Mae tua 25,000 o’r boblogaeth wedi cofrestru â phractis yng Nghlwstwr Gofal Sylfaenol Dwyfor.
Practisau Cyffredinol yn Iechyd Dwyfor - Ceir pump practis sy’n gweithredu yn ardal glwstwr Iechyd Dwyfor.
Canolfan iechyd Porthmadog
Meddygfa Rhydbach
Y Ganolfan Iechyd, Cricieth
Meddygfa Treflan
Tŷ Doctor, Isfryn
Cyfeiriadur Iechyd Poblogaeth Gogledd Cymru - Mae Cyfeiriadur Iechyd Poblogaeth Gogledd Cymru yn canolbwyntio ar flaenoriaethau iechyd cyhoeddus ac yn darparu gwybodaeth am anghenion iechyd y boblogaeth ar lefelau daearyddol gwahanol i staff y GIG at ddibenion cynllunio. Clwstwr Dwyfor
Cynlluniau cyffrous ar gyfer y Clystyrau
Mae cronfeydd clwstwr wedi galluogi darparu sesiynau fferylliaeth ar draws clystyrau yn y Gorllewin. Mae Fferyllwyr Clinigol Uwch yn cynnal clinigau gorbwysedd ar draws clystyrau a hefyd yn cynnal adolygiadau meddyginiaeth mewn cartrefi gofal ledled yr ardal.
Yn yr un modd, mae cronfeydd clwstwr wedi cefnogi penodi sesiynau Ffisiotherapydd Ymlaen Llaw Cyhyrysgerbydol mewn clystyrau ar draws ardal y Gorllewin i gefnogi'r galw cynyddol ar feddygon teulu.
Gweithredu Gwasanaeth Ymweld Cartref dan arweiniad ANP o fewn clwstwr Dwyfor.
Diweddaru 30/10/2024