Neidio i'r prif gynnwy

Dwyrain y Fro

 
Arweinydd y Clwstwr Dr Chris Matthews  

 

Practisau Cyffredinol yn Iechyd Dwyrain y Fro
Ar hyn o bryd mae Clwstwr Dwyrain y Fro yn cynnwys 3 Practis Meddygon Teulu gyda phoblogaeth clwstwr cyfunol o 37,332.

Partneriaeth Gofal Iechyd Penarth 
Practis Meddygol Dinas Powys 
Meddygfa Redlands

Cynlluniau ac Adroddiadau Clwstwr Unigol

Mae Clwstwr Dwyrain y Fro wrthi'n datblygu ei gynllun ar gyfer 2024-25.   Mae'n seiliedig ar yr asesiad anghenion y boblogaeth lleol, yn ogystal â'r blaenoriaethau sy'n dod i'r amlwg a nodwyd gan aelodau'r clwstwr.

Cynllun Gweithredu Rhwydwaith Clwstwr Dwyrain y Fro 2017/20   (Saesneg yn unig) 


Yr hyn rydym yn gweithio arno

Maen nhw’n datblygu prosiectau i gefnogi’r boblogaeth leol.  

Yr hyn rydym wedi’i wneud eisoes

Dwyrain y Fro sydd â'r ganran uchaf ond un o gleifion oedrannus, ac mae'n ymdrechu i gadw cleifion yn iach gartref yn hytrach na threulio cyfnodau o amser yn yr ysbyty.  Er mwyn cyflawni hyn, mae ganddynt raglen gofal yn y cartref ynghyd â thîm amlddisgyblaethol sy'n cydweithio i gefnogi'r garfan hon o gleifion.  Yn ogystal, mae gan y clwstwr Nyrs Eiddilwch sy'n cynnal adolygiadau cynhwysfawr, asesiadau cwympo, cynllunio gofal ar gyfer y dyfodol ac osgoi mynd i’r ysbyty.  Mae yna hefyd wasanaeth ffliw caeth i'r tŷ i ddarparu brechlynnau amserol i gleifion sy'n gaeth i'r tŷ. Mae Fferyllydd Clwstwr wedi'i gyflogi i ddarparu capasiti ychwanegol i ddiwallu anghenion meddyginiaeth cleifion.

Blaenoriaethau’r Clwstwr ar gyfer y dyfodol

Maen nhw’n gweithio ar fentrau newydd i fynd i'r afael â rhai o'r blaenoriaethau sy'n dod i'r amlwg yn y clwstwr.   Mae'r rhain yn cynnwys ymyriadau cyn diabetes, dewisiadau ffordd o fyw ac iechyd meddwl.

 

Diweddarwyd diwethaf:  Tachwedd 2024