Mae 6 Practis Cyffredinol yng nghlwstwr Ddwyrain Conwy a chyfanswm poblogaeth y practisau yw 53,807. Gwelir y clwstwr hwn yn bennaf ar hyd arfordir y gogledd sydd â phoblogaeth uchel mewn mannau i dwristiaid.
Meddygfa Cadwgan
Canolfan Feddygol Bae Cinmel
Meddygfa Rhoslan
Meddygfa Rysseldene
Canolfan Feddygol Gwrych
Ceir 4 Clwstwr o fewn Ardal Ganolog rhanbarth Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr sy’n cwmpasu siroedd Conwy a Dinbych.
Prif Enwau Cyswllt yr Ardal Ganolog
Clare Darlington; Cyfarwyddwr Ardal Cynorthwyol ar gyfer Gofal Sylfaenol (Canolog)
Dr Liz Bowen Cyfarwyddwr Meddygol yr Ardal, Gofal Sylfaenol (interim)
Jodie Berrington. Uwch Gydgysylltydd y Clwstwr (Canolog)
Dwyrain Conwy |
Dr Jonathan Williamson |
Gorllewin Conwy |
Geraint Davies |
Gogledd Sir Ddinbych |
Dr Jane Bellamy a Dr Clare Corbett |
Canol a De Sir Ddinbych |
Dr Matthew Davies |
Rhoddir arian i bob Clwstwr i gefnogi blaenoriaethau’r clwstwr yn unol â blaenoriaethau Llywodraeth Cymru i wella mynediad a chael mynediad teg neu i wella’r gymysgedd o sgiliau mewn gofal sylfaenol, a hynny’n bennaf i hyrwyddo’r broses o ddefnyddio adnoddau’n ddarbodus.
Clwstwr Dwyrain Conwy IMTP 2020-2023
Yn dilyn datblygu’r Gwasanaeth Briwiau Coesau rhwng yr arweinydd blaenorol a’r gwasanaethau nyrsio cymunedol, mae’r clwstwr a’r Metron Gymunedol yn gwerthuso hyn. Ymchwilir i’r posibilrwydd o ddatblygu gwasanaethau cymunedol newydd ac arloesol, gyda’r nod o ailgynllunio’r broses darparu gofal mewn cydweithrediad â nyrsio cymunedol yn unol â’r Strategaeth Gofal yn Nes at y Cartref. Mae’r berthynas rhwng y clwstwr a’r gymuned yn cynyddu a bydd hyn yn datblygu’n bartneriaeth a fydd o fudd i’r cleifion a wasanaethir gan y ddau.
Diweddaru 30/10/2024