Neidio i'r prif gynnwy

Kirstie Moons

Cymhwysodd Kirstie fel nyrs ddeintyddol yng Nghaerdydd a hi bellach yw Deon Deintyddol Ôl-raddedig AaGIC, sy’n gyfrifol am gynllunio, comisiynu a sicrhau ansawdd hyfforddiant ac addysg ôl-raddedig ar gyfer gweithwyr deintyddol proffesiynol yng Nghymru. Mae ganddi brofiad helaeth o weithio mewn Addysg Ddeintyddol yng Nghymru, gyda’r Ddeoniaeth a chyn hynny gydag Ysgol Ddeintyddol Caerdydd ble y bu’n rhan o addysg a hyfforddiant pob aelod o’r tîm deintyddol.

Tan yn ddiweddar roedd Kirstie yn aelod cofrestredig Cyngor Cymru o’r Cyngor Deintyddol Cyffredinol, ble yr oedd hefyd yn Cadeirio’r Bwrdd Polisi ac Ymchwil. Mae’n aelod o Bwyllgor Deintyddol Cymru ac yn un o Gymrodorion y Coleg Deintyddiaeth Cyffredinol.  Mae’n gweithio’n agos â Llywodraeth Cymru ochr yn ochr â’r Prif Swyddog Deintyddol i ddatblygu’r tîm deintyddol ar draws gwasanaethau deintyddol Cymru.