Neidio i'r prif gynnwy

3. Data a Thechnoleg Ddigidol

Adnodd

Disgrifiad

Dyddiad lansio

2022-2023

Mae Diwrnodau Iach yn y Cartref Cymru Canllaw i Ddefnyddwyr

Mae Diwrnodau Iach yn y Cartref Cymru (HDAHW) yn gyfres o fesurau ansawdd sy’n seiliedig ar boblogaeth a all ddarparu ffordd o fesur/cymharu systemau iechyd a gofal ledled Cymru a gellir eu haddasu hefyd i adlewyrchu blaenoriaethau lleol. Mae'r canllaw hwn yn esbonio egwyddorion, mesurau a defnydd y Dangosfyrddau.

Rhagfyr 2023

Digwyddiad Dangos a Dweud Diwrnodau Iach yn y Cartref Cymru

Trosolwg o'r digwyddiad Dangos a Dweud Dyddiau Iach yn y Cartref a gynhaliwyd ym mis Medi 2023 a roddodd gyfle i'r datblygwyr dangosfwrdd arddangos eu gwaith.

Medi 2023

Nodyn rhyddhau - Dangosfwrdd Cenedlaethol Diwrnodau Iach yn y Cartref Cymru (DICC)

Nodyn rhyddhau - Dangosfwrdd Cenedlaethol Diwrnodau Iach yn y Cartref Cymru (DICC)

Rhagfyr 2023

Briff 7 munud – Dyddiau Iach Gartref ar gyfer y Gweithdy Cenedlaethol Cymru

Trosolwg o’r digwyddiad rhanddeiliaid Dyddiau Iach Gartref Cymru a gynhaliwyd ar 16 Tachwedd 2022

Rhagfyr 2022

Adroddiad Gweledigaeth ac Argymhellion Porth Gwybodaeth Gofal Sylfaenol 2022

Mae’r adroddiad yma wedi’i sgwennu yn seiliedig ar ganlyniadau o SBAR chafodd ei gyhoeddi yn Ebrill 2022 yn gofyn i rhanddeiliaid am eu sylwadau ac adborth ar yr arddangosiad, a’r prosesau llywodraethu’n cyfeirio i, gwybodaeth gofal sylfaenol a cymuned. 

Bydd gwaith yn parhau dros Ch3/Ch4 2022/2023 ac ymhellach i gysidro, pan yn briodol, gweithredu ar yr argymhellion yn yr adroddiad. 

 

Uwchgyfeirio Gofal Cymunedol Sylfaenol 2022 

Gan adeiladu ar y Fframwaith Uwchgyfeirio gwreiddiol a ryddhawyd ym mis Rhagfyr 2021, mae’r adolygiad yma’n fwy syml ac mae’n rhoi pwyslais ar effaith a gweithredoedd yn ogystal a sbardunau a lefelau. Mae’r fframwaith yn alinio gydag Adroddiad Uwchgyfeirio Uned Cyflawni Gweithrediadau’r Gwasanaeth Ambiwlans a ddefnyddir yn sgrym diogelwch dyddiol ar y cyd Llywodraeth Cymru a GIG Cymru.

Hydref 2022

Nodyn Rhyddhau

Cerdyn Gweithredu Casgliad o Arfer Da

Casgliad o gardiau gweithredu sefydledig ar wasanaethau sylfaenol a chymunedol sydd wedi eu dwyn ynghyd mewn casgliad er budd y rheiny sy’n ceisio creu cardiau gweithredu newydd ar gyfer meincnodi cardiau presennol yn eu herbyn. 

Mae’r fframwaith uwchgyfeirio a’r casgliad o gardiau gweithredu wedi eu rhyddhau ar y cyd fel pecyn er mwyn cefnogi adrodd a rheoli’r pwysau ar y system. 
 

Hydref 2022

2021-2022

Fframwaith Uwchgyfeirio Gofal Sylfaenol yn y Gymuned Lefel-Uwch

Fframwaith Adrodd ar Uwchgyfeirio sy’n cynnwys; 5 lefel o uwchgyfeirio, model trigger scripts, a templed adrodd ar samplau mewn fformat Excel 
Wedi’i ddylunio i adrodd ar bwysau o fewn gofal sylfaenol ac yn y gymuned. I adrodd mewn i sgrymiau diogelwch Byrddau Iechyd Lleol ac y sgrymiau diogelwch ar y cyd rhwng GIG Cymru / Llywodraeth Cymru – i gael i weithredu o 20fed o Rhagfyr 2022.

Rhagfyr 2021

2020-2021

Offeryn Uwchgyfeirio Fferyllfeydd Cymunedol

Templed Cynllun Gweithredu Fferyllfeydd yn y Gymuned

 

Gosodwyd platfform ar-lein i gefnogi’r gwaith o gofnodi data lefelau pwysau, y gweithlu a PPE mewn fferyllfeydd yn y gymuned ledled Cymru yn y system NECAF, a hynny yn gyson.

Dylid ei ddefnyddio ar y cyd â’r Offeryn Uwchgyfeirio Fferyllfeydd Cymunedol; gall y templed hwn gofnodi’r set o weithredoedd uwchgyfeirio y cytunir arnynt rhwng y fferyllfa, y clwstwr a’r Bwrdd Iechyd.

Mehefin 2020 

 

2019-2020

Adrodd am Safonau Mynediad Meddygon Teulu Ar-lein 

Mae’r rhaglen wedi cydlynu’r gwaith o ddarparu offeryn ar-lein un stop, er mwyn cefnogi Byrddau Iechyd wrth iddynt adrodd ar Safonau Mynediad Meddygon Teulu i Lywodraeth Cymru.

Mawrth 2020

Offeryn uwchgyfeirio meddygon teulu

Llwyfan ar-lein i gefnogi cofnodi cyson o lefelau pwysedd a chynnydd mewn practisau cyffredinol ledled Cymru. Mae datblygiadau pellach wedi'u cynllunio i wella'r offeryn hwn; trwy ryddhad graddol.

Mawrth 2020