Mae gan glwstwr Arfon 10 Practis meddyg teulu sy’n gwasanaethu poblogaeth o 67,850 o gleifion - Mae 32 % o’n cleifion yn byw mewn ardaloedd gwledig, sy’n uwch na chyfartaledd Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr (BIPBC). Mae 22% o’r boblogaeth yn byw yn yr ardaloedd sydd yn y ddau bumed â’r amddifadedd mwyaf yng Nghymru (sy’n is na chyfartaledd BIPBC).
Gellir dod o hyd i ragor o fanylion ar www.bcu.wales.nhs.uk, www.arsyllfaiechydcyhoedduscymru.wales.nhs.uk a www.gwynedd.gov.uk
Meddygfeydd yn Arfon - Mae yna naw practis yn gweithredu yn ardal Clwstwr Arfon. Mae tua 67,850 o’r boblogaeth wedi cofrestru â phractis yng Nghlwstwr Gofal Sylfaenol Arfon.
Bodnant, Rhodfa’r Fenai, Bangor
Canolfan Feddygol Bron Derw, Ffordd Glynne, Bangor
Canolfan Feddygol Yr Hen Orsaf, Bethesda
Hafan Iechyd, Doc Fictoria, Ffordd Balaclava, Caernarfon
Y Feddygfa, Cae Heti, Stryd Fawr, Llanberis
Tŷ Corwen, Penygroes
Llys Meddyg, Ffordd Victoria, Penygroes
Liverpool House, Waunfawr
Meddygfa Porth Dinorwig
Cyfeiriadur Iechyd Poblogaeth Gogledd Cymru - Mae Cyfeiriadur Iechyd Poblogaeth Gogledd Cymru yn canolbwyntio ar flaenoriaethau iechyd cyhoeddus ac yn darparu gwybodaeth am anghenion iechyd y boblogaeth ar lefelau daearyddol gwahanol i staff y GIG at ddibenion cynllunio. Clwstwr Arfon
Cynlluniau ac Adroddiadau Clwstwr Unigol - Caiff cynlluniau’r clwstwr eu creu ar ôl cysylltu â’r practisau o fewn y Clwstwr ac ar ôl adolygu cynlluniau datblygu’r Practis. Yna cânt eu cyfuno gan arweinydd y Clwstwr, cydlynydd y Clwstwr ac Uwch Gydlynydd y Clwstwr, i greu cynllun y Clwstwr. Yr un tîm sy’n llunio’r adroddiad blynyddol.
Rydym yn gweithio ar greu swydd GP COTE, cyflogi meddyg teulu i adolygu ein cleifion cartrefi gofal a thrafod cynlluniau dwysáu triniaeth gyda nhw.
Rydym yn cefnogi’r Clwstwr i geisio cynyddu’r nifer sy’n manteisio ar y brechlyn rhag y ffliw.
Rydym yn cefnogi cynllun peilot ar gyfer profi CRP gyda chleifion
Rydym yn cefnogi prosiect peilot calprotectin ysgarthol, sy’n sicrhau bod y prawf ar gael i feddygon teulu mewn gofal sylfaenol.
Diweddaru 30/10/2024