Neidio i'r prif gynnwy

Perthnasedd i Ofal Sylfaenol

Mae'r argyfwng hinsawdd yn argyfwng iechyd y cyhoedd. Yn fyd-eang, mae'r sector gofal iechyd yn gyfrifol am tua 4-5% o allyriadau nwyon tŷ gwydr ac felly mae'n cyfrannu at y broblem. Pe bai'r sector gofal iechyd yn wlad, dyma fyddai'r pumed allyrrydd mwyaf o nwyon tŷ gwydr.

Yn ôl Cynllun Cyflawni Strategol Datgarboneiddio GIG Cymru 2021-2030, cyfrifwyd Ôl Troed Carbon GIG Cymru 2018/19 fel tua 1 miliwn tunnell o CO2e, sy'n cynrychioli tua 2.6% o gyfanswm allyriadau nwyon tŷ gwydr Cymru.

Mae'r risgiau iechyd sy'n gysylltiedig â newid yn yr hinsawdd yn amlwg ac mae gan weithwyr gofal iechyd proffesiynol a darparwyr gofal iechyd rôl bwysig i'w chwarae o ran cymryd y camau angenrheidiol i leihau eu cyfraniad at newid yn yr hinsawdd yn ei holl ffurfiau amrywiol.

Er mwyn mynd i'r afael ag effeithiau'r newid yn yr hinsawdd cynigiwn fod y camau gweithredu yn gofyn am ymagwedd dair elfen

  • Cyfrifoldeb unigol
  • Cyfrifoldeb proffesiynol
  • Cyfrifoldeb sefydliadol

Bydd ymdrechion lliniaru nid yn unig yn arwain at leihau allyriadau, ond yn aml gallant arwain at well gofal i gleifion, boddhad staff, ac arbedion cost. Mae'r buddion hyn yn digwydd yn rhannol drwy atal effeithiau cychwynnol newid yn yr hinsawdd ar iechyd, tra hefyd yn gwella llesiant drwy fuddion ar y cyd iechyd, megis aer glanach, mwy o weithgarwch corfforol, a deietau mwy maethlon. Yn bwysig, gall y buddion ar y cyd hyn helpu i wrthbwyso rhan o gostau ymyriadau lliniaru.

Dros dri chwarter o drigolion Cymru yn credu y bydd newid hinsawdd yn niweidio iechyd meddwl. Ymhlith pryderon mawr eraill newid hinsawdd mae llai o fynediad at wasanaethau iechyd a gofal, cynnydd yn lledaeniad clefydau heintus, a lefelau uwch o salwch corfforol.

- Newid Hinsawdd ac Iechyd yng Nghymru: Barn y Cyhoedd (2022)   

 

Effaith gofal sylfaenol ar yr hinsawdd

Gall gweithwyr gofal sylfaenol proffesiynol a gwasanaethau gofal sylfaenol gyfrannu at fynd i'r afael â'r argyfwng hinsawdd drwy eu gweithredoedd eu hunain a dylanwadu ar weithredoedd pobl eraill fel eu staff a'u cleifion. Mae camau gweithredu yn tueddu o gael eu rhannu’n weithredoedd clinigol neu’n weithredoedd anghlinigol.

Daw'r rhan fwyaf o ôl troed carbon anghlinigol gofal sylfaenol o deithio gan gleifion a staff, ac yna o’r defnydd o ynni a chaffael gwasanaethau.

Fodd bynnag, mae llu o gyfleoedd gweithredu i weithwyr proffesiynol, gwasanaethau a darparwyr yn ystod ymyriadau clinigol (camau gweithredu). Er enghraifft, drwy’r canlynol:

  • Atal afiechyd a hyrwyddo ymddygiad iach (e.e. lleihau anghydraddoldebau iechyd, deiet cynaliadwy, teithio llesol, rhagnodi cymdeithasol a Gwneud i Bob Cyswllt Gyfrif (MECC))
     
  • Lleihau niwed a gwastraff (e.e. lleihau gor-ddiagnosis, osgoi amlgyffuriaeth niweidiol, a lleihau gwastraff anghlinigol)
     
  • Grymuso cleifion a chynyddu eu hunanreolaeth (e.e. rhannu gwneud penderfyniadau drwy gyd-gynhyrchu a darparu gofal sy'n canolbwyntio ar yr unigolyn)
     
  • Rhagnodi meddyginiaethau carbon is (e.e. defnyddio anadlyddion powdr sych (DPI) neu anadlyddion anwedd (SMI) yn hytrach nag anadlyddion dos mesuredig (MDI) lle bo'n briodol)
     
  • Darparu'r gofal gorau posibl tra'n osgoi teithio diangen i gleifion a staff

Effaith newid yn yr hinsawdd ar ofal iechyd a gofal sylfaenol

Os na weithredwn, mae newid yn yr hinsawdd yn bygwth amharu ar allu systemau iechyd i ddarparu gofal o ansawdd uchel a thanseilio'r enillion a wneir ym maes iechyd y cyhoedd.

Bydd y newid yn yr hinsawdd yn arwain at y canlynol:

  • tywydd poeth mwy tanbaid
  • risgiau uwch o lifogydd a stormydd niweidiol
  • patrwm newidiol o glefydau heintus yn dod i'r amlwg
  • mwy o lygredd aer, a
  • risgiau diogelwch bwyd

Bydd rhai o'r canlyniadau hyn yn effeithio'n uniongyrchol ar wasanaethau gofal iechyd, e.e. llifogydd yn amharu ar fynediad i bractisiau cymunedol a’r gallu i’w gweithredu, tra bydd canlyniadau eraill yn anuniongyrchol e.e. bydd cynyddu llygredd aer yn achosi i gyflyrau anadlol waethygu’n amlach a fydd felly'n arwain at fwy o gleifion yn mynd i ofal sylfaenol, a gofal eilaidd o bosibl, i'w reoli.