Ceir 8 rhwydwaith clwstwr yn ardal Bwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe ac mae’r boblogaeth yn amrywio rhwng 30,000 a thros 75,000 o bobl. Ceir arweinyddiaeth amlwg o fewn y rhwydweithiau, gan feddygon teulu yn benodol; a datblygwyd y rhwydweithiau ar sail aml-broffesiynol. Maent bellach yn sail i drefnu a darparu llawer o wasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol cymunedol, a datblygwyd cysylltiadau cryf â’r trydydd sector. Sefydlwyd Uned Gwasanaethau Sylfaenol a Chymunedol i arwain yr agenda hon, fel un o’r chwe Uned Weithredol sy’n cwmpasu pob un o’r gwasanaethau clinigol a ddarperir gan y Bwrdd Iechyd. https://bipba.gig.cymru/gwasanaethau-cymunedol-lleol/clystyrau1/clystyrau/
Afan Arweinydd Clwstwr: Gwag |
Iechyd Bae Arweinydd Clwstwr: Dr Nicola Jones |
Dinas Iechyd Arweinydd Clwstwr: Rhys Jenkins (Fferyllfa) |
Cwmtawe Arweinydd Clwstwr: Mike Garner (Rheolwr Practis) |
Llwchwr Arweinydd Clwstwr: Gwag |
Castell-Nedd Arweinydd Clwstwr: Dr Deborah Burge-Jones |
Penderi Arweinydd Clwstwr: Dr Sowndarya Shivaraj |
Cymoedd Uchaf Arweinydd Clwstwr: Niki Watts (Fferyllfa) |
Wedi'i ddiwddaru 13/11/2024