Neidio i'r prif gynnwy

Grant Burnip

Arweinydd Gwella Gwasanaethau ar gyfer Gwasanaethau Deintyddol y GIG yw Grant ac mae’n gweithio gyda’r GIG ers 12 mlynedd.

Arferai Grant fod yn gyfrifol am oruchwylio canolfan cyswllt cwsmeriaid Gwasanaethau Deintyddol y GIG cyn symud i’w swydd gwella gwasanaethau. Yn ei swydd bresennol, Grant sy’n gyfrifol am gyflawni newidiadau ar ran Llywodraeth Cymru, Byrddau Iechyd, Iechyd Cyhoeddus Cymru a sefydliadau eraill y GIG.

Mae Grant yn wyneb cyfarwydd ac yn cyfrannu’n rheolaidd at ddigwyddiadau i ddeintyddion yng Nghymru. Mae ef a’i dîm yn mwynhau ymgysylltu â thimau deintyddol ac yn gweithredu’n gyflym i wella gwasanaethau yn sgil adborth.

Ym mis Ebrill 2022 roedd Grant a’i dîm yn gyfrifol am gyflwyno holiadur i gleifion. Anfonwyd dros 100,000 o holiaduron at gleifion yng Nghymru ers hynny – a rhoddodd y canlyniadau gipolwg gwerthfawr o brofiadau cleifion.