i weithredu prosiectau a gwasanaethau ar y cyd a fydd yn gwella iechyd a lles ein poblogaeth.

Yr hyn rydym wedi’i wneud eisoes

Mae Clwstwr y De-orllewin wedi gweithredu Prosiect Gwella Ansawdd arobryn sydd wedi gwella ymgysylltiad ac ymwybyddiaeth ynghylch imiwneiddio yn ystod plentyndod i'n poblogaeth trwy gydlynu digwyddiadau lleol ac ymgysylltu â'r gymuned.

Mae gennym Fodel Tîm Amlddisgyblaethol sefydledig sy'n cynnwys ein Hyb Gofal Integredig, sy'n sicrhau rheoli meddyginiaethau’n ddiogel ac sy’n cefnogi cleifion i aros yn ddiogel gartref ar ôl cael eu rhyddhau o'r ysbyty.

Yn ogystal â hyn, rydym wedi datblygu gwasanaethau Presgripsiynu Cymdeithasol rhagorol trwy bartneriaeth â Gweithredu yng Nghaerau a Threlái i gysylltu cleifion yn well â gweithgareddau, grwpiau a gwasanaethau yn y gymuned i ddiwallu eu hanghenion ymarferol, cymdeithasol ac emosiynol.

Yn ogystal, rydym wedi buddsoddi mewn gwasanaethau cwnsela BAME trwy Wasanaeth Gofal Cymunedol a Lles (GGCLl) i gefnogi ein poblogaeth clwstwr amrywiol.

Blaenoriaethau’r Clwstwr ar gyfer y dyfodol

Rydym wedi ymrwymo i adolygu a datblygu ein prosiectau a'n gwasanaethau presennol yn barhaus, gyda'r nod o addasu ac ehangu prosiectau llwyddiannus i ddiwallu anghenion ein poblogaeth ymhellach.

Yn ogystal â hyn, mae gennym ddiddordeb mewn archwilio ffyrdd posibl y gellid cyflwyno'r model CGBS i'r clwstwr i ddarparu cymorth ychwanegol ar gyfer cynaliadwyedd y GMC trwy ddarparu apwyntiadau ychwanegol i'n cleifion.

Atal Diabetes, Cyngor Deintyddol ac Addysg, a Llwybrau Cleifion Canser yw rhai blaenoriaethau pellach y mae'r Clwstwr yn edrych arnynt yn y dyfodol.

 

Diweddaru 01/11/2024