Neidio i'r prif gynnwy

Proffesiynau Perthynol i Iechyd

Optimeiddio’r cynnig Proffesiynau Perthynol i Iechyd (AHPs) a hygyrchedd ar draws Gofal Sylfaenol a Chymunedol yng Nghymru.

 

Proffesiynau Perthynol I ielchyd Yng Nghymru - Y Daith Drawsnewid

 

Fframwaith Proffesiynau Perthynol i Iechyd (AHP): Mae Edrych Ymlaen Gyda'n Gilydd yn nodi ymateb strategol Fframwaith Proffesiynau Perthynol i Iechyd (AHP) i’r cynllun Cymru Iachach. Mae’n defnyddio'r Nod Pedwarplyg fel cysyniad trefnu i ddisgrifio'r trawsnewid sydd ei angen yn unol â Model Gofal Sylfaenol i Gymru.

Mae’n nodi’r angen i ddefnyddio Proffesiynau Perthynol i Iechyd (AHPs) yn fwy effeithiol i ysbrydoli pobl a’u galluogi i fyw bywydau iachach, ynghyd â’r angen iddynt fod yn haws i’w cyrchu, a hynny’n uniongyrchol, a’u bod yn gweithio ar frig eu gallu gydag arweinyddiaeth weledol a thrawsnewidiol. Gyda 'gofal sylfaenol cryf' wrth wraidd popeth a wnânt.

Mae hyn yn trosi’n uchelgais Fframwaith Proffesiynau Perthynol i Iechyd (AHP) yng Nghymru, ar gyfer gwasanaethau sydd wedi’u hintegreiddio’n dda, wedi’u gwreiddio yn y gymuned, gyda’r ystod lawn o lefelau ymarferwyr a set sgiliau Proffesiynau Perthynol i Iechyd (AHPs) wedi’i hoptimeiddio’n ddarbodus.

Mae angen inni greu modelau darparu cynaliadwy sy’n cefnogi rhanddeiliaid lluosog. Defnyddio gweithwyr proffesiynol perthynol i iechyd ar sail cynllunio gweithlu system gyfan integredig i ddarparu'r gwasanaethau o ansawdd uchel, gwerth uchel sydd eu hangen.

Gyda’r gwaith o gynllunio a darparu gwasanaethau AHP gofal sylfaenol a chymunedol – a allai gynnwys ar lefel practis cyffredinol, clwstwr, neu ranbarthol – yn cael ei gefnogi a’i lywio gan:

  • Anghenion y boblogaeth gan gynnwys anghydraddoldebau iechyd yn llywio ffocws sylw ac adnoddau
  • Gweithlu medrus – gyda gofynion ac anghenion datblygu yn cael eu deall a’u gweithredu
  • Gweithredu fframweithiau ac arferion gorau 'Sut olwg sydd ar dda' - gan gysylltu â'r Fframwaith Clinigol Cenedlaethol
  • Defnyddio data yn bwrpasol – trosglwyddo data i wybodaeth i ganolbwyntio sylw ac adnoddau, a dangos y gwahaniaeth y mae AHPs yn ei wneud