Neidio i'r prif gynnwy

De-ddwyrain Caerdydd

Arweinydd y Clwstwr Dr Shubha Sangal

Mae'r Clwstwr yn cwmpasu ardal de-ddwyrain Caerdydd ac mae'n gwasanaethu poblogaeth amrywiol o tua 67,000 gyda phoblogaeth ethnig sylweddol a phoblogaeth myfyrwyr fawr. Mae’r Clwstwr yn cael ei ystyried fel y 12fed poblogaeth gofrestredig fwyaf difreintiedig yn ôl ardaloedd clwstwr yng Nghymru, o gyfanswm o 63 o glystyrau.

Practisau Cyffredinol yn Iechyd De-ddwyrain Caerdydd

Ceir un wyth practis sy’n gweithredu yn ardal glwstwr Iechyd De-ddwyrain Caerdydd.  

Meddygfa Cathays 
Meddygfa Clifton 
Meddygfa Cloughmore 
Canolfan Feddygol Four Elms 
Meddygfa Albany 
Canolfan Feddygol Ffordd y Gogledd 
Meddygfa Roathwell 
Meddygfa’r Ddinas 

Cynlluniau ac Adroddiadau Clwstwr Unigol

Mae Clwstwr y De-ddwyrain ar hyn o bryd yn y broses o ddatblygu ei gynlluniau unigol ar gyfer 2024-25 a fydd yn seiliedig ar asesiad o anghenion y boblogaeth a blaenoriaethau lleol a nodwyd gan y clwstwr.

Cynllun Gweithredu Rhwydwaith Clwstwr De-ddwyrain Caerdydd 2017/20  (Saesneg yn unig)  

Yr hyn rydym yn gweithio arno

Gwella anghenion iechyd a gofal cymdeithasol poblogaeth De-ddwyrain Caerdydd rydym wedi lansio Cam 2 Canolfan Lles De-ddwyrain Caerdydd (CLlDDdC), menter gydweithredol rhwng gwasanaethau Iechyd Gofal Sylfaenol, yr Awdurdod Lleol ac asiantaethau'r Trydydd Sector i gyd-fynd â rhaglen Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro Llunio Ein Lles i’r Dyfodol - Yn ein Cymuned:   Llunio ein Lles yn y Dyfodol - Yn ein Cymuned - Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro (gig.cymru). Llunion ein Lles yn y Dyfodol – Yn ein Cymuned – Bwrdd Iechyd Prifsgol Caerdydd a’r Fro (gig.cymru) 

Mae'r gwasanaeth yn cael ei weithredu mewn 4 cam gyda'r nod o gydlynu'r rheolaeth ragweithiol a chyfannol, fel ychwanegiad at ofal meddygon teulu.  Byddwn yn diwallu anghenion iechyd a chymdeithasol cleifion lle gellir cefnogi'r rhain yn well trwy ymyrraeth gwasanaethau Awdurdod Lleol, y gymuned a/neu'r trydydd sector a chyflogeion CLlDDdC, gyda chefnogaeth fferyllwyr a therapydd galwedigaethol.  

Fel Clwstwr, rydym hefyd yn edrych ar fentrau eraill i wella ansawdd gofal iechyd mewn gwahanol ffyrdd a fydd yn cynnwys pob partner gofal iechyd proffesiynol gofal sylfaenol fel meddygon teulu, fferyllwyr, optometryddion, deintyddion ac ar hyn o bryd rydym yn awyddus i gynnwys cyflwyno Nyrsys Bregusrwydd, Nyrsys Gofal Clwyfau, Gweithwyr Cymorth Gofal Iechyd a Pharafeddygon a fydd yn cynyddu mynediad cleifion i'r gwasanaethau cymunedol gofal sylfaenol hyn. 

Yr hyn rydym wedi’i wneud eisoes  

Cymeradwyo a hyrwyddo integreiddio / defnydd gwell o wasanaethau iechyd, gofal cymdeithasol a'r trydydd sector i ddiwallu anghenion lleol wrth lansio Cam 1 a 2 o Ganolfan Lles De-ddwyrain Caerdydd (CLlDDdC), a lansiwyd yn gynharach eleni sy'n cynnwys:

Hwyluso cyfarfodydd Tîm Amlddisgyblaethol Gofal Sylfaenol Lefel Clwstwr:  Mae'r cyfarfodydd hyn yn digwydd bob pythefnos, i reoli'r cyfrifoldebau cydlynu gofal parhaus, wedi'u hanelu at unigolion ag anghenion cymhleth, sydd mewn perygl o ddirywio / mynd i'r ysbyty. 

Gwiriadau dilynol a lles rhagweithiol i gleifion a ryddhawyd yn ddiweddar o'r ysbyty o fewn meini prawf diffiniedig:  Nod y galwadau hyn yw nodi 'beth sy'n bwysig' i'r claf wrth iddo wella ac asesu a os gallai cymorth ychwanegol fod o ddefnydd iddynt / pa gymorth ychwanegol a allai fod o ddefnydd iddynt.

Rheolaeth ganolog o’r broses cysoni meddyginiaeth ar ôl rhyddhau: Bydd pob claf, lle mae newid mewn meddyginiaeth wedi digwydd yn yr ysbyty, yn derbyn galwad ffôn gan y Fferyllydd Clwstwr i ddiweddaru eu gofynion meddyginiaeth presgripsiwn.

Blaenoriaethau’r Clwstwr ar gyfer y dyfodol

Gwella nifer y bobl sy'n manteisio ar wasanaethau Sgrinio Canser y Coluddyn drwy weithio gyda'n timau Iechyd y Cyhoedd i hyrwyddo pwysigrwydd sgrinio a chodi ymwybyddiaeth o ba mor syml yw’r broses.

Gwella'r nifer sy'n manteisio ar imiwneiddiadau a brechiadau ar y cyd â chydweithwyr yn y Tîm Iechyd Cyhoeddus Lleol rydym yn anelu at gynyddu'r nifer sy'n manteisio ar wasanaethau imiwneiddio a sgrinio.

Gwella gofal cleifion nad Saesneg yw eu hiaith gyntaf trwy weithio gyda gweithwyr cyswllt ac arweinwyr ffydd i hwyluso cyfathrebu trawsddiwylliannol effeithiol fel y gall pob claf dderbyn y gefnogaeth a'r gofal y maent yn eu haeddu.

Cynyddu dealltwriaeth sylfaenol o'r pum maes allweddol o ran ymddygiadau ffordd o fyw sydd â goblygiadau mawr o ran iechyd a lles i boblogaeth De-ddwyrain Caerdydd; ysmygu, alcohol, gweithgarwch corfforol, deiet ac imiwneiddiadau.

Hyrwyddo a hwyluso prosesau cynllunio gofal uwch ar gyfer y rhai sydd â salwch sy'n cyfyngu ar fywyd sy'n dymuno cwblhau dogfennau cyfarwyddeb uwch: https://www.nia.nih.gov/health/advance-care-planning/advance-care-planning-advance-directives-health-care (Saesneg yn unig)

 

Diweddarwyd diwethaf Tachwedd 2023