Practisau Meddygon Teulu yn Nwyrain Blaenau Gwent
Ceir 2 Rwydwaith Gofal yn y Gymdogaeth (NCN) ym Mlaenau Gwent. Ceir pump practis sy’n gweithredu yn ardal clwstwr Dwyrain Blaenau Gwent.
Practis Grŵp Abertyleri
Meddygfa Brynmawr
Practis Meddygol Blaenau
Canolfan Feddygol Aberbeeg
Meddygfa Cwm Calon
Cynlluniau ac Adroddiadau Clwstwr Unigol
Clwstwr Ddwyrain Blaenau Gwent NCN IMTP 2020-2023 (Saesneg yn unig)
Mae’r tair prif Flaenoriaeth Strategol ar gyfer Rhwydwaith Gofal yn y Gymdogaeth Dwyrain Blaenau Gwent fel yr adroddir arnynt i Lywodraeth Cymru yn ein Hadroddiad Chwarterol fel a ganlyn:
Nod Strategol 1: Mynd i’r afael a Gordewdra,
Nod Strategol 2: Cynaliadwyedd/ Mynediad at wasanaethau/ Y Gweithlu,
Nod Strategol 3: Gofal wedi ei Gynllunio.
Mae prif fuddsoddiadau cyllido Rhwydwaith Gofal yn y Gymdogaeth y Dwyrain wedi eu gwneud yn y gwasanaethau canlynol:
1. 0.80 o Fferyllwyr cyfwerth ag amser llawn mewn Practis i ryddhau Meddygon Teulu o adolygiadau meddyginiaeth wyneb yn wyneb ac ati.
2. Mynediad Uniongyrchol at Ffisiotherapi, Band 6 (0.41 cyfwerth ag amser llawn)
3. Cyllid Rhwydwaith Gofal yn y Gymdogaeth sydd wedi’i ymrwymo i Wasanaeth Fflebotomi Cymunedol, Band 3 (1.0 cyfwerth ag amser llawn).
Cynllun NCN Dwyrain Blaenau Gwent ar Dudalen 2019/20 (Saesneg yn unig)
Diweddaru 22/10/2024