Neidio i'r prif gynnwy

Gorllewin Conwy

 
Arweinydd y Clwstwr Geraint Davies / Dr Mike Bloom


Practisau Cyffredinol yn Iechyd Gorllewin Conwy
Ceir un deg dau practis sy’n gweithredu yn ardal glwstwr Iechyd Gorllewin Conwy 
Bwrdd Iechyd, a chyfanswm poblogaeth y practisau yw 63,461. Mae’r clwstwr hwn yn un amrywiol gyda 3 phractis meddyg teulu wedi’u lleoli mewn ardal wledig sy’n cwmpasu ardal ddaearyddol eang.

Bodreinallt 
Practis Meddygol Craig Y Don 
Llys Meddyg (Conwy) 
Lonfa 
Meddygfa (Betws y Coed) 
Meddygfa Gyffin 
Practis Meddygol Tŷ Mostyn 
Meddygfa Plas Menai 
Y Ganolfan Feddygol (Bae Penrhyn) 
Y Feddygfa (Llanwrst) 
Practis Meddygol Uwchaled 
Meddygfa West Shore 

Ceir 4 Clwstwr o fewn Ardal Ganolog rhanbarth Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr sy’n cwmpasu siroedd Conwy a Dinbych.

Cyfeiriadur Iechyd Poblogaeth Gogledd Cymru
Mae Cyfeiriadur Iechyd Poblogaeth Gogledd Cymru yn canolbwyntio ar flaenoriaethau iechyd cyhoeddus ac yn darparu gwybodaeth am anghenion iechyd y boblogaeth ar lefelau daearyddol gwahanol i staff y GIG at ddibenion cynllunio. 
Clwstwr Gorllewin Conwy 

 

Prif Enwau Cyswllt yr Ardal Ganolog
Clare Darlington; Cyfarwyddwr Ardal Cynorthwyol ar gyfer Gofal Sylfaenol (Canolog) 
Dr Liz Bowen Cyfarwyddwr Meddygol yr Ardal, Gofal Sylfaenol (interim)

Jodie Berrington. Uwch Gydgysylltydd y Clwstwr (Canolog)  

Arweinwyr Clwstwr yr Ardal Ganolog

Dwyrain Conwy Dr Jonathan Williamson
Gorllewin Conwy Geraint Davies
Gogledd Sir Ddinbych

Dr Jane Bellamy a
Dr Clare Corbett

Canol a De Sir Ddinbych Dr Matthew Davies

Rhoddir arian i bob Clwstwr i gefnogi blaenoriaethau’r clwstwr yn unol â blaenoriaethau Llywodraeth Cymru i wella mynediad a chael mynediad teg neu i wella’r gymysgedd o sgiliau mewn gofal sylfaenol, a hynny’n bennaf i hyrwyddo’r broses o ddefnyddio adnoddau’n ddarbodus.

Cynlluniau ac Adroddiadau Clwstwr Unigol

Yr hyn rydym yn gweithio arno

Clwstwr Gorllewin Conwy IMTP 2020-2023 (Saesneg yn unig)
Mae’r clwstwr yn ymchwilio i fanteision cael ‘is-glwstwr’ ar gyfer y practisau mwy gwledig yng Ngorllewin Conwy sydd â blaenoriaethau gwahanol i’r practisau mwy arfordirol.  Bydd y dull hwn yn edrych ar ffyrdd o wella’r broses o ddatblygu aeddfedrwydd y clwstwr a gwasanaethu’r holl gleifion ledled yr ardal yn well

 Yr hyn rydym wedi’i wneud eisoes

Cynllun Gweithredu Rhwydwaith Clwstwr Gorllewin Conwy 2016 17 (Saesneg yn unig)
Mae’r Llywiwr Cymunedol yn rhan integredig o’r clwstwr ac mae’r adborth yn gadarnhaol iawn gyda chanlyniadau da i gleifion a llywio llwyddiannus. Cyfrannodd y gwasanaeth hwn at y berthynas gadarnhaol rhwng y trydydd sector a Gofal Sylfaenol.  Mae’r broses o werthuso’r gwasanaeth hwn yn un barhaus.

Blaenoriaethau’r Clwstwr ar gyfer y dyfodol

Blaenoriaethau’r Clwstwr yn y Dyfodol
Blaenoriaethau cyllido ar gyfer 17/18

  • Fferyllwyr wedi’u lleoli mewn practisai
  • Cwnsela iechyd meddwl
  • Ffisiotherapydd wedi’i leoli mewn practisau
  • Sefydlu’r broses o barhau i ddatblygu pob clwstwr, gan weithio’n agos gyda’r timau cydgysylltu a Thîm yr Ardal, er mwyn ychwanegu at yr aeddfedrwydd presennol, y dyheadau a chanolbwyntio ar gynaliadwyedd
  • Mae’r is-glwstwr gwledig yn ymchwilio i fanteision y ganolfan Trin Gofal Sylfaenol i gleifion ynysig. Bydd hyn yn cynorthwyo cleifion na allant deithio a’r galw ar bractisau.  Mae gan gleifion sy’n byw rhannau gwledig y clwstwr fynediad cyfyngedig i wasanaethau ac mae’r practisau’n ymchwilio i ffyrdd newydd o weithio gyda gofal eilaidd.

 

Diweddariad arweiniol clwstwr 13/09/2021