Neidio i'r prif gynnwy

Gweithio mewn clystyrau

The Health Board Directors of Primary and Community Care have refreshed the working description of clusters in September 2018:

Clystyrau

“Mae clwstwr yn dod a’r holl wasanaethau lleol sy’n ymwneud ag iechyd a gofal ynghyd ar draws ardal ddaearyddol, sydd fel arfer yn gwasanaethu poblogaeth o rhwng 25,000 a 100,000. Mae gweithio fel clwstwr yn sicrhau bod gofal yn cael ei gydlynu’n well i hyrwyddo lles unigolion a chymunedau.”


Map clwstwr Diweddarwyd yn 2021. Cyhoeddiad cyntaf yn Cymru Iachach, 2018.

Beth yw Gofal Sylfaenol?

Gwasanaethau gofal sylfaenol yw cyswllt cyntaf mwy na 90% bobl â’r GIG yng Nghymru ar gyfer gofal, ddydd neu nos. Mae ymarfer cyffredinol yn elfen graidd o ofal sylfaenol ond nid dyma’r unig elfen – mae gwasanaethau eraill megis fferylliaeth, deintyddiaeth ac optometreg yn darparu gofal uniongyrchol i’r cyhoedd, a hynny’n fwyfwy cyffredin. Mae cyfraniad gofal sylfaenol hefyd – yn bwysicach – yn ymwneud â chydlynu’r broses o sicrhau bod yr ystod eang o wasanaethau yn y gymuned leol ar gael i bobl er mwyn helpu i ddiwallu eu hanghenion iechyd a lles. Mae amrywiaeth eang iawn o staff yn rhan o’r gwasanaethau cymunedol hyn, megis nyrsys cymunedol a dosbarth, bydwragedd, ymwelwyr iechyd, timau iechyd meddwl, timau hybu iechyd, ffisiotherapyddion, therapyddion galwedigaethol, podiatryddion, gwaedyddion, parafeddygon, gwasanaethau cymdeithasol, aelodau eraill o staff yr awdurdod lleol a phawb sy’n gweithio ac yn gwirfoddoli yn y sector annibynnol ac mewn sefydliadau gwirfoddol sy’n cynorthwyo pobl yn ein cymunedau.