Neidio i'r prif gynnwy

Rob Davies

Cymhwysodd Rob o Goleg Meddygaeth Prifysgol Cymru ym 1997 a threuliodd y rhan fwyaf o’i yrfa yn gweithio gyda’r Gwasanaeth Deintyddol Cyffredinol, i ddechrau fel gweithiwr cyswllt ac yna fel perchennog sawl practis. Drwy gydol ei yrfa dangosodd ddiddordeb brwd mewn addysgu, cefnogi a mentora deintyddion gyda’u llwybrau gyrfa a hynny fel Tiwtor Ôl-raddedig, Goruchwylydd Addysgol, Arweinydd yr Uned Cymorth Deintyddol Proffesiynol ac am y 12 mlynedd diwethaf fel Cyfarwyddwr Rhaglen Hyfforddi ar gyfer Deintyddiaeth Sylfaenol a Chyfarwyddwr Clinigol yr Uned Addysgu Deintyddol. Mae ganddo ddiddordeb penodol mewn Llawfeddygaeth y Geg ac mewn cydweithrediad â’i Fwrdd Iechyd llwyddodd i sefydlu gwasanaeth Llawfeddygaeth y Geg mewn Lleoliadau Gofal Sylfaenol.

Ochr yn ochr â’i ymrwymiadau clinigol yn y maes gofal sylfaenol, dechreuodd Rob ar ei swydd ran-amser bresennol fel Cyfarwyddwr Deintyddol Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg yn 2021 ar ôl cyfnod o gynorthwyo’r bwrdd iechyd i sefydlu Gofal Deintyddol Brys drwy gydol y pandemig.