Neidio i'r prif gynnwy

Julie Denley

Nyrs Iechyd Meddwl Gofrestredig yw Julie sy’n meddu ar brofiad helaeth mewn swyddi arwain uwch ar draws nifer o Fyrddau Iechyd, a hynny’n ymwneud â Gofal Sylfaenol dros y blynyddoedd diwethaf a gofal cymunedol yn fwy diweddar.

Ar hyn o bryd, mae Julie yn Gyfarwyddwr Gwasanaethau Sylfaenol, Cymunedol ac Iechyd Meddwl Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg. Mae Julie yn arwain sawl agwedd ar y Rhaglen Strategol ar gyfer Gofal Sylfaenol gan gynnwys y Ffrwd Waith Atal a Llesiant a hynny gyda’i chydweithwyr o’r meysydd Iechyd Cyhoeddus, Llesiant Emosiynol ynghyd â chydweithwyr iechyd meddwl cenedlaethol yn ogystal â chydgadeirio’r Grŵp Trosolwg Strategol Deintyddol.