Neidio i'r prif gynnwy

Lleihau Anghydraddoldebau Iechyd drwy Ofal Sylfaenol

Mae pawb yng Nghymru yn haeddu’r cyfle i gael iechyd da. Fodd bynnag, mae rhai ohonom yn byw gyda gwaeledd sy’n byrhau ein bywydau. Mae conglfeini iechyd yn cynnwys tai cynnes, gwaith teg, arian i dalu biliau, plentyndod diogel a chysylltiadau â phobl eraill. I rai ohonom, nid yw’r conglfeini hyn yn ddigon cryf. Mae hyn yn effeithio ar ein llesiant meddyliol a chorfforol, ein hymddygiad a pha mor agored i niwed yr ydym. Er bod y ffactorau sy’n gyfrifol am anghydraddoldebau iechyd yn gorwedd y tu allan i’r gwasanaethau iechyd, gall sut y maent yn cael eu darparu leihau neu gynyddu anghydraddoldebau iechyd.

Mae gofal sylfaenol yn gweithio o fewn a gyda chymunedau a dyma’r maes cywir ar gyfer gwaith atal, ymyrraeth gynnar a thriniaeth bersonol. Felly, mae’n bwysig ein bod yn parhau i adlewyrchu a gwella’r ffyrdd y gall gofal sylfaenol effeithio ar anghydraddoldebau iechyd.

Mae anghydraddoldebau iechyd yn gymhleth ond ni ddylem adael i hynny ein llorio o ran y camau a gymerwn.

Dyluniwyd y tudalennau hyn i:

  • Wella dealltwriaeth drwy ddarparu data a thystiolaeth a chyfeirio pobl at hyfforddiant
  • Cefnogi’r gwaith o ddatblygu diwylliant lle yr ydym oll yn chwilfrydig ynglŷn â ble mae anghydraddoldebau iechyd yn bodoli, gwrando ar bobl sydd â phrofiad bywyd o anghydraddoldebau, y rheng flaen a chymunedau, lledaenu atebion a allai helpu a gwirio i weld a fuont yn effeithiol.

Mae’r grwpiau poblogaeth a ystyrir yn gyffredinol fel y rhai sy’n wynebu anghydraddoldebau iechyd yn cynnwys (gan gydnabod y gallai fod gorgyffwrdd neu ‘groestoriadedd’):