Neidio i'r prif gynnwy

Atal clefydau heintus

Atal clefydau heintus a rôl y clystyrau gofal sylfaenol
Cyflwyniad
Mae gwarchod y cyhoedd rhag heintiau difrifol yn golygu gwaith cynllunio a chydweithio da gydag eraill i ddarparu dulliau atal ac ymateb effeithiol ledled Cymru. Mae amrywiaeth eang o weithgaredd yn cael ei wneud ar draws Iechyd Cyhoeddus Cymru (ICC) sy’n gysylltiedig ag atal heintiau sy’n ymwneud â chydfuddiannau gyda chlystyrau gofal sylfaenol. Mae’r gweithgaredd hwn wedi’i gydbwyso ar draws dull unwaith i Gymru ochr yn ochr ag ymgysylltiad a darpariaeth leol ar draws gofal sylfaenol. 
Mae gan yr Is-adran Diogelu Iechyd yn ICC wyth ffrwd waith fel a ganlyn:
Tîm Diogelu Iechyd
Arweinydd Dr Graham Brown; Nyrs Arweiniol Gary Porter-Jones
  • Tîm Diogelu Iechyd: Mae’n arwain ymatebion diogelu iechyd acíwt, ac mae wedi’i leoli mewn lleoliadau strategol ledled Cymru. Cysylltwch â’r tîm gyda manylion unrhyw achosion o glefydau heintus neu i’w hysbysu ynghylch unrhyw ddigwyddiadau.
  • Wedi’i integreiddio â Gwasanaethau Microbioleg.
Canolfan Arolygu Clefydau Trosglwyddadwy
Arweinydd Dr Christopher Williams
  • Mae’r Ganolfan yn diogelu’r boblogaeth rhag heintiau drwy arolygu clefydau heintus, cefnogi ymchwiliadau i achosion, darparu gwybodaeth iechyd a gwaith ymchwil cymhwysol.
Rhaglen Clefydau y Gellir eu Hatal drwy Frechlyn
Arweinydd Dr Richard Roberts
Rhaglen Atal Heintiau sy’n Gysylltiedig â Gofal Iechyd a Lleihau Ymwrthedd i Wrthfiotigau
Arweinydd Dr Eleri Davies
Diogelu iechyd amgylcheddol
Arweinydd Huw Brunt
Y camddefnydd o sylweddau (poblogaeth risg uchel) gan gynnwys alcohol
Arweinydd y thema Josie Smith
Iechyd rhywiol
Arweinydd y thema Zoe Couzens
Iechyd a chyfiawnder yn y ddalfa
Arweinydd y thema Stephanie Perrett
Pam mae atal clefydau heintus yn bwysig i’r clystyrau?
Mae lleihau baich clefydau trosglwyddadwy y gellir ei atal a chefnogi’r ymateb acíwt i achosion o’r clefydau hyn o fudd i bawb ohonom. Mae rôl bwysig brechu eisoes wedi’i chydnabod yng nghynlluniau nifer o glystyrau ac mae hyn yn adlewyrchu cyd-destun strategol cenedlaethol ar gyfer blaenoriaethu camau gweithredu ar gyfer gwella yn y maes hwn, gan gynnwys:
  • Mae Cymru iachach: ein cynllun iechyd a gofal cymdeithasol 2018 (Llywodraeth Cymru 2018; dolen) yn amlygu’r angen am newid tuag at fwy o waith atal ac ymyrraeth gynnar.
  • Mae nifer y bobl sy’n cymryd rhan mewn rhaglenni brechu yn cael eu hadrodd i Lywodraeth Cymru fel rhan o Fframwaith Cyflawni a Chanllawiau Adrodd GIG Cymru 2019-2020 (dolen) ac, i adlewyrchu’r cyfraniad gofal sylfaenol, drwy ddangosyddion gwella ansawdd y Mesurau Gofal Sylfaenol (dolen).
  • Mae’r llif gwaith Atal a llesiant o fewn y Rhaglen Strategol Genedlaethol ar gyfer Gofal Sylfaenol yn cynnwys yr amcan o leihau’r amrywiaeth rhwng clystyrau a gwneud gwelliannau cyffredinol i’r nifer sy’n cymryd rhan yn y rhaglenni brechu a sgrinio. Cynghorir y clystyrau i adolygu’r nifer sy’n cael eu brechu fel rhan o Gynllun Tymor Canolig Integredig y clwstwr ac ystyried y rhesymau dros yr amrywiadau rhwng practisau o fewn y clwstwr, gan ddysgu o arferion da a chefnogi’r rhai lle mae niferoedd llai o bobl yn cymryd rhan yn y rhaglenni. 
Beth yw’r blaenoriaethau gwella?
  • Mae gan Iechyd Cyhoeddus Cymru a’r byrddau iechyd lleol weithgareddau ar y cyd sy’n cyd-fynd â blaenoriaethau’r Rhaglen Wella Genedlaethol e.e. mynd i’r afael ag anghydraddoldebau o ran y niferoedd sy’n cael y brechiad rhag y ffliw ymysg y rhai dros 65 oed mewn grwpiau risg.
Beth y gall y clystyrau ei wneud i helpu i wella’r niferoedd sy’n cael eu brechu?
Gall camau gweithredu eang i wella ar lefel clystyrau gynnwys un neu fwy o’r pwyntiau a ganlyn i’w cynnwys yng Nghynllun Tymor Canolig Integredig y clwstwr:
  • Gwneud i bob cyswllt gyfrif drwy ofyn ar bob cyfle ynghylch bwriad person i gael ei frechu
  • Cynllunio i gefnogi arferion da o fewn pob practis clwstwr
  • Dysgu o bractisau sydd â niferoedd mawr o bobl sy’n cael eu brechu a chefnogi practisau sydd â niferoedd bach
  • Gwella ansawdd data lleol
  • Ar gyfer brechiadau i blant, sicrhau bod plant cyn oedran ysgol nad ydynt wedi cael eu himiwneiddio’n rheolaidd yn cael eu brechu
  • Sicrhau bod imiwneiddio plant o oedran ysgol yn cael ei ddarparu mewn modd cyson
  • Defnyddio adnoddau e-ddysgu i rymuso staff practisau i annog pobl i gael eu brechu
  • Ar gyfer brechu rhag y ffliw, cymryd rhan yng Nghynllun Cymorth Clystyrau y Rhaglen Clefydau y Gellir eu Hatal drwy Frechlyn
  • Ar gyfer brechu rhag  ffliw, nodi a chefnogi cyfraniad fferyllfeydd cymunedol
  • Ar gyfer brechu rhag y ffliw, nodi a chefnogi cyfraniad darparwyr gofal iechyd eraill
  • Sicrhau ymwybyddiaeth o ganllawiau a safonau ansawdd NICE a’u bod yn cael eu gweithredu
  • Ystyried mabwysiadu yr hyn a ddysgwyd o gamau gwella sy’n gysylltiedig â brechiadau mewn clystyrau neu bractisau eraill ledled Cymru
  • Ymgysylltu â phoblogaeth eich clwstwr i ystyried unrhyw farn gymunedol ynghylch rhwystrau neu hwyluswyr lleol o ran cael mynediad i frechiadau
  • Nodi’r asedau neu’r cyfleoedd partnerieth lleol perthnasol a allai helpu i hyrwyddo brechiadau
  • Ystyried a oes angen data lleol ychwanegol o bosibl i helpu i hysbysu penderfyniad ar gamau gweithredu gwella o’r gwerth gorau.
Mae nifer o glystyrau yn rhannu data ar nifer y bobl sy’n cael eu brechu mewn practisau meddygon teulu o fewn eu clwstwr er mwyn nodi’r hyn a ddysgwyd a’r arferion gorau.
Pa gymorth sydd ar gael i glystyrau i wella’r niferoedd sy’n cael eu brechu?
Mae cymorth ar gael i helpu i sicrhau yr ystyrir bod brechiadau’n cael eu cynnwys yng Nghynlluniau Tymor Canolig Integredig pob clwstwr. Mae’r offeryn Asesiad o Anghenion Gofal Sylfaenol (dolen) yn darparu data ar y niferoedd sy’n cael eu brechu a rhagor o fanylion / cyfeiriadau ynghylch y camau gweithredu gwell uchod ar gyfer nifer y rhai sy’n cael brechiadau ar gyfer y ffliw (dolen) a’r brechiadau rheolaidd ar gyfer plant (dolen).
Mae timau iechyd cyhoeddus lleol wedi’u lleoli o fewn pob bwrdd iechyd, ac mae’n bosibl eu bod mewn sefyllfa i gefnogi clystyrau gyda mynediad i gyngor ar iechyd cyhoeddus; cyngor ar ddatblygu cynlluniau; cyngor ar roi camau gweithredu ar waith; a chyngor gwerthuso ynghylch camau gweithredu gwella arfaethedig. Fel arfer, mae gan y timau arweinydd imiwneiddio a enwir. Ceir gwybodaeth am y timau yn y saith bwrdd iechyd isod:
Mae Rhaglenni Diogelu Iechyd ICC yn cynnig y cymorth a ganlyn i glystyrau:
  • Dadansoddiad o’r data ar nifer y bobl sy’n cael eu brechu: mae adroddiadau COVER (Cwmpas Brechiadau a Werthusir yn Gyflym) yn darparu data ar lefel clystyrau ynghylch imiwneiddio plant ac mae IVOR (Adrodd Ar-lein Ynghylch y Brechiad Rhag y Ffliw) yn darparu data ar nifer y bobl sy’n cael y brechiad rhag y ffliw ar lefel clystyrau.  
  • Mae’r Rhaglen Clefydau y Gellir eu Hatal drwy Frechlyn yn cydlynu’r camau gwella drwy Grŵp Gweithredu Cenedlaethol ar y Ffliw, gyda chyfres gynhwysfawr o adnoddau ffliw tymhorol yn cael eu darparu i glystyrau a phractisau meddygon teulu pob blwyddyn e.e. fideos, hyfforddiant, taflenni, ac ati.
  • Mae’r Rhaglen Frechu yn erbyn Clefydau Ataliadwy yn cefnogi cydlynwyr imiwneiddio mewn byrddau iechyd neu dimau iechyd cyhoeddus lleol i hyrwyddo nifer y bobl sy’n cymryd rhan mewn rhaglenni brechu ar gyfer y ffliw, rhaglenni brechiadau rheolaidd ar gyfer plant a rhaglenni brechu eraill yn lleol drwy eu gwaith gyda chlystyrau a phractisau meddygon teulu.   
  • Mae’r strategaeth ymwrthedd gwrthficrobaidd ar ei newydd wedd yn rhoi pwyslais ar ofal sylfaenol (gan gynnwys darparu data ar lefel clystyrau) ac mae Bwrdd y strategaeth yn goruchwylio ffrwd waith gofal sylfaenol.
Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru yn gweithio gyda chontractwyr gofal sylfaenol unigol yn ogystal ag ar lefel clystyrau. Mae hyn yn cynnwys:
  • Darparu hyfforddiant a chyfarwyddyd clinigol
  • Darparu canlyniadau profion microbioleg
  • Practisau meddygon teulu sy’n warchodwyr ar gyfer lefelau’r ffliw sydd ar led
  • Rhaglenni brechu eraill e.e. yr eryr, lle mae practisau’n gwahodd cleifion i gymryd rhan yn uniongyrchol
  • E-fwletinau wythnosol drwy gydol tymor y ffliw
  • Mae’r Rhaglen Atal Heintiau sy’n Gysylltiedig â Gofal Iechyd yn cynhyrchu cyfres gynhwysfawr o adnoddau fideo, posteri, taflenni triniaethau wedi’u targedu, ac ati, ar gyfer gofal sylfaenol i gynorthwyo i ledaenu’r neges ynghylch gwneud defnydd gwell o wrthfiotigau, gan gynnwys gwarcheidwaid gwrthfiotigau. Mae’r Rhaglen hefyd yn datblygu porth ar y we a fydd yn cynnwys data gofal sylfaenol y bydd practisau’n gallu cael mynediad iddynt (cysylltwch â HARP@wales.nhs.uk
  • Mae’r timau 1000 o Fywydau, heintiau sy’n gysylltiedig â gofal iechyd ac ymwrthedd gwrthfiotig yn cydweithio â chartrefi gofal ar brosiectau gwella.  
Cyfeirio at adnoddau dysgu / cymorth arall cysylltiedig
  • Ar gyfer e-ddysgu Gwneud i Bob Cyswllt Gyfrif (hyd at lefel 1), gweler yma [mae angen system Cofnodion Staff Electronig neu ddull arall o fewngofnodi / cofrestru]. I weld y cysylltiadau hyfforddiant Gwneud i Bob Cyswllt Gyfrif fesul bwrdd iechyd, gweler yma [mewnrwyd].
  • FluOne: Gwybodaeth am y modiwl e-ddysgu ar gyfer yr holl staff iechyd a gofal cymdeithasol (dolen; mewnrwyd).
  • Mae modiwl e-ddysgu FluTwo yn ddiweddariad clinigol ynghylch y ffliw a’r brechiad rhag y ffliw sy’n addas ar gyfer pob gweithiwr gofal iechyd proffesiynol (dolen; mewnrwyd).
  • Crëwyd modiwl Datblygiad Proffesiynol Parhaus ‘Influenza vaccine’ ar gyfer ymarferwyr gofal sylfaenol (dolen).
  • Gellir canfod adnoddau hyrwyddo fel posteri, taflenni a sticeri yma.
  • Mae adnoddau’r rhaglen ymwrthedd gwrthfiotig yn cynnwys yr adroddiad ‘Antimicrobial usage in Primary care’, sy’n cynnwys data ar lefel clystyrau; adnoddau ymwrthedd gwrthfiotigau ar gyfer gofal sylfaenol (dolen); porth ar y we ar gyfer ymwybyddiaeth o wrthfiotigau (yn cael ei ddatblygu); ac adnoddau ynghylch ymwrthedd i wrthfiotigau ar gyfer y cyhoedd (dolen).
  • Mae adnodd clwstwr gwaith archwilio a gwaith gwella ar gyfer cael diagnosis o haint y llwybr wrinol a’i reoli ar gael yma (dolen), sgroliwch i lawr i’r offerynnau Archwilio /Gwella Ansawdd
Diolchiadau: Cafwyd mewnbwn ar gyfer y dudalen hon gan Is-adran Diogelu Iechyd, Iechyd Cyhoeddus Cymru, yr Is-adran Gofal Sylfaenol, a thimau iechyd cyhoeddus lleol mewn byrddau iechyd. Rhoddwyd y cyfle i Gyfarwyddwyr Iechyd Cyhoeddus a Chyfarwyddwyr Gofal Sylfaenol adolygu cynnwys y tudalennau drafft.