Neidio i'r prif gynnwy

1. Atal a Llesiant

Adnodd

Disgrifiad

Dyddiad lansio

2023-2024

Cefnogi Ymddygiadau Iach

Canllaw ar gyfer Meddygaeth Gyffredinol

Canllaw ar gyfer Optometreg.pptx

Mae’r adnoddau’n trafod ymddygiadau iechyd allweddol, mewn perthynas ag ysmygu, alcohol, pwysau iach, ymarfer corff, ac atal diabetes math 2, ac maent yn cynnwys yn benodol: 

  • Meysydd ar gyfer gweithgareddau gwella ansawdd

  • Cysylltiadau â hyfforddiant ac adnoddau ar gyfer y gweithlu

  • Gwybodaeth gryno am fanteision mabwysiadu ymddygiadau iach a niwed ymddygiadau afiach

  • Gwybodaeth am atgyfeirio er mwyn i unigolion gael mynediad at gymorth pellach.

Ionawr 2024

Rhagnodi Cymdeithasol - Iechyd Cyhoeddus Cymru 

Mae’r ddogfen hon yn cyflwyno pedair-ar-ddeg o astudiaethau achos o bob rhan o Gymru 
mewn perthynas â phresgripsiwn cymdeithasol.

Rhagfyr 2023

Cynllun ar Dudalen Presgripsiynu Cymdeithasol 2023-2024 

Un o'r blaenoriaethau allweddol a nodwyd ar gyfer 2023/24 fydd cefnogi datblygiad a gweithrediad parhaus y fframwaith cenedlaethol ar gyfer presgripsiynu cymdeithasol, gan roi arweiniad i'r system a chymorth wedi'i dargedu i ofal sylfaenol a chymunedol i allu gwerthfawrogi ei botensial.
Mae’r ddogfen hon yn amlinellu’r cynllun ar gyfer 2023 – 2024.

Awst 2023

Cynllun ar Dudalen Atal Gordewdra 

Bwriad y prosiect hwn yw darparu gweithgareddau unwaith i Gymru a fydd yn cefnogi gweithgarwch lleol.  Mae’r ddogfen hon yn amlinellu’r cynllun ar gyfer 2023 – 2024.

Awst 2023

Cynllun ar Dudalen Iechyd Meddwl a Llesiant Cam 2

Bydd cam 2 y prosiect yn datblygu ar y gwaith a wnaed yn ystod 2022/23 Mae’r ddogfen hon yn dangos y cynllun a’r ffocws ar gyfer 2023 – 2024.

Awst 2023

Cynllun ar Dudalen: RhADCG 2023 – 2024

Nod y prosiect hwn oedd datblygu dull ‘Unwaith i Gymru’ o ddarparu ymyriad byr i bobl sydd mewn mwy o berygl o ddatblygu diabetes math 2 ac mae wedi’i gyflwyno mewn 14 o ardaloedd clwstwr a ariennir gan RhADCG. Mae’r ddogfen hon yn amlinellu’r cynllun ar gyfer 2023 – 2024.

Awst 2023

2022-2023

Adolygiad Cenedlaethol o Alw a Gweithgaredd Gofal Sylfaenol Iechyd Meddwl

Comisiynwyd yr Adolygiad Cenedlaethol oedd rhoi gwell dealltwriaeth o’r themâu allweddol o ran darparu cefnogaeth iechyd meddwl mewn Gofal Sylfaenol, galw a gweithgaredd, amrywiadau mewn darpariaeth Gwasanaethau Gofal Sylfaenol Iechyd Meddwl y GIG a chefnogaeth iechyd meddwl gan y trydydd sector ar lefel Gofal Sylfaenol.

Hydref 2022

Cronfa RhSGS 2022-23 Prosiectau Atal Gordewdra Buddion a Chanlyniadau

Diben y papur hwn yw tynnu sylw at y buddion a'r canlyniadau a ragwelir o fuddsoddiad Cronfa RhSGS 2022 i'r gyfres o brosiectau atal gordewdra ledled Cymru. Mae 10 prosiect i fynd i'r afael ag atal gordewdra yn cael eu datblygu ar draws y 7 bwrdd iechyd.  

Awst 2022

Rhaglen Cyfraith Gofal Gwrthgyfartal
Adroddiad Diweddaru

Mae'r adroddiad diweddaru hwn yn cynnwys; Adolygiad o'r dystiolaeth ryngwladol a gyhoeddwyd ar gyfer rhaglenni archwiliad iechyd clefyd cardiofasgwlaidd; Dadansoddiad o ddata rhaglenni o 2013-2019 a gaiff ei gadw ym Manc Data SAIL lle mae ar gael ar gyfer AB, CT a Phen-y-bont ar Ogwr (PAO); ôl-fyfyrio ar y Rhaglen ICL gan Fyrddau iechyd AB a CTM; Pwyntiau dysgu allweddol a Chasgliadau.

Awst 2022

Rhyngwynebau Presgripsiynu Cymdeithasol

Trwy ddeall y rhyngwynebau penodol rhwng presgripsiynu cymdeithasol, gwasanaethau iechyd a gofal, a gweithgareddau lles ac asedau cymunedol, mae'r papur hwn yn ceisio llywio cyfeiriad strategol a'r gwaith o ddatblygu polisi er mwyn cefnogi a gwella lles y genhedlaeth bresennol a chenedlaethau'r dyfodol yng Nghymru

Awst 2022

Datblygu'r Ymyrraeth ar gyfer Rhaglen Atal Diabetes Cymru Gyfan

Mae Rhaglen Atal Diabetes Cymru Gyfan (AWDPP), a arweinir gan Iechyd Cyhoeddus Cymru, yn cynnig cymorth wedi’i dargedu i bobl sydd mewn mwy o berygl o gael diabetes math 2, gyda’r nod o’u hatal rhag datblygu’r cyflwr hwn. Mae'r ddogfen hon yn cefnogi gweithrediad cyson yr AWDPP.

Mehefin 2022

Iechyd Meddwl & Gofal Sylfaenol

Mae'r fideo yma'n rhoi trosolwg o'r canfyddiadau cenedlaethol ynghylch deall a datrys argaeledd, ac effeithiolrwydd, o wasanaethau ar gyfer materion iechyd Meddwl sy'n ymddangos yng Ngofal Sylfaenol - (Saesneg yn unig)

Mai 2022

Cynllun Gweithredu Atal Gordewdra Gofal Sylfaenol 2022-2024

Mae’r cynllun gweithredu dwy flynedd cychwynnol, sy’n cwmpasu mis Ebrill 2022 i fis Mawrth 2024, wedi’i ddylunio i gefnogi’r gwaith o weithredu elfennau sylfaenol a gofal yn y gymuned y Llwybr Rheoli Pwysau Cymru Gyfan (AWWMP) i oedolion, yn unol â Chynllun Cyflawni Pwysau Iach Cymru Iach (HWHW) 2022–24. Mae camau gweithredu yn y cynllun hwn wedi’u grwpio i bedwar nod blaenoriaeth unwaith i Gymru.

Ebrill 2022

2021-2022

Datblygu'r Ymyrraeth ar gyfer Rhaglen Atal Diabetes Cymru Gyfan

Mae’r papur yma yn disgrifio:

  • Cynllun Ymyrraeth Rhaglen Atal Diabetes Cymru Gyfan, yn benodol: y meini prawf i'w cynnwys ac i beidio â'u cynnwys, mynediad teg at yr ymyrraeth a'r set ddata isaf sydd ei hangen.

  • Elfennau allweddol y gwaith a lywiodd ac a oedd yn sail i gynllun ymyrraeth terfynol AWDPP ac yn hyrwyddo ei gadernid.

  • Y penderfyniadau allweddol a wnaed yng nghynllun ymyrraeth Rhaglen Atal Diabetes Cymru Gyfan a'r rhesymeg dros y penderfyniadau hyn.

Ionawr 2022

Anghenion gofal sylfaenol pobl sy'n byw gyda gordewdra: Crynodeb

Mae'r asesiad hwn o anghenion gofal iechyd yn rhoi trosolwg o anghenion gofal iechyd sylfaenol a chymunedol oedolion o oedran gweithio (18 - 64 oed) yng Nghymru sy'n byw gyda gorbwysau neu ordewdra. Gan ddefnyddio tystiolaeth feintiol ac ansoddol, bydd yr asesiad o anghenion gofal iechyd hwn yn helpu i lywio'r cyfeiriad strategol ar gyfer gofal sylfaenol a chymunedol i gefnogi atal gordewdra ledled Cymru.

Hydref 2021

Mewnwelediadau ymddygiadol gan y gweithlu gofal sylfaenol o ran cefnogi rheoli pwysau: Crynodeb

Deall ymddygiad y gweithlu gofal sylfaenol o ran cefnogi pobl i reoli eu pwysau – adroddiad sy’n amlygu casgliadau o arolwg deall ymddygiad a grwpiau ffocws i ddeall persbectifau’r  rheng flaen wrth gefnogi rheoli pwysau.

Hydref 2021

PowerPoint Presentation (gig.cymru)

Sleidiau cysylltiedig.

Hydref 2021

Deall Rhagnodi Cymdeithasol yng Nghymru: Astudeath Dulliau Cymysg. Adroddiad terfynol

Mae nifer o fodelau rhagnodi cymdeithasol ar waith yng Nghymru a rolau ymarferwyr wedi’u lleoli mewn lleoedd megis awdurdodau lleol, y trydydd sector, tai, addysg uwch a gofal sylfaenol; a gweithgareddau rhagnodi cymdeithasol fel arfer wedi’u lleoli o fewn y trydydd sector a mannau cymunedol. Nod y gwaith hwn ydy deall hinsawdd gweithgaredd rhagnodi cymdeithasol ar draws Cymru a, lle bo’n bosibl, feintioli a disgrifio’i swyddogaethau.

Medi 2021

2020-2021

Adsefydlu
Canllawiau ar gyfer
Grwpiau sy’n Agored i Niw ed

Mae’r papur hwn wedi’i ddylunio i gefnogi dealltwriaeth o’r galw ychwanegol am wasanaethau adsefydlu, ac i lywio’r gwaith o gynllunio hyn ar gyfer y grwpiau agored i niwed y nodwyd bod ganddynt risg uwch o effeithiau COVID-19, trwy ddisgrifio eu hanghenion gofal iechyd nodweddiadol disgwyliedig.
Dyma’r cyntaf mewn cyfres o'r Rhaglen Strategol ar gyfer Gofal Sylfaenol ac mae ganddo ffocws ar ddull system gyfan ataliol a rhagweithiol ar ddarparu adsefydlu, sy'n blaenoriaethu gwasanaethau yng nghartrefi cleifion, neu rai sy'n agos atynt, ac sy'n galluogi dinasyddion ledled Cymru i fyw mor annibynnol â phosibl cyhyd ag y bo modd iddynt wneud hynny.
Mae’n cyd-fynd â’r Fframwaith Adsefydlu ar gyfer Parhad ac Adferiad a chaiff ei lywio gan yr egwyddorion canlynol:

Hydref 2020

2019-2020

Adnoddau i fynd i'r afael â nhw:

Atal clefydau heintus 

Sgrinio

Cynhyrchion cyfathrebu wedi'u targedu i glystyrau gael eu defnyddio. Y nod yw cefnogi lleihau'r amrywiad rhwng clystyrau a gwneud gwelliannau cyffredinol yn nifer y rhaglenni brechu a sgrinio

Hydref 2019

Offeryn Asesu Anghenion Gofal Sylfaenol (PCNA)

Offeryn ar-lein unwaith-i-Gymru i gefnogi cynllunio gweithredu, yn seiliedig ar adolygiad o ddata ar anghenion lleol ac opsiynau gwella ar sail tystiolaeth; templed cenedlaethol ar gyfer pynciau ac ymarferoldeb wedi'u blaenoriaethu i ddarparu dull mwy cyson o asesu ac ymateb i anghenion a nodwyd.

Ebrill 2019