Neidio i'r prif gynnwy

De Wrecsam


Arweinydd y Clwstwr Dr Alison Hughes 


Ceir wyth practis sy’n gweithredu yn ardal glwstwr Iechyd De Wrecsam 

Canolfan Feddygol Crane 
Y Ganolfan Iechyd (Beech Avenue) 

Y Ganolfan Iechyd (Llangollen) 
Y Ganolfan Feddygol (Cluett D) 
Y Feddygfa (Y Waun) 
Y Feddygfa (Gardden Road) 
Y Feddygfa (Hanmar) 
Y Feddygfa (Overton On Dee) 

Cyfeiriadur Iechyd Poblogaeth Gogledd Cymru  - Mae Cyfeiriadur Iechyd Poblogaeth Gogledd Cymru yn canolbwyntio ar flaenoriaethau iechyd cyhoeddus ac yn darparu gwybodaeth am anghenion iechyd y boblogaeth ar lefelau daearyddol gwahanol i staff y GIG at ddibenion cynllunio.  Clwstwr De Wrecsam

Cynlluniau ac Adroddiadau Clwstwr Unigol

Clwstwr De Wrecsam IMTP 2020-2023 (Saesneg yn unig)

Yr hyn rydym yn gweithio arno

Datblygu a gweithredu rôl rhagnodwyr Cymdeithasol ac asiantau cymunedol fel rhan o brosiect cyfeirio ehangach.
Datblygu Cytundebau Lefel Gwasanaeth newydd gyda’r Gwasanaethau Rheoli Meddyginiaethau a Therapi i Uwch Ymarferwyr.
Prosiectau ar draws y Clwstwr – Digwyddiad Iechyd Meddwl ar 18 Hydref.

Yr hyn rydym wedi’i wneud eisoes

Datblygu gwaith cyfeirio drwy sefydlu a datblygu gwefannau presennol gyda gwybodaeth gyfeirio a dolenni i gronfa ddata DEWIS, hyfforddi staff practisau er mwyn cyfeirio cleifion i’r gwasanaeth/gweithiwr iechyd proffesiynol cywir.
Gweithio gyda Chyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam i ddarparu hyfforddiant chwe cham i staff cartrefi gofal cartref o fewn y clwstwr i gefnogi’r preswylwyr i gael cefnogaeth yn y cartref ar Ddiwedd eu Hoes.
Cynnal clinigau ffliw yn y practisau y tu allan i oriau yn y gaeaf fel bod mwy o gleifion yn cael brechiad.
Gwasanaeth ffisiotherapyddion a fferyllwyr clwstwr.
Arwain gwaith Llywodraethu Gwybodaeth mewn perthynas â Rhannu Data rhwng Clystyrau.

Blaenoriaethau’r Clwstwr ar gyfer y dyfodol

Cytuno ar Gytundebau Lefel Gwasanaeth a chytundebau darparu gwasanaeth.
Presgripsiynu Cymdeithasol a gweithgareddau cyfeirio ehangach.
Parhau i ddarparu gwasanaeth cyflenwi i’r ddau bractis meddyg teulu o dan ofal unigolyn o fewn y clwstwr.
Hyfforddiant a Datblygiad.

 

Diweddaru 30/10/204