Neidio i'r prif gynnwy

Gogledd Bont ar Ogwr

 
Arweinydd y Clwstwr: Dr Geoff Smith

Sarah Thomas (Arweinydd y Rheolwyr Practis)
Rheolwr Datblygu Gwasanaethau Gofal Sylfaenol Andrew Carrick
 

Trosolwg o'r Clwstwr

Mae gan glwstwr Gogledd Pen-y-bont ar Ogwr 7 practis sy'n gwasanaethu tua 47,600 o gleifion mewn rhanbarth o gymoedd de Cymru a oedd yn gyn-lofaol. Mae'n ardal o amddifadedd cymdeithasol uchel gyda llawer o anghydraddoldeb iechyd, lle mae 66% o'r boblogaeth yn byw ym 40% o’r ardaloedd mwyaf difreintiedig yng Nghymru.

Un o wyth clwstwr ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg.  Yng nghlwstwr Gogledd Pen-y-bont ar Ogwr, mae wyth prif bractis cyffredinol, tair meddygfa gangen a dwy feddygfa fferyllol.  Ardaloedd gwledig a threfol gyda phocedi o amddifadedd, diweithdra/problemau cymdeithasol, achosion o gamddefnyddio alcohol a chyffuriau, a hynny i raddau difrifol.  Cyfraddau uchel o glefydau cronig o'u cymharu â chlystyrau eraill, yn enwedig o ran clefyd rhwystrol cronig yr ysgyfaint (COPD) a chlefyd cardiofasgwlar.  Cyfraddau uchel o ysmygu a gordewdra

Meddygfa Bron y Garn 
Practis Cwm Garw 

Meddygfa Llynfi  
Meddygfa Nantymoel 
Meddygfa Bro Ogwr 
Meddygfa Tynycoed  
Practis Woodlands

Hefyd yn y clwstwr, mae naw cartref nyrsio/preswyl, un ysbyty cymunedol ym Maesteg, tair fferyllfa gymunedol ar ddeg, pum deintyddfa a saith optometrydd. Yn gweithio yn y clwstwr mae partneriaid o'r gwasanaethau cymdeithasol, y trydydd sector (Llywyddion Gofal) CBS Pen-y-bont ar Ogwr (Cydlynwyr Ardal Leol) a Bwrdd Iechyd Prifysgol CTM.

Cynlluniau ac Adroddiadau Clwstwr Unigol

Gogledd Pen-y-bont ar Ogwr Diweddariad Medi


Yr hyn rydym yn gweithio arno

Technoleg
Mae'r clwstwr wedi croesawu datblygiadau mewn technoleg newydd i sicrhau bod gwybodaeth a gwasanaethau meddygol yn fwy hygyrch i gleifion.  Mae gweithredu ymgynghoriadau fideo ac 'MySurgery' yn rhoi amryw ffyrdd i gleifion reoli eu hanghenion gofal iechyd.

Presgripsiynu
Mae'r clwstwr yn cydweithio â'r tîm Rheoli Meddyginiaethau drwy'r ganolfan archebu presgripsiynau.  Mae hyn yn cynnig opsiwn arall i gleifion ac yn lleddfu'r pwysau ar ofal sylfaenol drwy gyfeirio cleifion at ffynhonnell gyswllt arall, a rhyddhau amser gwerthfawr i staff y dderbynfa ddelio â galwadau eraill.  Bydd y ganolfan archebu presgripsiynau hefyd yn helpu i arbed costau mewn perthynas â gwastraff meddyginiaethau a phresgripsiynu mwy cost effeithiol.

Gofal ac Atgywirio 
Parhau i ariannu a datblygu prosiect Cartrefi Iach Gofal a Thrwsio er mwyn helpu cleifion i barhau i fod yn annibynnol ac yn ddiogel yn eu cartref eu hunain am gyhyd â phosib.

Tŷ Elis – Gwasanaeth Cwnsela
Parhau i ariannu a datblygu'r gwasanaeth cwnsela er mwyn gwella mynediad cleifion at wasanaethau iechyd meddwl a lles.  Darparu ymyriadau cwnsela therapiwtig strwythuredig er mwyn tawelu meddwl unigolion sydd mewn trallod emosiynol a gwella strategaethau ymdopi a gwytnwch unigolion.

Ffisiotherapi cyswllt cyntaf
Wedi datblygu gwasanaeth ffisiotherapi lleol cyswllt cyntaf i leihau pwysau a gwella cynaliadwyedd gwasanaethau meddygfeydd drwy ddarparu'r gofal priodol gan yr unigolyn priodol ar yr adeg briodol.  


Yr hyn rydym wedi’i wneud eisoes

Profion CRP (Protein C-adweithiol) ar gyfer y Pwynt Gofal (CRP)

Wedi darparu profion CRP i leihau presgripsiynu gwrthfiotigau’n amhriodol a nodi achosion o niwmonia difrifol a gafwyd yn y gymuned yn gynnar.  

Fferyllwyr clwstwr
Mae'r clwstwr yn cyllido 2 fferyllydd i hybu’r gwaith o ddatblygu gwasanaethau fferyllol a'r agenda rheoli meddyginiaeth integredig yn y clwstwr. Gwneir hyn drwy sicrhau bod gofal sylfaenol yn cael ei bresgripsiynu ym meddygfeydd y clwstwr mewn modd diogel a chost-effeithiol, sy’n seiliedig ar dystiolaeth.

Tîm Nyrsio Clwstwr Gofal Sylfaenol
Datblygu Tîm Nyrsio Gofal Sylfaenol y Clwstwr i hybu'r gwaith o adolygu cleifion gyda chyflyrau cronig sy'n gaeth i'r cartref, a darparu cymorth rhagweithiol a pherthnasol i helpu unigolion i drin eu cyflyrau.

Dermatoleg
Cyrsiau dermatosgopi a ariennir drwy Brifysgol Caerdydd a dermatosgopau ar gyfer meddygfeydd. Gwella’r cysylltiadau â gwasanaethau dermatoleg gofal eilaidd a sicrhau bod cleifion yn cael diagnosis o ganser y croen mewn modd amserol.

Llif gwaith
Mae’r clwstwr wedi buddsoddi yn HERE Workflow i sefydlu mecanweithiau er mwyn rheoli gohebiaeth cleifion yn effeithiol a lleihau’r llwyth gwaith ar feddygfeydd.

Llwybr iechyd meddwl
Datblygu llwybr i gleifion gydag anghenion iechyd meddwl er mwyn sicrhau eu bod nhw’n gallu cael cymorth perthnasol yn ôl yr angen.

Prawf anadlu allan ocsid nitrig  ffracsiynol (FENO)  
Peiriannau profi FENO wedi'u  hariannu ar gyfer diagnosis a rheoli  asthma.

Blaenoriaethau’r Clwstwr ar gyfer y dyfodol

Ymddygiad/ffordd o fyw’r boblogaeth
Mynd i'r afael ag ymddygiadau/ffordd o fyw’r boblogaeth, fel ysmygu/camddefnyddio sylweddau/gordewdra/diffyg ymarfer corff neu ddeiet gwael. Archwilio’r adnoddau sydd ar gael yn y trydydd sector er mwyn helpu i gydlynu gweithgareddau i fynd i'r afael â ffyrdd o fyw/ymddygiad peryglus ymysg y boblogaeth.

 

 

Diweddariad 03/10/2023