Neidio i'r prif gynnwy

Canol a de Sir Ddinbych


Arweinydd y Clwstwr Dr Matthew Davies / Dr Tom Kneale


Mae 8 Practis Cyffredinol yng nghlwstwr Canol a De Sir Ddinbych a phoblogaeth y practisau yw 41,894.  Ceir tri phractis sy’n hyfforddi o fewn y clwstwr.  Mae’r clwstwr hwn yn un eithaf gwledig sy’n cwmpasu ardal ddaearyddol eang.

Practisau Cyffredinol yn Iechyd Canol a de Sir Ddinbych
Ceir wyth practis sy’n gweithredu yn ardal glwstwr Iechyd Canol a de Sir Ddinbych 

Meddygfa Beech House 
Meddygfa Berllan 
Meddygfa Bronyffynnon 
Meddygfa Middle Lane 
Meddygfa Pen-y-Bont 
Plas Meddyg 
Y Clinig (Ruthun) 
Y Ganolfan Iechyd (Corwen) 

Ceir 4 Clwstwr o fewn Ardal Ganolog rhanbarth Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr sy’n cwmpasu siroedd Conwy a Dinbych. Yn 2016 penodwyd arweinwyr newydd a chreu model arwain clwstwr newydd arloesol yng Ngogledd Sir Ddinbych gan gyflwyno 3 arweinydd ar gyfer un clwstwr.

Cyfeiriadur Iechyd Poblogaeth Gogledd Cymru

Mae Cyfeiriadur Iechyd Poblogaeth Gogledd Cymru yn canolbwyntio ar flaenoriaethau iechyd cyhoeddus ac yn darparu gwybodaeth am anghenion iechyd y boblogaeth ar lefelau daearyddol gwahanol i staff y GIG at ddibenion cynllunio. Clwstwr Canol a De Sir Ddinbych 

Prif Enwau Cyswllt yr Ardal Ganolog

Clare Darlington; Cyfarwyddwr Ardal Cynorthwyol ar gyfer Gofal Sylfaenol (Canolog) 
Dr Liz Bowen Cyfarwyddwr Meddygol yr Ardal, Gofal Sylfaenol (interim)
Jodie Berrington. Uwch Gydgysylltydd y Clwstwr (Canolog)     

Arweinwyr Clwstwr yr Ardal Ganolog

Dwyrain Conwy Dr Jonathan Williamson
Gorllewin Conwy Geraint Davies
Gogledd Sir Ddinbych Dr Jane Bellamy a
Dr Clare Corbett
Canol a De Sir Ddinbych Dr Matthew Davies

 Rhoddir arian i bob Clwstwr i gefnogi blaenoriaethau’r clwstwr yn unol â blaenoriaethau Llywodraeth Cymru i wella mynediad a chael mynediad teg neu i wella’r gymysgedd o sgiliau mewn gofal sylfaenol, a hynny’n bennaf i hyrwyddo’r broses o ddefnyddio adnoddau’n ddarbodus.

Cynlluniau ac Adroddiadau Clwstwr Unigol

Clwstwr Canol a De Sir Ddinbych IMTP 2020-2023

Yr hyn rydym yn gweithio arno

Mae’r clwstwr yn gweithio gyda chydweithwyr iechyd cyhoeddus sy’n cefnogi’r Ymgyrch Bwyd Doeth gan gyfrannu at yr Agenda Gordewdra. Mae’r gwaith hwn yn cefnogi’r broses o ddatblygu gwasanaethau gordewdra Oedolion Haen 1 a 2 Byrddau Iechyd, gan sicrhau bod llwybr gofal diffiniedig a dilyniant priodol ar gyfer rheoli pwysau

Yr hyn rydym wedi’i wneud eisoes

Mae’r Ymarferydd Nyrsio Uwch (ANP) sy’n gwasanaethu cleifion cartrefi gofal y clwstwr bellach wedi’i hen sefydlu ac yn gweithio’n dda.  Mae’r gwasanaeth hwn yn lleihau’r effaith ar Ofal Sylfaenol, gan leihau nifer y derbyniadau heb eu trefnu i’r ysbyty a chyfrannu hefyd at alluogi cleifion i gael gofal diwedd oes yn y man o’u dewis.  Bydd yr ANP hefyd yn cefnogi’r broses o gyflwyno Cynlluniau Uwchgyfeirio Triniaethau er mwyn cyfrannu ymhellach at ofal diwedd oes cleifion yn y clwstwr.  Cynhelir gwerthusiad o’r gwasanaeth hwn eleni i ddarparu tystiolaeth o’r manteision a welwyd ers i’r gwasanaeth ddechrau.
Mae sgriniau gwybodaeth wedi’u gosod bellach ym mhob practis ar draws y clwstwr, ac mae’r sgriniau yn hyrwyddo’r Agenda Presgripsiynu Cymdeithasol drwy ddarparu gwybodaeth iechyd a gofal cymdeithasol allweddol a’r gallu i lywio cleifion at wasanaethau priodol.

 

 

Diweddaru 30/10/2024