Neidio i'r prif gynnwy

Paul Brocklehurst

Ymgynghorydd Iechyd Deintyddol Cyhoeddus yw Paul, sydd wedi’i leoli yng Ngogledd Cymru ac mae’n arweinydd Gwybodaeth Iechyd y Geg yn Iechyd Cyhoeddus Cymru. Drwy weithio gyda chydweithwyr iechyd deintyddol cyhoeddus o Brifysgol Caerdydd (Yr Athro Ivor Chestnutt, Dr Anwen Cope a Dr Emma Barnes), mae’n goruchwylio’r Rhaglen Epidemioleg Ddeintyddol yng Nghymru, ac yn cynnal arolygon cenedlaethol i asesu iechyd y geg plant ac oedolion. Ef hefyd yw arweinydd Ffrwd Waith Dau Rhaglen Diwygio’r Gwasanaethau Deintyddol Cyffredinol, ble mae’n goruchwylio’r broses o fonitro effaith y broses o ddiwygio’r contract.