Mae Clwstwr Gofal Sylfaenol Gogledd Powys yn cynnwys 7 Meddygfa Teulu - Llanidloes, Y Drenewydd, Dyffryn Dyfi, Trefaldwyn, Y Trallwng, Caerrenion Llanfair a Llanfellin, gyda maint rhestr gyfun o oddeutu 64,000 o gleifion.
Hefyd ceir 8 Fferyllydd, 7 Practis Optometreg, 9 Practis Deintyddol a 3 Gwasanaeth Deintyddol Cymunedol yn y Clwstwr.
Practis Meddygol Llanidloes
Practis Meddygol y Drenewydd
Iechyd Bro Ddyfi
Practis Meddygol Trefaldwyn
Practis Meddygol y Trallwng
Practis Meddygol Llanfair Caereinon
Practis Meddygol Llanfyllin
Cynllun Tymor Canolig Integredig Gogledd Powys 2020-2023 (Saesneg yn unig)
Nododd y Clwstwr fod angen rhoi Blaenoriaeth i ddau lwybr lleol yn y Flwyddyn Gyntaf, sef darparu gwasanaeth Iechyd Rhywiol yn y sir a datblygu gwasanaeth adnabod ac ymyrryd yn gynnar i bobl ifanc sydd â symptomau Iechyd Meddwl.
Cyflwyno Cydymaith Meddygol i gefnogi Meddygon Teulu.
Cyflwyno Gwasanaethau Dermatoleg i Gleifion Allanol yn lleol.
Edrych ar swyddogaethau amgen h.y. Uwch-ymarferwyr Gofal Brys (UCP).
Cyflwyno Gwasanaethau Cynghori ar Feichiogrwydd Prydain yn lleol.
Cyflwyno system brysbennu dros y ffôn mewn rhai practisau.
Cyflwyno system Therapi Gwybyddol Ymddygiadol (CBT) Silver Cloud ar-lein y Bwrdd Iechyd i gefnogi Practisau Meddygon Teulu a gwasanaethau Iechyd Meddwl cymunedol.
Cyflwyno cysylltwyr cymunedol y 3ydd sector ynghlwm wrth bob practis i gynorthwyo darparwyr gwasanaethau statudol.
Corff cryf sy’n chwilio am ffyrdd o gyflwyno gwasanaethau cleifion yn ôl i’r ardal leol h.y. ailberchnogi gwasanaeth iechyd meddwl.
Bod yn rhan o’r broses o gynllunio Hyb Iechyd a Llesiant y Drenewydd; sef prosiect, a fydd gobeithio yn gallu darparu gwasanaethau sy’n nes at y cartref i gleifion. Bydd hyn hefyd yn cynorthwyo cleifion i ofyn am gyngor a chymorth gan y 3ydd sector a Chyngor Sir Powys mewn ymgais i leihau apwyntiadau diangen gydda meddygon teulu.
Rhoddir blaenoriaeth i gael cynrychiolaeth briodol gan bob sefydliad partner fel ffordd ymlaen a hynny yn unol â Bwrdd Iechyd Addysgu Powys ym mhob un o’r tri Chlwstwr.
Ymestyn y Tîm Fferyllol i gefnogi cynaliadwyedd yn unol â’r cais i Drawsnewid.
Ymestyn y system Brysbennu.
Datblygu system i ddatblygu a mentora aelodau o’r timau amlddisgyblaethol o fewn practisau y Clwstwr ac mewn cydweithrediad â Phrifysgol Glyndŵr.
Diweddariad arweiniol clwstwr 18/02/2022