Neidio i'r prif gynnwy

Amdanom ni

Croeso i wefan Gofal Sylfaenol Un, yr adnodd ar-lein canolog i bobl sy’n gweithio ym maes gofal sylfaenol a gofal yn y gymuned yng Nghymru.  

Ni all Gofal Sylfaenol Un roi cyngor ar faterion meddygol na rhoi cyngor meddygol i unigolion neu sefydliadau.  Cysylltwch â gweithiwr iechyd proffesiynol cofrestredig os oes gennych bryder am eich iechyd.

Mae gofal sylfaenol a gofal yn y gymuned wrth galon ein cymunedau, yn ymgysylltu â phobl drwy gydol eu hoes ac yn aml, dyma’r pwynt cyswllt cyntaf y mae pobl yn ei gael â’r GIG a gofal cymdeithasol. Mae 60 o glystyrau aml-broffesiynol yng Nghymru. Mae’r clystyrau hyn yn cynnwys darparwyr gwasanaethau gofal sylfaenol a gofal yn y gymuned. Dyma’r dirwedd ar gyfer diwallu anghenion y boblogaeth drwy’r gofal iawn, gan y bobl â’r sgiliau iawn, ar yr amser iawn, ac yn y lle iawn.

Mae Gofal Sylfaenol Un yn rhoi trosolwg o’r canlynol:

  • cyfeiriad strategol gofal sylfaenol a gofal yn y gymuned yng Nghymru
  • model Gofal Sylfaenol Cymru
  • rolau a chyfrifoldebau mentrau cydweithredol proffesiynol, clystyrau aml-broffesiynol a grwpiau cynllunio clwstwr cyfan.

Nod Gofal Sylfaenol Un yw codi ymwybyddiaeth a dylanwadu ar gamau gweithredu o fewn gwasanaethau gofal sylfaenol a gofal yn y gymuned, i wella iechyd a llesiant poblogaeth Cymru. Cyflawnir hyn trwy ddarparu gwybodaeth, adnoddau a chyfeirio, i wneud y canlynol:

  • cefnogi datblygiad gweithio aml-broffesiynol
  • cryfhau mentrau cydweithredol proffesiynol a gwaith clwstwr
  • galluogi cydweithio ar draws partneriaethau
  • llywio’r gwaith o gynllunio a darparu gwasanaethau sy’n diwallu anghenion y boblogaeth
  • hwyluso rhannu arloesedd ac arferion da.

Sut i gysylltu â ni:

Mae tîm gwefan Gofal Sylfaenol Un yn croesawu cwestiynau ac adborth am y wefan.

Gallwch gyflwyno'ch adborth trwy lenwi ffurflen Microsoft fer 

Trwy e-bost: PrimaryCare.One@wales.nhs.uk

Trwy’r post:
Is-adran Gofal Sylfaenol
Iechyd Cyhoeddus Cymru
Rhif 2 Capital Quarter,
Stryd Tyndall,
Caerdydd,
CF10 4BZ