Neidio i'r prif gynnwy

Cwm Rhondda

 
Arweinydd y Clwstwr Dr Bikram Choudhary

Arweinydd Rheolwyr PractisLindsey Sandhu

Arweinydd Fferyllfeydd Cymunedol y Clwstwr – Gareth Hughes

Rheolwr Datblygu'r Clwstwr  – Caitlin Jacob  


Mae Clwstwr Gofal Sylfaenol Rhondda yn gwasanaethu oddeutu 89,000 o gleifion.

Mae cynrychiolwyr o Iechyd Cyhoeddus Cymru, fferyllwyr ac optometryddion, aelodau o’r trydydd sector a’r awdurdod lleol yn mynychu cyfarfodydd i sicrhau gwaith amlddisgyblaethol ar draws gofal sylfaenol, cymunedol a chymdeithasol.

Mae 11 o bractisiau yn ardal Clwstwr Gofal Sylfaenol Rhondda:

Canolfan Feddygol Cwm Gwyrdd
Practis De Winton Field
Canolfan Feddygol Forest View
Meddygfa Llwynypia
Practis Grŵp Meddygol Glynrhedynog / y Maerdy 
Meddygfa Park Lane
Meddygfa Penygraig
Canolfan Feddygol Pont Newydd
Meddygfa St Andrew 
Meddygfa Dewi Sant
Meddygfa Pendyrus

Mae Canolfan Feddygol Glynrhedynog yn cael ei rheoli'n uniongyrchol gan y Bwrdd Iechyd.
 
Cynlluniau ac Adroddiadau Clwstwr Unigol

Mae’r clwstwr cyfan yn rhan o ddatblygu Cynlluniau’r Clwstwr drwy wneud awgrymiadau, trafod a chynllunio prosesau datblygu newydd, a wneir fel arfer mewn cyfarfodydd clwstwr.  Bydd Arweinwyr y Clwstwr yn ysgrifennu Cynllun y Clwstwr ar ran y Clwstwr.

Clwstwr Cwm Rhondda IMTP 2020-2023 (Saesneg yn unig)

Cynllun Cyflawni Blynyddol Clwstwr Rhondda 2021-2022 (Saesneg yn unig)

Cynllun Gweithredu Rhwydwaith Clwstwr Cwm Rhondda 2017/20  (Saesneg yn unig)

Yr hyn rydym yn gweithio arno

Gwasanaeth cwnsela a monitro gweithredol cyfunol MIND
Mae model arloesol MIND wedi ei gynllunio i greu llwybr di-dor, o atgyfeiriad gan y meddyg teulu i asesiad, er mwyn penderfynu p’un ai monitro gweithredol neu ymyrraeth therapiwtig (cwnsela) sydd fwyaf addas.  Mae’r gwasanaeth yn cael ei gynnig i bobl sy’n mynd at y meddyg gyda symptomau sy’n gysylltiedig â phroblemau iechyd meddwl cyffredin. Gall y rhain gynnwys gorbryder, iselder ysgafn, straen, pryder a hunanhyder neu hunan-barch isel.  Dechreuodd y gwasanaeth o bell ar 1 Hydref 2020 oherwydd y cyfnodau clo cenedlaethol, ac erbyn hyn mae’n symud at gyfuniad o sesiynau ar-lein ac wyneb yn wyneb gyda phresenoldeb mewn meddygfeydd.

Gwasanaeth ffisiotherapi cyhyrysgerbydol cyswllt cyntaf
O 2021, bydd pob meddygfa yn Rhondda’n gallu atgyfeirio cleifion at wasanaeth ffisiotherapi cyswllt cyntaf ar eu safle er mwyn cysylltu â chleifion yn gynharach a rheoli cyflyrau cyhyrysgerbydol yn effeithiol.

Pwysau iach
Mae staff y clwstwr, sef gweithwyr cymorth gofal iechyd a nyrsys yn bennaf, yn ymgymryd â chwrs achrededig Sgiliau Bwyd a Maeth Cymunedol Lefel 2 Agored Cymru, er mwyn rhaeadru negeseuon i gleifion ynglŷn â bwyd a maeth. Bydd y negeseuon hyn yn gyson ac yn seiliedig ar dystiolaeth. 

Llywio Gofal
Mae’r clwstwr wedi buddsoddi mewn hyfforddiant i staff y rheng flaen er mwyn eu helpu i ddatblygu rhagor o sgiliau a gwybodaeth i fynd ati’n rhagweithiol i atgyfeirio cleifion at y gwasanaeth mwyaf priodol sydd ar gael iddynt.  Ymhlith y partneriaid mae fferyllfeydd cymunedol, optometryddion, ffisiotherapyddion, Interlink (Cydlynydd Lles), Cadw’n Iach yn y Gwaith (gwasanaeth awdurdod lleol) a phwynt cyswllt cyntaf y gwasanaethau cymdeithasol.

Mae gwefan a safleoedd Rhondda Docs ar y cyfryngau cymdeithasol yn cael eu defnyddio ar gyfer recriwtio a rhannu gwybodaeth am brosiectau’r clwstwr a negeseuon iechyd cyhoeddus.

Negeseuon addysg Radio Rhondda
Mae'r clwstwr yn gweithio gyda gorsaf radio leol i ddarlledu negeseuon rheolaidd gan ddau feddyg teulu, derbynnydd meddygfa a fferyllydd yn y clwstwr i gyfleu “rydyn ni yma i chi”, “byddwch yn garedig i’n derbynyddion”, a negeseuon ynglŷn â “GIG 111” a’r “cynllun mân anhwylderau”.

Atgyfeiriad at Slimming World
Mae Clwstwr Rhondda wedi prynu talebau Slimming World, ac mae meddygon teulu, nyrsys practis a gweithwyr iechyd proffesiynol eraill yn gallu eu rhoi nhw i gleifion sy'n ateb y meini prawf cymhwysedd (sef BMI o 35 neu fwy). Mae'r daleb yn gadael i'r claf fynd i grŵp Slimming World am ddim am 12 wythnos.

Hospify
Mae clwstwr Rhondda wedi prynu trwyddedau ar gyfer platfform cyfathrebu Hospify er mwyn cyfathrebu’n well ar draws meddygfeydd a fferyllfeydd cymunedol.

Fforwm Fferyllfeydd Clwstwr Rhondda
Mae gan glwstwr Rhondda 12 o feddygfeydd a 27 o fferyllfeydd cymunedol, sef niferoedd mawr. Roedd cynnal cyfarfodydd clwstwr, lle gallai pob meddygfa a fferyllfa gymunedol gael lle wrth y bwrdd, yn ogystal ag optometryddion, deintyddion a chynrychiolwyr o’r trydydd sector a’r awdurdod lleol, yn heriol. Yn 2019, er mwyn cydweithredu’n well, datblygodd cynrychiolwyr o’r fferyllfeydd yn Rhondda Fforwm y Fferyllfeydd. Maen nhw’n cyfarfod cyn prif gyfarfod y clwstwr i drafod materion sy'n berthnasol i'r clwstwr, gan gynnwys blaenoriaethau a phrosiectau’r clwstwr.

Yn 2021, mae'r fferyllwyr cymunedol yn y Rhondda wedi bod yn datblygu ac yn cyflawni cwrs byr gyda Bowel Cancer UK i annog sgyrsiau gyda chleifion ynglŷn â sylwi ar symptomau a chael profion yn gynnar.

Cydweithio â'r trydydd sector. Mae gan glwstwr Rhondda gysylltiadau cryf â thri Chydlynydd Lles sy'n rhan o'r Tîm Iechyd a Lles Cymunedol. Rôl Cydlynydd Lles yw cyfeirio cleifion at wasanaethau yn y gymuned er mwyn eu helpu i fynd i'r afael ag unrhyw broblemau sy'n effeithio ar eu hiechyd a'u lles. Y clwstwr oedd yn ariannu’r rôl hon yn flaenorol.

Yn ddiweddar, mae'r clwstwr wedi gweithio gyda Versus Arthritis i drefnu sesiynau addysg i weithwyr proffesiynol a chleifion.

Yr hyn rydym wedi’i wneud eisoes

Fferyllwyr clwstwr
Mae'r clwstwr yn parhau i ariannu 5 fferyllydd cyfwerth ag amser llawn i weithio mewn meddygfeydd.  Yn rhan o’r gwaith mae polyfferylliaeth ac adolygiadau o foddion cleifion. Mae llawer o'r meddygfeydd hefyd yn cyflogi fferyllwyr yn uniongyrchol.

Grow Rhondda
Datblygodd y clwstwr raglen arddio 8 wythnos o hyd ar gyfer cleifion sy'n dioddef arwahanu, gorbryder ysgafn neu iselder ysgafn, mewn cydweithrediad â Siediau Dynion Treorci. Mae'r grŵp yn gweithio mewn gerddi yn yr ysbyty cymunedol lleol er mwyn gwella'r amgylchedd i gleifion ac i’r staff. Mae'r grŵp hefyd wedi creu tudalen Facebook i rannu awgrymiadau o ran garddio ac i roi cymorth i’w gilydd y tu hwnt i’r sesiynau wythnosol.

Prosiect cartrefi nyrsio/preswyl
Mae'r clwstwr wedi rhesymoli nifer y meddygfeydd sy'n ymweld ag unrhyw gartref nyrsio neu breswyl.  Trwy neilltuo cartref i un feddygfa neu ddwy yn unig, yn dibynnu ar nifer y preswylwyr, mae'r clwstwr wedi gwella’r cyfathrebu rhwng y meddyg teulu a'r cartref. Erbyn hyn, maen nhw’n delio â llai o feddygfeydd ac amrywiadau o ran systemau, fel archebu presgripsiynau rheolaidd.

Ymarferion Parkrun – Mewn partneriaeth rhwng RCGP a Parkrun UK, mae practisau’n cael eu hannog i ddatblygu cysylltiadau agos â'u menter Parkrun leol. Mae pob practis yn Rhondda wedi cofrestru i fod yn bractisau Parkrun.

Penodi swyddog cyfathrebu’r clwstwr i hyrwyddo gweithio a byw yn Rhondda.

Hyfforddiant i’r staff – Yn ogystal â hyfforddiant Llywio Gofal, mae staff gweinyddol wedi ymgymryd â hyfforddiant optimeiddio llif gwaith, crynhoi, terminoleg feddygol a chod darllen ar sail clwstwr.

Blaenoriaethau’r Clwstwr ar gyfer y dyfodol

Gweithio gyda'r Bwrdd Iechyd i ddatblygu Tîm Amlddisgyblaethol Rheoli Poen Cronig.

Defnyddio data segmentu’r poblogaeth a data haenu risg i benderfynu ar y ffordd orau o ddefnyddio amser ac adnoddau cyfyngedig er mwyn darparu gofal rhagweladwy a rhagataliol i gleifion.

Datblygu perthnasoedd cryfach â model y Tîm Amlddisgyblaethol Iechyd a Lles Cymunedol, wedi eu galluogi gan y Rhaglen Trawsnewid Cadw’n Iach yn eich Cymuned.

Gweithio gyda'r Bwrdd Partneriaeth Rhanbarthol i ddatblygu modelau newydd o iechyd a gofal cymdeithasol integredig sy'n arloesi ac yn mynd i'r afael â blaenoriaethau rhanbarthol.

Parhau i gydweithio â Grŵp Lleoliad Integredig Rhondda a Taf Elái i ddatblygu gwasanaethau ac adolygu llwybrau gofal er mwyn helpu cleifion i ddefnyddio gwasanaethau mewn lleoliadau gofal sylfaenol a chymunedol.

 

Diweddarwyd 20/08/2021