Cliciwch ar bob lleoliad ar y map i gael rhagor o wybodaeth am y practisiau unigol megis enw’r practis, y math o gontractwr, dolen i’r wefan a’r wobr uchaf a ddyfarnwyd i’r practis hyd yma.
Mae’r data a ddefnyddiwyd i greu’r map yn seiliedig ar yr wybodaeth a ddarparwyd gan bractisiau a gall y data newid. Er enghraifft, rydym yn ymwybodol bod rhai practisiau wedi uno neu wedi cau ers iddynt ymuno â’r Cynllun. Cafwyd cyfeiriad gwefan pob practis o Google ac mae’r sgôr seren a ddangosir hefyd yn gysylltiedig â Google ac felly ddim o fewn ein rheolaeth i’w newid.
Mae’r data a ddangosir yn gywir ar 25/08/2025. Anfonwch ymholiadau i: GofalSylfaenolGwyrddach@wales.nhs.uk.