Mae gan glwstwr Arfon 10 Practis meddyg teulu sy’n gwasanaethu poblogaeth o 67,850 o gleifion.
Mae 32 % o’n cleifion yn byw mewn ardaloedd gwledig, sy’n uwch na chyfartaledd Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr (BIPBC).
Mae 22% o’r boblogaeth yn byw yn yr ardaloedd sydd yn y ddau bumed â’r amddifadedd mwyaf yng Nghymru (sy’n is na chyfartaledd BIPBC).
Gellir dod o hyd i ragor o fanylion ar www.bcu.wales.nhs.uk,
www.arsyllfaiechydcyhoedduscymru.wales.nhs.uk a www.gwynedd.gov.uk
Meddygfeydd yn Arfon
Mae yna naw practis yn gweithredu yn ardal Clwstwr Arfon
Mae tua 67,850 o’r boblogaeth wedi cofrestru â phractis yng Nghlwstwr Gofal Sylfaenol Arfon.
Bodnant, Rhodfa’r Fenai, Bangor
Canolfan Feddygol Bron Derw, Ffordd Glynne, Bangor
Canolfan Feddygol Yr Hen Orsaf, Bethesda
Hafan Iechyd, Doc Fictoria, Ffordd Balaclava, Caernarfon
Y Feddygfa, Cae Heti, Stryd Fawr, Llanberis
Tŷ Corwen, Penygroes
Llys Meddyg, Ffordd Victoria, Penygroes
Liverpool House, Waunfawr
Meddygfa Porth Dinorwig
Cyfeiriadur Iechyd Poblogaeth Gogledd Cymru
Mae Cyfeiriadur Iechyd Poblogaeth Gogledd Cymru yn canolbwyntio ar flaenoriaethau iechyd cyhoeddus ac yn darparu gwybodaeth am anghenion iechyd y boblogaeth ar lefelau daearyddol gwahanol i staff y GIG at ddibenion cynllunio. Clwstwr Arfon
Rydym yn gweithio ar greu swydd GP COTE, cyflogi meddyg teulu i adolygu ein cleifion cartrefi gofal a thrafod cynlluniau dwysáu triniaeth gyda nhw.
Rydym yn cefnogi’r Clwstwr i geisio cynyddu’r nifer sy’n manteisio ar y brechlyn rhag y ffliw.
Rydym yn cefnogi cynllun peilot ar gyfer profi CRP gyda chleifion
Rydym yn cefnogi prosiect peilot calprotectin ysgarthol, sy’n sicrhau bod y prawf ar gael i feddygon teulu mewn gofal sylfaenol.
Diweddariad arweiniol clwstwr 13/09/2021