Neidio i'r prif gynnwy

Dinas a De Caerdydd


Arweinydd y Clwstwr Dr Evan Sun


Practisau Cyffredinol yn Iechyd Dinas a De Caerdydd 
Mae'r Clwstwr yn cynnwys ardaloedd Butetown a Grangetown yng Nghaerdydd gyda phoblogaeth o tua 41,000.  which is one of the most ethnically and culturally diverse in Wales. Mae'r Clwstwr yn gwasanaethu cymuned sy'n un o'r rhai mwyaf ethnig a diwylliannol amrywiol yng Nghymru.   Adlewyrchir hyn yn amrywiaeth yr ieithoedd a siaredir gan boblogaeth y clwstwr, a'r nifer o eglwysi, mosgiau a grwpiau cymunedol sy'n weithgar yn yr ardal.  Mae graddiant cymdeithasol i iechyd gyda'r tlotaf mewn cymdeithas yn profi’r canlyniadau iechyd ac ansawdd bywyd gwaethaf. Mae hyn yn bethnasol i Glwstwr Canol a De Caerdydd sy'n yn cael ei ystyried fel y 3edd boblogaeth gofrestredig fwyaf difreintiedig yn ôl ardaloedd clwstwr yng Nghymru, o gyfanswm o 63 o glystyrau.

Practisau Meddygon Teulu yn y Clwstwr 
Practis Meddygol Tre-Biwt  
Meddygfa Bae Caerdydd 
Canolfan Feddygol Heol Clare
Meddygfa Heol Corporation
Practis Meddygol Grange

Canolfan Iechyd Grangetown 

Yr hyn rydym yn gweithio arno

Mae Clwstwr Canol a De Caerdydd ar hyn o bryd yn y broses o ddatblygu ei gynlluniau unigol ar gyfer 2024-25 a fydd yn seiliedig ar asesiad o anghenion y boblogaeth a blaenoriaethau lleol a nodwyd gan y clwstwr.

Yr hyn rydym wedi’i wneud eisoes

Ein nod fel clwstwr yw gwella iechyd ein poblogaeth drwy archwilio a gweithredu mentrau a fydd yn gwella ansawdd y gofal a'r cymorth y mae ein cleifion yn eu derbyn. Rydym yn gweithio ar y cyd gan gynnwys pob gweithiwr proffesiynol gofal sylfaenol fel meddygon teulu, fferyllwyr, optometryddion, a deintyddion i wella mynediad cleifion i'r gwasanaethau gofal sylfaenol a chymunedol hyn drwy:  

Sicrhau bod capasiti i ddiwallu anghenion poblogaeth gynyddol yr ardal. Rydym yn gweithio i sicrhau y gall ein gwasanaethau fodloni'r galw cynyddol ar ofal sylfaenol, gan fod disgwyl i boblogaeth y Clwstwr dyfu o ystyried y nifer o ddatblygiadau tai newydd y rhagwelir y bydd yn cael eu cwblhau yn Butetown a Grangetown o fewn y 5 mlynedd nesaf.

Cynyddu'r nifer sy'n manteisio ar wasanaethau imiwneiddio a sgrinio yn ystod plentyndod, drwy weithio ar y cyd â chydweithwyr yn y Tîm Iechyd Cyhoeddus Lleol a Chyngor Caerdydd, sy’n ceisio hyrwyddo'r nifer sy'n manteisio ar wasanaethau imiwneiddio a sgrinio iechyd yn ystod plentyndod gan fod hyn yn hanfodol er mwyn cadw poblogaeth mor iach â phosibl.

Cymryd rhan ym mhrosiect Deep End Coleg Brenhinol y Meddygon Teulu. Mae Prosiect Deep End Cymru (rcgp.org.uk) yn datblygu rhwydwaith o feddygon teulu sy'n gwasanaethu'r cymunedau mwyaf difreintiedig yn economaidd-gymdeithasol yng Nghymru, gyda'r nod cyffredin o wneud darpariaeth gofal iechyd yn decach.  Er mwyn cyflawni hyn, maent yn cydweithio i rannu syniadau, gwneud gwaith ymchwil, rhoi cefnogaeth i'r ddwy ochr, hyrwyddo cleifion sy'n byw mewn ardaloedd o amddifadedd uchel, a gweithredu newid - drwy drawsnewid y ffordd y caiff gofal sylfaenol ei ariannu, ei gomisiynu a'i ddarparu ar gyfer cleifion sy'n byw yn y cymunedau mwyaf difreintiedig yn economaidd-gymdeithasol yng Nghymru.

Pethau rydym eisoes wedi'u gwneud

Diabetes Math 2 - mater meddygol difrifol y gellir ei reoli gyda ffordd o fyw ac ymyriadau meddygol. Mae'r Clwstwr wedi cyflogi dwy Nyrs Diabetes Arbenigol, sy'n cynnal clinigau mewn Practisau Meddygon Teulu. Mae'r Nyrsys Diabetes Arbenigol hyn yn cefnogi cleifion i reoli eu meddyginiaethau eu hunain ac yn cynnig cyngor ar newidiadau i ffordd o fyw y gall cleifion eu gwneud i wella eu hiechyd.  Mae'r Clwstwr hefyd wedi cymryd rhan yn Rhaglen Atal Diabetes Cymru Gyfan sy'n ceisio nodi'r bobl hynny sydd mewn perygl o ddatblygu diabetes a'u helpu i osgoi datblygu'r clefyd. 

Treialu’r prosiect ymyrraeth texting4testing HIV â Fast Track Caerdydd a’r Fro, gan ddod â’r fenter Fast Track Cities i Gaerdydd a’r Fro: Texting 4 Testing – T4T – Fast Track Caerdydd a’r Fro. Anfonodd Practisau Meddygon Teulu y Clwstwr neges destun at gleifion â dolen iddynt ofyn am becyn profi HIV cartref ac yn dilyn llwyddiant y cynllun peilot, cafodd y prosiect texting4testing ei gyflwyno ledled Cymru.

Hyrwyddo byw'n iach ac ymddygiadau ffordd o fyw iach drwy gynnal Ffair Iechyd Clwstwr yng Nghanolfan Adnoddau Butetown.  Roedd y ffair yn hyrwyddo byw'n iach ac yn cyflwyno ymddygiadau ffordd o fyw iach mewn ffordd hwyliog, teuluol, hygyrch a chyraeddadwy ac yn ymdrin â phynciau yn ymwneud ag amrywiaeth o anghenion iechyd a oedd yn cynnwys rhoi'r gorau i ysmygu, ymwybyddiaeth o dementia, iechyd deintyddol ac ymwybyddiaeth o Adfywio Cardio-pwlmonaidd. 

Nodi ffyrdd ychwanegol o helpu pobl i gynnal eu hiechyd a'u lles eu hunain drwy ymgysylltu â gwasanaethau'r trydydd sector a all eu cysylltu â grwpiau cymorth a gweithgareddau cymunedol lleol.

Blaenoriaethau’r Clwstwr ar gyfer y dyfodol 

Prosiect Presgripsiynu Cymdeithasol Gardd Gymunedol. Nod y prosiect hwn yw cynnig cyfle i bobl sy'n profi hwyliau isel neu unigrwydd, gwrdd ag eraill, treulio amser ym myd natur a mwynhau cynaeafu ffrwythau a llysiau a dyfir yn yr ardd.  Bydd y cynllun peilot hwn yn cynnwys defnyddio cyfleuster gardd gymunedol sydd wedi'i leoli yn un o'n Practisau Meddygon Teulu.

Gwella nifer y bobl sy'n manteisio ar wasanaethau Sgrinio Canser y Coluddyn drwy weithio gyda'n timau Iechyd y Cyhoedd i hyrwyddo pwysigrwydd sgrinio a chodi ymwybyddiaeth o ba mor syml yw’r broses. 

Gwella'r nifer sy'n manteisio ar imiwneiddiadau a brechiadau ar y cyd â chydweithwyr yn y Tîm Iechyd Cyhoeddus Lleol rydym yn anelu at gynyddu'r nifer sy'n manteisio ar wasanaethau imiwneiddio a sgrinio drwy fod yn rhagweithiol a chysylltu â phobl nad ydynt wedi ymateb i wahoddiadau am frechiadau gan eu Practis Meddygon Teulu. 

Gwella ein cysylltiad â chleifion nad Saesneg yw eu hiaith gyntaf drwy weithio gyda gweithwyr cyswllt ac arweinwyr ffydd wrth weithio yn y gymuned i addysgu a chael gwared ar y rhwystrau sy'n effeithio ar bobl yn manteisio ar wasanaethau imiwneiddio a sgrinio ar gyfer poblogaeth y clwstwr hwn. Rydym hefyd yn awyddus i ymgysylltu'n well â'n poblogaeth i'n helpu i ddylunio gwasanaethau. 

Cynyddu dealltwriaeth sylfaenol o'r pum maes allweddol o ran ymddygiadau ffordd o fyw sydd â goblygiadau mawr o ran iechyd a lles sef ysmygu, alcohol, gweithgarwch corfforol, deiet ac imiwneiddiadau i boblogaeth Canol a De Caerdydd.

 

Diweddarwyd diwethaf Tachwedd 2023