Neidio i'r prif gynnwy

Y Gweithlu

Astudiaethau Achos Gweithlu

Addysg a Gwella Iechyd Cymru (AaGIC) -  https://aagic.gig.cymru/addysg-a-hyfforddiant/deintyddol/

Mae darparu gwasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol i boblogaeth Cymru yn dibynnu’n llwyr ar ein gweithlu (Strategaeth gweithlu Cymru Iachach AaGIC)

Ym mis Hydref 2020 lansiodd AaGIC Strategaeth Gweithlu’r GIG a Gofal Cymdeithasol uchelgeisiol sydd â 7 thema allweddol:

  • Gweithlu Iach ymgysylltiol a llawn cymhelliant
  • Denu a Recriwtio
  • Modelau Gweithlu Di-dor
  • Creu Gweithlu Parod yn Ddigidol
  • Addysg a Dysgu Rhagorol
  • Arweinyddiaeth ac Olyniaeth
  • Cyflenwi a Llunio’r Gweithlu

Mae’r themâu hyn yn sail i bob agwedd ar ddatblygu a chadw gweithlu medrus, llawn cymhelliant o fewn GIG Cymru.

Mae AaGIC yn ychwanegu at waith Rhaglen Diwygio’r GDC yn gyffredinol.

Cynllun Strategol ar gyfer y Gweithlu Strategol Gofal Sylfaenol

Mae Addysg a Gwella Iechyd Cymru (AaGIC) yn gweithio mewn partneriaeth â’r Rhaglen Strategol ar gyfer Gofal Sylfaenol i ddatblygu Cynllun Strategol ar gyfer y Gweithlu Gofal Sylfaenol.

Ymgysylltwyd yn gynnar â rhanddeiliaid allweddol a cheir consensws clir bod angen Cynllun Strategol ar gyfer y Gweithlu Gofal Sylfaenol. 

Ceir nifer o ffactorau allweddol sy’n ysgogi’r angen am Gynllun Strategol ar gyfer y Gweithlu, yn benodol yr heriau sylweddol sy’n ymwneud â’r gweithlu ac sy’n effeithio ar gynaliadwyedd gwasanaethau gofal sylfaenol.  Bydd y cynllun hwn yn ystyried ffurf a maint y gweithlu sydd ei angen i ddiwallu anghenion iechyd y boblogaeth ac i roi sylw i faterion sy’n ymwneud â’r ochr gyflenwi yn y dyfodol.

Nod AaGIC ar gyfer y cynllun hwn yw:

  • Deall yr hyn sy’n ysgogi’r galw ar hyn o bryd a nodi’r ffactorau allweddol sy’n llywio’r galw am y 10 mlynedd nesaf
  • Deall datblygiadau technolegol a’r newidiadau arfaethedig o ran darparu gofal iechyd a’r effaith y gallai’r rhain eu cael ar ddarparu gofal sylfaenol
  • Nodi’r heriau a’r materion allweddol sy’n ymwneud â’r ochr gyflenwi ar draws grwpiau proffesiynol a rhannau o Gymru er mwyn creu fframwaith cyflenwi ar gyfer y dyfodol
  • Cyflwyno argymhellion sy’n cefnogi’r broses o ddatblygu model gweithlu cynaliadwy er mwyn bwrw ymlaen â’r broses o ddarparu Model Gofal Sylfaenol i Gymru
  • Adnabod y broses o ddarparu ystod eang o wasanaethau sy’n gydnaws â gofal sylfaenol, gan gynnwys gwasanaethau cymunedol a sut y bydd unrhyw newidiadau i fodelau’r gweithlu gofal sylfaenol yn effeithio ar y rhain
  • Darparu fframwaith eglur gyda chamau gweithredu lleol, rhanbarthol a chenedlaethol sy’n amlinellu penderfyniadau comisiynu addysg a hyfforddiant y dyfodol dros gyfnod o 10 mlynedd hyd at 2035.

Bydd y cynllun yn canolbwyntio ar y tîm amlbroffesiynol craidd a nodir yng nghyd-destun datblygu’r Model Gofal Sylfaenol i Gymru (MGSiG) a nodi’r gweithlu sydd ei angen i ddarparu gwasanaethau effeithiol a hynny o fewn ôl-troed y clwstwr.  Bydd y cynllun yn ceisio nodi’r camau gweithredu sydd eu hangen yn y tymor byr, y tymor canolig a’r tymor hir er mwyn sicrhau model cynaliadwy ar gyfer y gweithlu.

Nod AaGIC yw datblygu’r cynllun erbyn mis Tachwedd 2023 er mwyn iddo ddylanwadu ar ddatblygu’r Cynllun Tymor Canolig Integredig (CTCI) ar lefel Clystyrau ac ar lefel Byrddau Iechyd erbyn 2024/25.

Bydd AaGIC yn ymgysylltu’n helaeth ar y cynllun dros y flwyddyn nesaf drwy gysylltu â chlystyrau, Cydweithfeydd Proffesiynol, contractwyr annibynnol, Byrddau Iechyd, cyrff proffesiynol ac ystod eang o randdeiliaid.

Bydd rhagor o wybodaeth am gynnydd y cynllun hwn ar gael yn fuan. Fodd bynnag gallwch gysylltu ag AaGIC drwy ddefnyddio’r cyfeiriad e-bost penodedig heiw.primarycarewfp@wales.nhs.uk

AaGIC: gofal-sylfaenol - AaGIC (gig.cymru)

 

 

Ewch i'r Dudalen Gartref Gwasanaethau Deintyddol Cyffredinol

Cysylltwch â ni ar: dentalpublichealth@wales.nhs.uk