Neidio i'r prif gynnwy

De Sir Fynwy

 
Arweinydd y Clwstwr Dr Annabelle Holtam 


Mae dau Rwydwaith Gofal yn y Gymdogaeth (NCN) yn Sir Fynwy (y Gogledd a’r De) sydd â phoblogaeth gofrestredig o 53,701 a 47,353 yn y drefn honno.
Mae pum practis ar waith yn ardal clwstwr (NCN) De Sir Fynwy.

Practisau Meddygon Teulu yng Nghlwstwr De Sir Fynwy 

Meddygfa Gray Hill
Practis Mount Pleasant
Practis Town Gate
Meddygfa Vauxhall
Practis Wyedean 

Cynlluniau ac Adroddiadau Clwstwr Unigol

Clwstwr De Sir Fynwy NCN IMTP 2020-2023 (Saesneg yn unig)
Cynllun NCN De Sir Fynwy ar Dudalen IMTP 2020 / 2023 (Saesneg yn unig) 
De Sir Fynwy NCN Adroddiad Blynyddol 2018-19 (Blwyddyn 2) (Saesneg yn unig)
Cynllun Gweithredu Rhwydwaith Clwstwr NCN De Sir Fynwy 2018_19 Blwyddyn 3 (Saesneg yn unig)
Cynllun NCN De Sir Fynwy ar Dudalen 2019/20 (Saesneg yn unig)

Proffil y Clwstwr
Cyfanswm poblogaeth gyfan Sir Fynwy yw tua 100,000 sy’n byw dros 850km2, wedi’i rannu’n ddau Rwydwaith Gofal yn y Gymdogaeth, sef y Gogledd a’r De. Poblogaeth De Sir Fynwy yw 47,353 (adroddiad meddygol 01.01.20), sef cynnydd o 0.2% ers 2015. Ceir 5 Practis meddyg teulu, 4 feddygfa cangen a 2 dîm Iechyd a Gofal Cymdeithasol Integredig sy’n gwasanaethu poblogaeth y Fenni, Trefynwy, Brynbuga a’r cyffiniau. Mae’r Rhwydwaith Gofal yn y Gymdogaeth yn ffinio â Thor-faen i gyfeiriad y Dwyrain, Powys i’r Gogledd a Lloegr i’r Gorllewin, ac o 1 Ebrill 2019 ymlaen roedd cyfanswm o 6,206 o bobl sy’n byw yn Lloegr wedi cofrestru â Meddyg Teulu yng ngogledd Sir Fynwy.

Gwelodd y Rhwydwaith gynnydd o 2.3% yn y boblogaeth ers 2017/18 ac erbyn 2036, rhagwelir y bydd nifer y bobl ledled Sir Fynwy sydd dros 85 oed yn cynyddu 147%, o tua 13,000 yn 2011 i 32,0002. Rhagwelir twf pellach yn y boblogaeth yn sgil datblygiadau tai newydd a gynlluniwyd ar gyfer Sir Fynwy / Forest of Dean, a allai gynyddu yn sgil diddymu’r tollau ar Bont Tywysog Cymru ym mis Rhagfyr 2018.

Ystyriwyd Sir Fynwy yn ardal gyfoethog ers blynyddoedd lawer, a gall hynny guddio’r gwahaniaethau o fewn a rhwng cymunedau. Roedd cyflogau yn 2017/18 tua 10% islaw cyfartaledd y DU a dim ond fymryn yn uwch na chyfartaledd Cymru. Roedd tua 34% o’n poblogaeth sy’n gweithio yn cymudo o’r sir i ennill bywoliaeth1.  Rydym yn wynebu llawer o heriau fel y nodwyd eisoes, yn arbennig o ran creu cymuned gadarn a chynaliadwy a gwasanaethau gofal sylfaenol.  Mae heriau newydd sy’n rhoi pwysau ar ein system Iechyd a Gofal Cymdeithasol o ran anawsterau i recriwtio staff.  Rydym yn dibynnu ar wasanaethau’r Trydydd Sector i gynnig amrywiaeth o gymorth ac mae’r cysylltiadau hyn yn allweddol wrth i ni geisio cyflawni ein tair prif flaenoriaeth.

O ran strwythur sefydliadol, trefniadau llywodraethu lleol a chysylltiadau strategol, mae’r Rhwydwaith yn gweithredu yn unol â strategaethau Dyfodol Clinigol a Gofal yn Nes at y Cartref Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan, Bwrdd Partneriaeth Gwasanaethau Integredig Sir Fynwy, Bwrdd Partneriaeth Rhanbarthol Gwent, yn ogystal â Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) a Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant  (Cymru).

Ffynonellau: 1Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) – Asesu Llesiant Cyngor Sir Fynwy 2017/ 2Asesiad o Anghenion Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant Sir Fynwy
https://www.monmouthshire.gov.uk/app/uploads/2017/10/Population_Needs_Assessment_Final.pdf
https://www.monmouthshire.gov.uk/app/uploads/2017/10/13396-Population-Needs-Assesment-Report-WELSH-24.7.pdf

Yr hyn rydym yn gweithio arno
Cytunodd y Rhwydwaith Gofal yn y Gymdogaeth ar 3 phrif flaenoriaeth sy’n sail i’w Gynllun Tymor Canolig Integredig ar gyfer 2020-23:

•        Darparu Gofal yn Nes at y Cartref

•        Mynd i’r afael ag unigrwydd ac ynysu cymdeithasol

•        Creu Gofal sylfaenol cynaliadwy yn sgil twf yn y boblogaeth

Yr hyn rydym wedi’i wneud eisoes
Cynnal asesiad cynhwysfawr o anghenion i fod yn sail i flaenoriaethau ein Cynllun Tymor Canolig Integredig dros y 3 blynedd nesaf.
Blaenoriaethau’r Clwstwr ar gyfer y dyfodol
  • Parhau i sicrhau bod cynlluniau datblygu’r Rhwydwaith Gofal yn y Gymdogaeth yn adlewyrchu anghenion lleol;
  • Parhau i weithio mewn partneriaeth â Gofal Sylfaenol ac Eilaidd, y Trydydd Sector a phobl leol i gefnogi cyflawni strategaeth Gofal yn Nes at y Cartref;
  • Parhau i weithio gyda phractisau meddygon teulu i ddeall materion yn ymwneud â chynaliadwyedd a nodi a chynyddu’r ardaloedd ar gyfer gweithio ar draws practisau;
  • Parhau i ymrwymo cyllid y Rhwydwaith Gofal yn y Gymdogaeth i dreialu cynlluniau/gwasanaethau newydd sy’n gysylltiedig â blaenoriaethau Cynllun y Rhwydwaith Gofal yn y Gymdogaeth.