Neidio i'r prif gynnwy

4. Gwasanaethau'r Gweithlu a Datblygu Sefydliadol

Adnodd

Disgrifiad

Dyddiad lansio

2023-2024

Briff 7 Munud - Cynhadledd Genedlaethol y Gweithlu Gofal Sylfaenol 

 

Dec Sleidiau - Cynhadledd Genedlaethol y Gweithlu Gofal Sylfaenol 

Trosolwg o'r Cynhadledd Genedlaethol y Gweithlu Gofal Sylfaenol -  18. Gorffennaf 2023. 

Dec Sleidiau a ddefnyddir yn y Cynhadledd Genedlaethol y Gweithlu Gofal Sylfaenol -  18. Gorffennaf 2023

Awst 2023

‘Cynllun ar Dudalen’ Compendiwm Gofal Sylfaenol a Chymunedol Cam 2

Bydd Cam 2 y Compendiwm yn canolbwyntio ar ychwanegu mwy o astudiaethau achos at yr adnodd yn ogystal â gwella ymarferoldeb y safle i'w ddiogelu at y dyfodol trwy ddarparu'r modd y gellir ychwanegu astudiaethau achos ychwanegol fel bod y safle'n dod yn hunangyflawnol.

Mai 2023

Gwefan Compendiwm PCC – Cyfnod 1 (Lawnsiad Meddal)

Cafodd y gwefan lawnsiad meddwl i rhanddeiliaid allweddol ac yn ganlyniad o ailfeddwl y cysynyad datblygir yn 2018 gan WGAD (Wasanaethau Gweithlu, Addysg a Datblygu, nawr yn rhan o AaGIC). Y bwriad allweddol yw dangos y cyfraniad a gwerth o rolau gweithlu anrhaddodiadol, hwyluso datblygiad integredig o dimau a penderfyniadau gwybodus ar gynllunio’r gweithlu.

Ebrill 2023

2022-2023

Pennod Gweithlu - Pecyn Cymorth DCC

Pennod Gweithlu wedi ei hychwanegu i’r Pecyn Cymorth DCC sy’n cynnwys adnoddau sy’n ymwneud â’r gweithlu sylfaenol a chymunedol a chynllunio’r gweithlu

Hydref 2022 

Rhwydwaith Arweinyddiaeth 
Rheolwyr Meddygfeydd Teulu drwy y Porth Gwella 

Cafodd lawnsiad y Rhwydwaith Arweinyddiaeth Rheolwyr Meddygfeydd Teulu drwy y porth Gwella ei gyhoeddi gan Alex Slade yn ystod y Cynhadledd Rheolwyr Meddygfeydd Cenedlaethol ar y 24ain o Dachwedd 2022.  

Bwriadd y rhwydwaith yw i adeiladu ar y Rhaglen Arweinyddiaeth Rheolwr Meddygfa Hyderus a darparu pwynt ffocal cyfathrebu a chydweithio ar gyfer rheolwyr meddygfeydd ledled Cymru i rannu ymarfer da a cefnogi chyfoedion.  

Tachwedd 2022

Pyrth Arweinyddiaeth Gwella ar gyfer Mentrau Cydweithredol Proffesiynol a Chlystyrau.

Mae AaGIC, yn cydweithio gyda’r Rhaglen Strategol ar gyfer Gofal Sylfaenol, wedi datblygu adnoddau i gefnogi arweinwyr newydd a cyfredol o fewn gofal sylfaenol ar eu teithiau arwain. Drwy ddod yn aelod o’r rhwydwaith, bydd mynediad i adnoddau arweinyddiaeth craidd a ddeunydd cyfeirio yn arwyddbostio cyfleoedd datblygu arweinyddiaeth ar gael i arweinwyr Cydweithredu Proffesiynol a Chlystyrau. 

Medi 2022

Cyfleoedd dysgu a datblygu ar gyfer rolau arwain clwstwr newydd a phresennol

Mae'r papur trafod hwn yn amlinellu'r broses o nodi'r cyfleoedd dysgu presennol ac arfaethedig sydd ar gael ar hyn o bryd ar gyfer rolau arweiniol clwstwr ledled Cymru. Mae'r papur hefyd yn cynnwys cynllun gweithredu arfaethedig i fynd i'r afael â bylchau mewn dysgu a fydd yn cefnogi'r rhaglen DCC wrth iddi esblygu.

Ebrill 2022

2021-2022

AHP Canllaw ar gyfer y Gweithlu Proffesiynau Perthynol

AHP Canllaw byr: Canllaw ar gyfer y Gweithlu Proffesiynau Perthynol

Mae’r canllaw hwn gan y Rhaglen Strategol ar gyfer Gofal Sylfaenol (Rhaglen Strategol) yn alwad i’r system iechyd a gofal cymdeithasol yn ei chyfanrwydd weithredu’r egwyddorion craidd hyn a argymhellir er mwyn gwneud y defnydd gorau o’r gweithlu proffesiynol perthynol i iechyd. Maent yn berthnasol i glinigwyr, rheolwyr ac arweinwyr gwasanaethau a phawb arall sy’n gysylltiedig â chynllunio a darparu gwasanaethau clinigol.

Tachwedd 2021

Cynllunio gweithlu clwstwr gofal sylfaenol - AaGIC (ngs.cymru)

Adnoddau a chanllawiau cynllunio gweithlu Clwstwr Gofal Sylfaenol AaGIC.

Gorffennaf 2021

2020-2021

 COVID-19 Hub Wales

Mae’r hwb newydd hwn yn cyfuno’r amrywiol rolau mewn gofal sylfaenol, gofal eilaidd a gofal yn y gymuned y mae angen eu llenwi ar unwaith i reoli’r frwydr yn erbyn COVID-19. 

Ebrill 2020

 Locum Hub Wales


Locum Hub Wales Doc 1
Locum Hub Wales Doc 2

Mae Locum Hub Wales yn cynnwys ystod o nodweddion i gefnogi Practisiau Meddygon Teulu, Byrddau Iechyd Lleol a Meddygon Locwm yn eu gofynion gwaith dros dro, ac mae’n cynnwys nodwedd archebu meddygon locwm.

Ebrill 2020

2019-2020

Defnyddio AHPs

Mae’r ddogfen hon yn rhoi cyngor ac arweiniad ar ffyrdd i wneud y defnydd gorau o’r gweithlu AHP – rhai cyfredol a rhai sy’n dychwelyd – mewn ymateb i COVID-19.

Mawrth 2020 

GP Wales

GP Wales - Hwb Cynaliadwyedd Gofal Sylfaenol ar gyfer ymarfer cyffredinol. Fe'i cynlluniwyd gan feddygon teulu, ar gyfer meddygon teulu ac mae'n ceisio darparu cefnogaeth i bob practis, ym mhob ffordd

Medi 2019

 Gofal Sylfaenol Brys

Gofal Sylfaenol Brys y GIG
Lansiwyd y wefan y tu allan i oriau

Medi 2019

Offeryn Adrodd Genedlaethol y Gweithlu 

Modiwl mewnbynnu data sy'n galluogi meddygfeydd i gipio a chynnal demograffeg eu gweithlu amlddisgyblaethol. Bydd hyn, yn ei dro, yn darparu un ffynhonnell ar gyfer dadansoddi ac adrodd ar weithlu gofal sylfaenol ar lefel ymarfer, clwstwr, bwrdd iechyd a Chymru gyfan. 

Ebrill 2019

2018-2019

Y Gofrestr Meddygon Locwm i Gymru Gyfan

Cofrestr Locwm i Gymru Gyfan i strwythuro'r ddarpariaeth o waith sesiynol i gefnogi partneriaid meddygon teulu sy'n gweithio yng Nghymru ac yn darparu indemniad i unigolion cofrestredig.

Mawrth 2019