Neidio i'r prif gynnwy

Kathryn Marshall

Ar hyn o bryd mae Kathryn yn bennaeth Datblygu Gweithlu Deintyddol Addysg a Gwella Iechyd Cymru (AaGIC).

Roedd Kathryn yn aelod o Banel Cymhwyster i Ymarfer y GDC am 5 mlynedd hyd at fis Tachwedd 2014. Hi hefyd yw’r unig Weithiwr Proffesiynol Gofal Deintyddol wedi’i phenodi i Fwrdd Cynghori ECPD GDC. Yn 2017 cafodd Kathryn ei phenodi’n Arholwr Allanol ar gyfer Tystysgrif Uwch Hwyluso Dysgu mewn Practis Gofal Iechyd a Thystysgrif Uwch Mentora a Hyfforddi gyda Phrifysgol Canol Swydd Gaerhirfryn (UCLAN)

Mae gan Kathryn MSc mewn Gofal Iechyd Arbenigol ac Uwch o Brifysgol Caint, gyda Theilyngdod. Cafodd radd anrhydedd am ei gwaith ymchwil ar y nyrs ddeintyddol â dyletswyddau estynedig. Cafodd Ddiploma mewn Arwain a Rheoli yn 2021 a gwobr Cymrawd Anrhydeddus gan y Coleg Deintyddiaeth yn 2022.