Neidio i'r prif gynnwy

Gogledd Cwm Cynon

 
Arweinydd y Clwstwr; Dr Owen Thomas  

Arweinydd Clinigol y Clwstwr
Dr Owen Thomas (Practis Meddygol Sant Ioan)

Prif Arweinydd y Clwstwr
Hayley Rogers (Practis Meddygol Foundry)

Rheolwr Datblygu Gofal Sylfaenol
Angharad Pitt

Mae Clwstwr Gofal Sylfaenol Gogledd Cynon yn gwasanaethu tua 31,788 o gleifion.

Ein Cymuned

Mae 10% o boblogaeth Cymru yn byw yn Cwm Taf, yr ardal yw'r ail leiaf a'r ail fwyaf poblog yng Nghymru. Mae gan Gwm Cynon (adroddiadau Prif Swyddog Meddygol Cymru, data Iechyd Cyhoeddus Cymru) gyfraddau uchel o: amddifadedd cymdeithasol, materion iechyd meddwl, anabledd / morbidrwydd tymor hir, a nifer y tlodi / buddion a salwch cronig o ddiwydiant trwm blaenorol, yn enwedig mwyngloddio.

Practisau Meddygon Teulu
Mae tri practis yn gweithredu yn ardal Clwstwr Gogledd Cynon.

Canolfan Feddygol Hirwaun 
Practis Meddygol Sant Ioan 
Practis Meddygol Foundry 

Mae'r practisau Clwstwr wedi datblygu perthnasoedd cadarn ag asiantaethau partner sy'n cael ei adlewyrchu yn aelodaeth y Cyfarfodydd clwstwr sydd â chynrychiolaeth o'r disgyblaethau a'r sefydliadau canlynol:
Iechyd Cyhoeddus Cymru; Gwasanaethau Deintyddol; Fferyllwyr; Optometreg; Cydgysylltiad; MIND; Gofal a Thrwsio.

Cynlluniau ac Adroddiadau Clwstwr Unigol

Cynllun Cyflenwi Blynyddol Clwstwr Gogledd Cynon 2023-2024 (Saesneg un unig)
Cynllun Cyflenwi Blynyddol Clwstwr Gogledd Cynon 2021-2022 (Saesneg yn unig)
Gogledd Cwm Cynon IMPT 2020-2023 (Saesneg yn unig)
Cynllun Gweithredu Rhwydwaith Clwstwr Gogledd Cwm Cynon 2017/20 (Saesneg yn unig)

Yr hyn rydym yn gweithio arno

Llywio gofal
Mae'r clwstwr wedi buddsoddi mewn hyfforddiant er mwyn i'w staff rheng flaen allu cyfeirio cleifion at y gwasanaeth mwyaf priodol. Ymhlith y partneriaid mae; Canolfan Cyngor ar Bopeth RhCT, y Cynllun Mân Anhwylderau, Optometreg, Ffisiotherapi, Pwynt Cyswllt Cyntaf ac Interlink (Cydlynwyr Lles).

Fforwm y Rheolwyr Cartrefi Gofal
Oherwydd y pandemig a'r cymorth sydd ei angen mewn cartrefi gofal, sefydlodd Uwch-ymarferydd Nyrsio Gogledd Cynon fforwm ar-lein i'r holl reolwyr cartrefi gofal ymuno ag ef bob yn ail fis.  Maent wedi gallu siarad â meddygon teulu a thrafod unrhyw broblemau, ac maent hefyd wedi cael cymorth cynllun gofal ymlaen llaw. Mae rheolwyr y cartrefi gofal wedi cymryd rhan weithgar yn y fforwm ac wedi cael budd ohono.

Gwasanaeth Clust Fferylliaeth Gymunedol
Mae'r clwstwr yn cydweithio â fferyllfa leol i sicrhau bod cleifion yn gallu cael asesiad a chyngor priodol i drin cyflyrau acíwt ar y glust, gan gynnwys cwyr clust a llid y glust allanol (otitis externa).

Gwasanaeth cwnsela
Ar hyn o bryd, mae'r clwstwr yn ariannu 8 sesiwn gwnsela yr wythnos gyda Vitality Therapies, ac maent yn cynnig cymorth gwrando gweithredol a chyfeiriadau at weithgareddau lleol a rhagor o gymorth. Mae'r cwnselwyr yn cylchdroi rhwng y tair meddygfa yn y clwstwr. 

Deietegydd
Recriwtiodd y clwstwr ddietegydd i weithio yn y clwstwr a darparu rheolaeth pwysau, gwasanaeth gordewdra ac addysg i feddygon teulu. Mae'r dietegydd yn darparu 10 sesiwn wythnosol ac yn cylchdroi rhwng tair meddygfa wahanol.

Yr hyn rydym wedi’i wneud eisoes

Ffisiotherapi Cyswllt Cyntaf
Mae cleifion wedi cael mynediad at wasanaeth ffisiotherapi cyswllt cyntaf ers mis Medi 2020. Mae'r ffisiotherapydd yn cynnal asesiad clinigol ac yn rhoi diagnosis gwahaniaethol wedi ei resymu'n glinigol i gleifion gyda phroblemau cyhyrysgerbydol. Mae'r clwstwr yn cynnal 10 sesiwn yr wythnos ac mae'r ffisiotherapydd yn cylchdroi rhwng y gwahanol practisau.

Fferyllwyr clwstwr
Mae tri fferyllydd clwstwr llawn amser bellach yn rhan o’r practisau ac yn cymryd rhan weithredol mewn ymgynghoriadau wyneb yn wyneb ac adolygiadau o foddion. Mae clwstwr y De a chlwstwr y Gogledd wedi ymrwymo cyllid y clwstwr i'r un lefel o wasanaeth ar gyfer 2021/2022.

Ward ar-lein
Mae meddygfeydd wedi parhau i weithio gyda'r tîm amlddisgyblaethol, gyda meddygon teulu yn gweithio ar sail cylchdro i gadeirio'r cyfarfodydd wythnosol. Mae'r tîm yn cynnwys therapïau, ymarferwyr iechyd meddwl, cydlynwyr lles, gweithiwr cymdeithasol a nyrsys ardal. 

Cydlynwyr lles
Mae'r clwstwr wedi cyflogi cydlynydd lles yn y clwstwr, ac mae'r cydlynydd yn cylchdroi rhwng meddygfeydd teulu a lleoliadau cymunedol. Maen nhw’n cyfeirio cleifion at amrywiaeth o wasanaethau lleol, anfeddygol a grwpiau cymunedol. Mae hyn er mwyn sicrhau bod cleifion yn cael y cymorth sydd ei angen arnynt i oresgyn y problemau cymdeithasol sy'n effeithio ar eu hiechyd a'u lles, ac mae’n mynd i'r afael â'r problemau isorweddol. Eu nod yw lleihau'r pwysau ar feddygon teulu a galluogi pobl i gael cymorth yn eu cymuned yn lle.
 

Blaenoriaethau’r Clwstwr ar gyfer y dyfodol

Bydd y clwstwr yn parhau i hyrwyddo eu mentrau a chyhoeddi 'newyddion da' trwy weithio'n agos gyda thîm cyfathrebu'r Bwrdd Iechyd.

Bydd y clwstwr yn gweithio gydag Iechyd Cyhoeddus Cymru ac yn defnyddio data segmentu’r boblogaeth a phennu lefel risg i helpu i gynllunio cynlluniau clwstwr yn y dyfodol ynghyd â darparu gofal ataliol i gleifion. Gyda chymorth y Tîm Iechyd a Lles Cymunedol.  

Gweithio gyda'r Bwrdd Partneriaeth Rhanbarthol i ddatblygu model Iechyd a Gofal Cymdeithasol integredig.

Canolbwynt i'r clwstwr dros y tair blynedd nesaf fydd cysylltu â sefydliadau'r trydydd sector i ystyried dulliau o newid ffordd o fyw yn unol â'r 'Pum Ffordd at Les'

Parhau i weithio gyda Grŵp Lleoliad Integredig Merthyr a Chynon, helpu i ddatblygu gwasanaethau a llwybrau newydd er mwyn gwella mynediad cleifion at ofal sylfaenol a chymunedol.

Gweithio'n agos gyda dietegydd y clwstwr i reoli pwysau ac atal Diabetes yn well

 

Diweddarwyd 03/08/2023