Neidio i'r prif gynnwy

Gorllewin Conwy

 

Arweinydd y Clwstwr Geraint Davies / Dr Mike Bloom


Ceir un deg dau practis sy’n gweithredu yn ardal glwstwr Iechyd Gorllewin Conwy Bwrdd Iechyd, a chyfanswm poblogaeth y practisau yw 63,461. Mae’r clwstwr hwn yn un amrywiol gyda 3 phractis meddyg teulu wedi’u lleoli mewn ardal wledig sy’n cwmpasu ardal ddaearyddol eang.

Bodreinallt 
Practis Meddygol Craig Y Don 
Llys Meddyg (Conwy) 
Lonfa 
Meddygfa (Betws y Coed) 
Meddygfa Gyffin 
Practis Meddygol Tŷ Mostyn 
Meddygfa Plas Menai 
Y Ganolfan Feddygol (Bae Penrhyn) 
Y Feddygfa (Llanwrst) 
Practis Meddygol Uwchaled 
Meddygfa West Shore 

Ceir 4 Clwstwr o fewn Ardal Ganolog rhanbarth Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr sy’n cwmpasu siroedd Conwy a Dinbych.

Cyfeiriadur Iechyd Poblogaeth Gogledd Cymru - Mae Cyfeiriadur Iechyd Poblogaeth Gogledd Cymru yn canolbwyntio ar flaenoriaethau iechyd cyhoeddus ac yn darparu gwybodaeth am anghenion iechyd y boblogaeth ar lefelau daearyddol gwahanol i staff y GIG at ddibenion cynllunio. Clwstwr Gorllewin Conwy 

Prif Enwau Cyswllt yr Ardal Ganolog - Clare Darlington; Cyfarwyddwr Ardal Cynorthwyol ar gyfer Gofal Sylfaenol (Canolog), 
Dr Liz Bowen Cyfarwyddwr Meddygol yr Ardal, Gofal Sylfaenol (interim), 
Jodie Berrington. Uwch Gydgysylltydd y Clwstwr (Canolog)  

Arweinwyr Clwstwr yr Ardal Ganolog

Dwyrain Conwy Dr Jonathan Williamson
Gorllewin Conwy Geraint Davies
Gogledd Sir Ddinbych

Dr Jane Bellamy a
Dr Clare Corbett

Canol a De Sir Ddinbych Dr Matthew Davies

Rhoddir arian i bob Clwstwr i gefnogi blaenoriaethau’r clwstwr yn unol â blaenoriaethau Llywodraeth Cymru i wella mynediad a chael mynediad teg neu i wella’r gymysgedd o sgiliau mewn gofal sylfaenol, a hynny’n bennaf i hyrwyddo’r broses o ddefnyddio adnoddau’n ddarbodus.

Cynlluniau ac Adroddiadau Clwstwr Unigol

Conwy West Cluster IMTP 2020-2023 (Saesneg yn unig)

Yr hyn rydym yn gweithio arno

Mae’r clwstwr yn ymchwilio i fanteision cael ‘is-glwstwr’ ar gyfer y practisau mwy gwledig yng Ngorllewin Conwy sydd â blaenoriaethau gwahanol i’r practisau mwy arfordirol.  Bydd y dull hwn yn edrych ar ffyrdd o wella’r broses o ddatblygu aeddfedrwydd y clwstwr a gwasanaethu’r holl gleifion ledled yr ardal yn well

 Yr hyn rydym wedi’i wneud eisoes

Mae’r Llywiwr Cymunedol yn rhan integredig o’r clwstwr ac mae’r adborth yn gadarnhaol iawn gyda chanlyniadau da i gleifion a llywio llwyddiannus. Cyfrannodd y gwasanaeth hwn at y berthynas gadarnhaol rhwng y trydydd sector a Gofal Sylfaenol.  Mae’r broses o werthuso’r gwasanaeth hwn yn un barhaus.

 

Diweddaru 30/10/2024