Neidio i'r prif gynnwy

Dogfennau ac Adnoddau Allweddol, Newyddion a Wybodaeth Ddiweddaraf

Bydd y dolenni canlynol yn eich helpu i gyrraedd dogfennau allweddol , adnoddau cefndir a newyddion a ddiweddariadau.
 

Dogfennau Allweddol

Cyfrifianellau Ôl-troed Carbon iw defnyddio gan Gontractwyr Gofal Sylfaenol eu defnyddio

Papur sy’n argymell y cyfrifyddion ôl troed carbon gorau i chi eu defnyddio yn eich practis er mwyn canfod eich ôl-troed carbon. Datblygwyd yr adnodd hwn gan yr Is-adran Gofal Sylfaenol.

Pecyn Adnoddau ar gyfer Deintydd Cymunedol Mae'r pecyn hwn wedi'i lunio i helpu practisau Deintyddol Cymunedol a phractisau optometreg i ystyried sut y gallant fod yn fwy cyfeillgar i'r hinsawdd drwy gymryd rhan yng Ngynllun Gofal Sylfaenol Gwyrddach Cymru.
Pecyn Adnoddau ar gyfer practisau Ymarfer Cyffredinol Mae'r pecyn hwn wedi'i lunio i helpu Meddygion Teulu a practisau Ymarfer Cyffredinol i ystyried sut y gallant fod yn fwy cyfeillgar i'r hinsawdd drwy gymryd rhan yng Ngynllun Gofal Sylfaenol Gwyrddach Cymru.
Pecyn Adnoddau ar gyfer Optometreg Cymunedol Mae'r pecyn hwn wedi'i lunio i helpu Optometryddion Cymunedol a phractisau optometreg i ystyried sut y gallant fod yn fwy cyfeillgar i'r hinsawdd drwy gymryd rhan yng Ngynllun Gofal Sylfaenol Gwyrddach Cymru. 
Pecyn Adnoddau ar gyfer Fferyllfeydd Cymunedol Mae'r pecyn hwn wedi'i lunio i helpu Fferyllfeydd Cymunedol a phractisau optometreg i ystyried sut y gallant fod yn fwy cyfeillgar i'r hinsawdd drwy gymryd rhan yng Ngynllun Gofal Sylfaenol Gwyrddach Cymru.

Ecosia: Peiriant chwilio ‘gwyrddach’ ar y we

Mae’r papur hwn yn rhoi gwybodaeth gefndir a chanllawiau cam-wrth-gam ar sut i lawrlwytho a gosod Ecosia fel chwilotwr diofyn ar ddyfais gwaith neu ddyfais bersonol electronig. Datblygwyd yr adnodd hwn gan yr Is-adran Gofal Sylfaenol.

Pamffled Gofal Sylfaenol Gwyrddach Cymru

Taflen wybodaeth sy’n amlygu beth yw Fframwaith a Chynllun Gwobrwyo Gofal Sylfaenol Gwyrddach Cymru a sut y gallwch gymryd rhan. Datblygwyd yr adnodd hwn gan yr Is-adran Gofal Sylfaenol.

Cwesitynau Cyffredin Gofal Sylfaenol Gwyrddach Cymru

Ein cwestiynau mwyaf cyffredin am y Cynllun ar gyfer timau newydd a’r rhai sy’n dychwelyd. Datblygwyd yr adnodd hwn gan yr Is-adran Gofal Sylfaenol.

Taflen Canlyniadau Gofal Sylfaenol Gwyrddach Cymru

Mae’n amlinellu’r canlyniadau a ragwelir ar gyfer Fframwaith a Chynllun Gwobrwyo Gofal Sylfaenol Gwyrddach Cymru. Datblygwyd yr adnodd hwn gan yr Is-adran Gofal Sylfaenol.

Ffeithlun Aliniad Strategol Gofal Sylfaenol Gwyrddach Cymru

Ffeithlun sy’n amlinellu sut y mae Fframwaith a Chynllun Gwobrwyo Gofal Sylfaenol Gwyrddach Cymru yn cyd-fynd â pholisïau, strategaethau a deddfwriaethau allweddol. Datblygwyd yr adnodd hwn gan yr Is-adran Gofal Sylfaenol.

Blwyddlyfr Gofal Sylfaenol Gwyrddach Cymru 2022 

Casgliad o astudiaethau achos o bob cwr o Gymru sy’n arddangos ac yn dathlu cyflawniadau’r timau a gymerodd ran ym mlwyddyn gyntaf Fframwaith a Chynllun Gwobrwyo Gofal Sylfaenol Gwyrddach Cymru. Datblygwyd yr adnodd hwn gan yr Is-adran Gofal Sylfaenol. 

Fframwaith a’r Cynllun Gwobrwyo Gofal Sylfaenol Gwyrddach Cymru 2024

Crynodeb o'r Fframwaith a’r Cynllun Gwobrwyo Gofal Sylfaenol Gwyrddach Cymru 2024.

Templed Archwiliad Teithio

Adnodd syml i gefnogi’r broses o roi’r camau ar waith o fewn y fframwaith sy’n ymwneud â chynnal archwiliad teithio staff. Datblygwyd yr adnodd hwn gan yr Is-adran Gofal Sylfaenol.

Fideo Astudiaeth Achos: Fferyllfa gymunedol

Mae'r fideo hon yn dangos enghraifft o fferyllfa gymunedol a gymerodd ran yn y fframwaith. 

Fideo Astudiaeth Achos: Deintyddol Gofal Sylfaenol

Mae'r fideo hon yn dangos enghraifft o bractis deintyddol a gymerodd ran yn y fframwaith.

Fideo Astudiaeth Achos: Ymarfer Cyffredinol

Mae'r fideo hon yn dangos enghraifft o bractis meddygol a gymerodd ran yn y fframwaith.

Fideo Astudiaeth Achos: Optometreg Gofal Sylfaenol

Mae'r fideo hon yn dangos enghraifft o optegwyr a gymerodd ran yn y fframwaith.

 

Adnoddau Cefndir

Cymru Iachach: Cynllun hirdymor ar gyfer iechyd a gofal cymdeithasol

Dogfen sy’n amlinellu’r weledigaeth hirdymor o ‘system gyfan iechyd a gofal cymdeithasol’ yn y dyfodol.

Cynllun Gweithredu Teithio Llesol i Gymru

Diben y Cynllun hwn yw amlinellu gweledigaeth Llywodraeth Cymru ar gyfer teithio llesol – mae hyn yn cysylltu â’r camau o fewn y fframwaith sy’n ymwneud ag annog staff a chleifion i ddefnyddio dulliau teithio llesol.

Centre for Sustainable Healthcare

Sefydliad sy’n cynnig mewnbwn strategol a gwasanaeth ymgynghori ar ymchwil ac ymarfer gofal iechyd cynaliadwy i raglenni cenedlaethol a lleol.

Cyfrifoldeb Cymdeithasol Corfforaethol

Mae hyn yn ymwneud â sicrhau bod busnesau yn integreiddio pryderon cymdeithasol ac amgylcheddol fel rhan o’u gweithrediadau ac wrth ryngweithio â rhanddeiliaid yn wirfoddol.

e-Gatalog Adnoddau

Adnoddau Iechyd Cynaliadwy i helpu sefydliadau ac unigolion i ystyried yr amgylchedd naturiol ac iechyd y blaned ac iechyd pobl ym mhopeth a wnânt.

Cael tystysgrif perfformiad ynni newydd (EPC)

Gwybodaeth am sut i gael tystysgrif ynni newydd ar gyfer eich cartref, safle busnes neu adeilad cyhoeddus.

Iechyd Gwyrdd Cymru

Rhwydwaith o weithwyr iechyd a gofal proffesiynol ledled Cymru yw Iechyd Gwyrdd Cymru sy’n cydnabod bod yr argyfwng hinsawdd ac ecolegol yn argyfwng iechyd.

Rhaglen Argyfwng Hinsawdd Iechyd a Gofal Cymdeithasol – sut y gall staff y GIG a sefydliadau gymryd rhan

Sefydlwyd Rhaglen Argyfwng Hinsawdd Iechyd a Gofal Cymdeithasol Llywodraeth Cymru i arwain yr agenda newid hinsawdd a datgarboneiddio ar gyfer iechyd a gofal cymdeithasol yng Nghymru, ac i gefnogi’r broses o gyflawni Cynllun Cyflenwi Strategol Datgarboneiddio GIG Cymru.  Gallwch gael gwybod mwy am y rhaglen a sut y gallwch helpu i leihau Ôl-troed Carbon y GIG.

Iechyd a Chynaliadwyedd: Iechyd Cyhoeddus Cymru 

Mae’r Hwb Iechyd a Chynaliadwyedd yn cefnogi Iechyd Cyhoeddus Cymru gyda’i gyfraniadau tuag at nodau llesiant Cymru ac wrth gymhwyso’r egwyddor datblygu cynaliadwy, ochr yn ochr â Nodau Datblygu Cynaliadwy ehangach y Cenhedloedd Unedig, i ddod yn sefydliad enghreifftiol, sy’n hyrwyddo ac yn gynaliadwy.
Cronfa ddata o asesiadau amgylcheddol ym maes gofal iechyd.

Posteri Cael Gwared ar Hen Anadlyddion ar gyfer Fferyllfeydd 

Posteri y gall fferyllfeydd eu defnyddio i hyrwyddo cael gwared ar hen anadlyddion yn ddiogel.

Dangosfwrdd newydd i helpu GIG Cymru leihau ôl-troed carbon anadlyddion

Datblygodd yr Uned Cymorth Presgripsiynu Dadansoddol GIG Cymru ddangosfwrdd i gofnodi’r cynnydd a wneir i leihau ôl-troed carbon yr anadlyddion a ddefnyddir o fewn gofal sylfaenol yng Nghymru.

Cynllun Cyflenwi Strategol Datgarboneiddio GIG Cymru 2021-2030

Cynllun Llywodraeth Cymru i leihau effaith amgylcheddol y GIG ac i fynd i’r afael â newid yn yr hinsawdd.

Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015 Yr Hanfodion

Mae Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015 yn ymwneud â gwella llesiant cymdeithasol, economaidd, amgylcheddol a diwylliannol Cymru.

 

Newyddion a’r wybodaeth ddiweddaraf yn uniongyrchol.

E-fwletin 

E-fwletin misol Fframwaith a Chynllun Gwobrwyo Gofal Sylfaenol Gwyrddach Cymru. Mae pob e-fwletin yn cynnwys erthyglau ar: Tîm y Mis, diwrnodau amgylcheddol i ddod a gwybodaeth ddefnyddiol.

Newyddion Eraill a’r Wybodaeth Ddiweddaraf

Hyrwyddwyr a Chynllun Dyfarnu Fframwaith Gofal Sylfaenol Gwyrddach Cymru (Iechyd Cyhoeddus Cymru)

Wythnos Hinsawdd Cymru (Diwrnod 5): Cynllun Dyfarnu a Fframwaith Gofal Sylfaenol Gwyrddach Cymru [Rhagfyr 2023].

Y Rhaglen Arloesi, Technoleg a Phartneriaethau

Rhaglen sy’n sbarduno arloesedd, yn cefnogi technoleg ac yn ysgogi partneriaethau ar draws Iechyd a Gofal yng Nghymru [Mawrth 2023]. 

Gofal sylfaenol yn arbed 44000kg o CO2 

Erthygl newyddion sy’n sôn am flwyddyn gyntaf Fframwaith a Chynllun Gwobrwyo Gofal Sylfaenol Gwyrddach Cymru [Mawrth 2023].

Datganiad Ysgrifenedig: Fframwaith a Chynllun Gwobrwyo Gofal Sylfaenol Gwyrddach Cymru 2023

Datganiad gan Eluned Morgan AS, y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol ynglŷn ag ail-lansio’r Cynllun ar gyfer yr ail Flwyddyn yn 2023 [Mawrth 2023].
Newyddlen Rhaglen Genedlaethol yr Argyfwng Hinsawdd Iechyd a Gofal Cymdeithasol  Rhifyn Tachwedd o Newyddlen Rhaglen Argyfwng Hinsawdd Iechyd a Gofal Cymdeithasol [Tachwedd 2022].

Optometry Today

Sgyrsiau gyda gweithwyr gofal llygaid proffesiynol yng Nghymru am sut y gall y proffesiwn gydweithio i greu dyfodol cynaliadwy, gan gynnwys tri optegydd a gymerodd ran ym Mlwyddyn gyntaf y Cynllun [Awst 2022].

Golwg ar Ofal Llygaid Mae rhifyn 2022 Golwg ar Ofal Llygaid yn trafod ‘Cymru Wyrddach’ ac yn annog practisau optometreg i ddefnyddio Fframwaith a Chynllun Gwobrwyo Gofal Sylfaenol Gwyrddach Cymru [July 2022].

Lansio gweminar Cenedlaethol ar gyfer Fframwaith a Chynllun Gwobrwyo Gofal Sylfaenol Gwyrddach Cymru

Recordiad or lansiad cenedlaethol Fframwaith a Chynllun Gwobrwyo Gofal Sylfaenol Gwyrddach Cymru. Gwybodaeth am sut i gofrestru ac i gymryd rhan yn Fframwaith a Chynllun Gwobrwyo Gofal Sylfaenol Gwyrddach Cymru. https://rhwydwaithiechydcyhoeddus.cymru/Digwyddiad/gofal-sylfaenol-gwyrddach-sut-gall-gofal-sylfaenol-a-chymunedol-ddechraur-daith-tuag-at-gynaliadwyedd-amgylcheddol-a-datgarboneiddio/ [Mehefin 2022]. 

Newyddlen Flynyddol Gofal Sylfaenol Gwyrddach

Rhifyn cyntaf y Newyddlen Gofal Sylfaenol Gwyrddach flynyddol a luniwyd gan Iechyd Cyhoeddus Cymru. Datblygwyd yr adnodd hwn gan yr Is-adran Gofal Sylfaenol [Mehefin 2022]. 

Annog Gofal Sylfaenol i ddechrau’r daith i gynaliadwyedd amgylcheddol a datgarboneiddio gyda Chynllun gwobrwyo newydd  Eitem newyddion Iechyd Cyhoeddus Cymru sy’n rhoi cyhoeddusrwydd i Fframwaith a Chynllun Gwobrwyo Gofal Sylfaenol Gwyrddach Cymru [Mehefin 2022].

Newyddlen Rhaglen Genedlaethol yr Argyfwng Hinsawdd Iechyd a Gofal Cymdeithasol 

Rhifyn Tachwedd o Newyddlen Rhaglen Argyfwng Hinsawdd Iechyd a Gofal Cymdeithasol [Tachwedd 2022].

Diweddariad Chwarterol

Y diweddariad chwarterol cyntaf sy’n nodi’r Fframwaith a Chynllun Gwobrwyo Gofal Sylfaenol Gwyrddach Cymru a luniwyd gan Iechyd Cyhoeddus Cymru. Datblygwyd yr adnodd hwn gan yr Is-adran Gofal Sylfaenol [Ebrill 2022]. 

Effaith Hinsawdd, Natur ac Iechyd yng Nghymru

E-fwletin sy’n nodi effaith hinsawdd, natur ac iechyd yng Nghymru – darparwyd gan Rwydwaith Iechyd Cyhoeddus Cymru [Ebrill 2022].

Cyhoeddwyd ddiwethaf 16/04/2024