Neidio i'r prif gynnwy

De Powys

 
Arweinydd y Clwstwr Dr Doug Paton


Mae Clwstwr y De yn aeddfed iawn, mae’r broses o gydweithio wedi bwrw gwreiddiau cadarn ac mae’r partneriaid yn cyfranogi’n gyson.  Mae’n cynnwys 4 practis meddyg teulu gyda phoblogaeth o 45,580:Hefyd ceir 8 Fferyllydd, 6 Phractis Optometreg, 8 Practis Deintyddol a 2 Wasanaeth Deintyddol Cymunedol yn y Clwstwr.

Practisau Cyffredinol yn Iechyd De Powys
Ceir pedwar practis sy’n gweithredu yn ardal glwstwr Iechyd De Powys.

Grŵp Meddygol Brecon (Brecon a Sennybridge)
Ystradgynlais (Meddygfa Pengorof)

Canolfan Iechyd y Gelli ar Wy (a Talgarth)
Canolfan Iechyd Crickhowell  

Cynlluniau ac Adroddiadau Clwstwr Unigol

Clwstwr De Powys IMTP 2020-2023  (Saesneg yn unig)
Blwyddlyfr Clwstwr Gofal Sylfaenol Powys Tachwedd 2019  
Cynllun Gweithredu Tair Blynedd Rhwydwaith Meddygon Teulu De Powys 2017-2020 (Saesneg yn unig)

Yr hyn yr ydym yn gweithio arno:

Mae Clwstwr y De yn gweithio ers 2012 ar y broses o ddatblygu model gofal sylfaenol sy’n integreiddio gofal sylfaenol/cymunedol er mwyn darparu gwell mynediad i gleifion at wasanaethau gofal sylfaenol o ansawdd uchel a darparu’r gwasanaethau hyn mewn ffordd gynaliadwy drwy hyrwyddo ffyrdd newydd o weithio.

Yr hyn rydym wedi’i wneud eisoes

Mae’r Clwstwr wedi gweithredu rhan helaeth o fodel Gofal Sylfaenol Cymru Gyfan:
Wardiau Rhithwir a Thimau Adnoddau Cymunedol.
Cyflwyno system brysbennu dros y ffôn a gweithio o bell ym mhob practis.
Y derbynyddion yn ogystal â chlinigwyr yn cyfeirio pobl at y gwasanaeth mwyaf priodol ar gyfer eu hanghenion.
Meddyg teulu sydd â Diddordeb Arbennig mewn darparu gwasanaeth Dermatoleg yn y Clwstwr.
Cyflwyno system Therapi Gwybyddol Ymddygiadol Cwmwl Arian ar-lein y Bwrdd Iechyd i gefnogi Practisau Meddygon Teulu a gwasanaethau iechyd meddwl cymunedol.
System brysbennu glinigol ar gyfer gofal wedi’i gynllunio a heb ei gynllunio.
Aelodau newydd o’r tîm gofal sylfaenol – fferyllwyr, technegwyr fferyllol, Uwch-ymarferwyr Nyrsio, ffisiotherapyddion.
Cyflwyno tîm o Fferyllwyr sydd wedi’u lleoli yn y clwstwr i gynorthwyo practisau meddygon teulu a gwasanaethau cymunedol gan ddefnyddio cyllid Pennu Trywydd.
Defnyddio Skype i gynnal cyfarfodydd adolygu meddyginiaethau ar draws y clwstwr.
Profion lleol i gleifion.
Optometryddion – cyfeirio cleifion at wasanaethau.
Ffisiotherapyddion cyhyrysgerbydol wedi’u lleoli yn y practis.
Mwy o wasanaethau ar draws y clwstwr gan gynnwys mân lawdriniaethau.
Cynnydd yng nghyfranogiad y Trydydd Sector – Y Groes Goch, PURSH [Powys Urgent Response Service at Home], Macmillan, Credu.
Cyflwyno Cysylltwyr Cymunedol y 3ydd Sector ynghlwm wrth bob practis i gynorthwyo darparwyr gwasanaethau statudol, drwy weithio mewn partneriaeth â PAVO.
Cofnodi pob galwad yn y practis at ddibenion hyfforddi a monitro.
Ffyrdd i fferyllfeydd a system brysbennu allu gweithio o bell.
Templed safonol a ddefnyddir gan feddygon teulu er mwyn gallu gwerthuso canlyniadau clinigol yn rhwydd.
Cadw lluniau ar gofnodion meddygol er mwyn gallu monitro cyfraddau gwella ym maes dermatoleg.
System EMIS o fewn yr ysbytai.
Fy Iechyd Ar-lein.
Trefnu apwyntiadau a phresgripsiynau ar-lein.
Cymryd camau pendant i fonitro problemau iechyd meddwl ysgafn i ganolig.
Cyflwyno ymarferwyr MIND y 3ydd Sector i gynorthwyo Practisau meddygon teulu a Gwasanaethau Iechyd Meddwl Cymunedol gan ddefnyddio cyllid y Gronfa Gofal Integredig.
Presgripsiynu cymdeithasol gan MIND.
Datblygu’r grŵp Buddiannau Cymunedol ar gyfer y rhwydwaith meddygon teulu – Red Kite – ers 2015.

Blaenoriaethau ar gyfer y Dyfodol

Mae angen gwneud mwy o waith i ddatblygu’r fframweithiau llywodraethu a sicrwydd sy’n ofynnol er mwyn egluro trefniadau atebolrwydd.

Mae’n rhaid rhoi blaenoriaeth i gynrychiolaeth briodol gan bob sefydliad partner ar gyfer y dyfodol.

Gallu cyfyngedig sefydliadau partner i gynllunio a rheoli newid.

Newid sefydliadol a chymryd rhan yn gyson.

Troi datblygiadau a ariennir yn y tymor byr yn newidiadau a ariennir yn yr hirdymor.

Mwy o ddylanwad uniongyrchol gan y Tîm Gweithredol.

 


Diweddariad arweiniol clwstwr 13/09/2021