Neidio i'r prif gynnwy

Canol Powys

 
Arweinydd y Clwstwr Fleur Thompson

 

Practisau Cyffredinol yn Iechyd Canolbarth Powys
Ceir pump practis sy’n gweithredu yn ardal glwstwr Iechyd Canolbarth Powys. 
Mae’r Clwstwr yn cynrychioli Gofal Sylfaenol ac mae wedi creu cysylltiadau cryf â’r gymuned gyda chymorth Cymdeithas Mudiadau Gwirfoddol Powys (PAVO) sy’n gweithio’n amlwg gyda’r Cysylltwyr Cymunedol a mentrau Ward Rithwir.  Hefyd ceir 7 Fferyllydd, 4 Practis Optometreg a 5 Practis Deintyddol yn y Clwstwr. Ceir 5 practis yn y clwstwr ar hyn o bryd gyda chyfanswm o tua 29,500 o gleifion ar y rhestr:

Practis Meddygol Llanfair-ym-Muallt 
Practis Meddygol Trefyclo (Wyclum Street) 
Practis Meddygol Llandrindod  
Practis Meddygol Llanandras  
Practis Meddygol Rhaeadr Gwy     

Cynlluniau ac Adroddiadau Clwstwr Unigol

Clwstwr Canolbarth Powys IMTP 2020-2023  (Saesneg yn unig)      

Yr hyn yr hdym yn gweithio arno:

Gweithio’n agos gyda Chyngor Sir Powys a sefydliadau’r 3ydd sector i gyflawni Canlyniadau Gofal Cymdeithasol ar gyfer y bwlch a ganfuwyd.
Cyflwyno Gweithwyr Gofal Iechyd Proffesiynol i bractisau i ymestyn model y Tîm Amlddisgyblaethol e.e. Ffisiotherapyddion.
Mynychu cyfarfodydd Arweinwyr Clwstwr Cenedlaethol bob deufis i ymestyn cysylltiadau a gweld pa syniadau arloesol sydd gan glystyrau eraill i’w rhannu.
Cyllid y Cais Trawsnewidiol Gweithredol i ymestyn y tîm fferyllol ac o bosibl er mwyn cael gweithiwr cymdeithasol yn y practis ar gyfer y clwstwr.
Darparu modelau trawsnewidiol ar gyfer gofal sylfaenol a chymunedol, a rhaglenni newid clinigol er mwyn mynd i’r afael â’r ‘Pedwar Prif Ffactor’ sy’n achosi salwch ac anabledd ym Mhowys.
Gwella; Monitro perfformiad a chofnodi, Gallu i gynllunio gwasanaeth a gwerthuso i gefnogi’r broses o ddatblygu’r Clwstwr, Mynediad, Rheoli cyflyrau hirdymor, Defnyddio Technoleg Gwybodaeth, Cynnal y Practis, Safonau iaith a mynediad, gweithlu medrus, Arweinyddiaeth gadarn a Gwella gofal llygaid, Gwasanaethau Deintyddol a Rheoli Meddyginiaethau.

Yr hyn rydym wedi’i wneud eisoes

Cyflwyno Ymarferwyr MIND y 3ydd Sector i gynorthwyo practisau meddygon teulu a gwasanaethau iechyd meddwl cymunedol
Cyflwyno system Therapi Gwybyddol Ymddygiadol Silver Cloud ar-lein y Bwrdd Iechyd i gynorthwyo Practisau Meddygon Teulu a gwasanaethau iechyd meddwl cymunedol.
Cyflwyno cysylltwyr cymunedol y 3ydd sector ynghlwm i bob practis i gefnogi darparwyr gwasanaethau statudol
Cyflwyno Tîm Fferyllol y Clwstwr i gefnogi practisau meddygon teulu a gwasanaethau cymunedol
Gwerthuso dulliau ymgynghori meddygon teulu ar-lein i wella mynediad at Bractis meddygon teulu
Datblygu Gwasanaethau Deintyddol cymunedol i gymryd lle contractwyr annibynnol
Cyflwyno meddygon ymgynghorol i gefnogi meddygon teulu
Cyflwyno system brysbennu dros y ffôn mewn rhai practisau
Cyflwyno Byrddau jayex ym mhob Practis, a rhoi cymorth parhaus i drwyddedu meddalwedd.

Blaenoriaethau ar gyfer y dyfodol

Mae angen gwneud mwy o waith i ddatblygu’r fframweithiau llywodraethu a sicrwydd sy’n ofynnol er mwyn egluro trefniadau atebolrwydd

Mae’n rhaid rhoi blaenoriaeth i gynrychiolaeth briodol gan bob sefydliad partner ar gyfer y dyfodol

Gallu cyfyngedig sefydliadau partner i gynllunio a rheoli newid

Newid sefydliadol a chysondeb o ran cyfranogi

Trosi datblygiadau a ariennir yn y tymor byr yn newidiadau a ariennir yn yr hirdymor

Mwy o ddylanwad uniongyrchol gan y Tîm Gweithredol

Asesu’r ward Rithwir

Anadlu

Buddsoddi yn eich Iechyd

      

Diweddariad arweiniol clwstwr 13/09/2021 Fleur i fod i adael ond heb ei ddisodli eto