Neidio i'r prif gynnwy

Chwe Nod ar gyfer Gofal Brys a Gofal mewn Argyfwng

Mae’r Chwe Nod, sydd wedi’u cynllunio ar y cyd gan arweinwyr clinigol a phroffesiynol, yn rhychwantu’r llwybr gofal brys a gofal mewn argyfwng ac maent yn adlewyrchu’r blaenoriaethau yn Rhaglen Lywodraethu 2021–2026 Llywodraeth Cymru, i ddarparu gofal iechyd effeithiol, cynaliadwy a rhagorol mor agos at y cartref â phosibl, a gwella mynediad at wasanaethau a'u hintegreiddio.

Cafodd y rhaglen Chwe Nod ar gyfer Gofal Brys a Gofal mewn Argyfwng ei sefydlu i gynorthwyo  Byrddau Iechyd a'u partneriaid i drawsnewid a gwella'r gwaith o ddarparu gwasanaethau gofal brys  a gofal mewn argyfwng i bobl Cymru.

Ym mis Chwefror 2022, cyhoeddodd Llywodraeth Cymru ’Lawlyfr Polisi'r Chwe Nod ar gyfer Gofal Brys a Gofal mewn Argyfwng sy’n disgrifio’r blaenoriaethau ar gyfer darparu gofal brys a gofal mewn argyfwng mewn modd sy’n sicrhau bod cleifion yn cael y gofal iawn, yn y lle iawn, y tro cyntaf.

Mae’r llawlyfr yn cynnwys cyfres o ddatganiadau ansawdd ar gyfer pob un o’r chwe nod, gan roi disgrifiad manwl o’r canlyniadau a’r safonau y dylai’r unigolyn eu disgwyl pan fo angen gofal brys neu ofal mewn argyfwng arno.

Ym mis Ebrill 2022, lansiodd y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol Raglen y Chwe Nod ar gyfer Gofal Brys a Gofal mewn Argyfwng mewn digwyddiad a fynychwyd gan fwy na 300 o gynrychiolwyr o wasanaethau iechyd a gwasanaethau cymdeithasol, sefydliadau’r trydydd sector, a sefydliadau eraill.

Cafodd swyddfa ei sefydlu ar gyfer rheoli’r rhaglen hon, a’i gweithredu o dan arweinyddiaeth y GIG. Bydd y swyddfa’n cydweithio’n agos gyda’r byrddau iechyd a phartneriaid eraill er mwyn sicrhau bod pethau’n parhau i symud yn eu blaen yn gyflym, drwy ddatrys problemau, cael gwared ar rwystrau, a rheoli cysylltiadau allweddol.

Dyma fanylion unigolion cyswllt allweddol Swyddfa Rheoli’r Rhaglen:

Mae cyflawniadau allweddol y Rhaglen Chwe Nod hyd yma wedi’u nodi yn Chwe Nod ar gyfer Gofal Brys a Gofal mewn Argyfwng: Adroddiad Cynnydd Blwyddyn Un.

Mae Bwrdd y rhaglen Chwe Nod wedi cymeradwyo nifer o brosiectau allweddol ar gyfer 2023/24, gan adeiladu ar lwyddiannau cynnar 2022/23. Mae'r rhan fwyaf o'r prosiectau’n pontio'r portffolio Chwe Nod cyfan ac yn ceisio sicrhau gwelliant system gyfan ar gyfer pobl Cymru.

Mae’r Chwe Nod ar gyfer Blaenoriaethau’r Rhaglen Gofal Argyfwng a Brys ar gyfer 2023/2024 hefyd yn cyd-fynd â Blaenoriaethau Gweinidogion Cymru ac fe’u crynhoir hwy isod:

•    Datblygu a chyflwyno model gofal brys integredig 24 awr y dydd, 7 diwrnod yr wythnos, sydd ar gael trwy gyfrwng GIG 111 Cymru, i gefnogi mynediad gwell a chynaliadwyedd Gwasanaethau Meddygol Cyffredinol:
o    gan ymgorffori GIG 111 Cymru, Canolfannau Gofal Sylfaenol Brys, llinellau cyngor ac arweiniad arbenigol, gofal sylfaenol y tu allan i oriau arferol ac Unedau Mân Anafiadau – er mwyn cynyddu nifer y bobl y gellir eu rheoli'n ddiogel yn y gymuned.

•    Gweithredu Gwasanaethau Gofal mewn Argyfwng ar yr Un Diwrnod (SDEC) sydd: 
o    Ar agor 5 diwrnod yr wythnos, gan gynyddu i 7 diwrnod yr wythnos, 12 awr y dydd. 
o    Ar gael ar adegau allweddol y ceir tystiolaeth yn eu cylch yn sgil y Proffil Galw am Ofal mewn Argyfwng ar gyfer pob safle ysbyty.
o    Ar gael yn uniongyrchol ac yn gallu osgoi Adrannau Achosion Brys. 
o    Yn darparu gwasanaeth ar gyfer gofal mewn argyfwng ar yr un diwrnod sy'n cynnwys gofal meddygol, gofal ynghylch eiddilwch a gofal llawfeddygol. 
o    Ar gael i Glinigwyr Gwasanaethau Ambiwlans Cymru i gynorthwyo i sicrhau lleihad yn yr oedi wrth drosglwyddo cleifion.

•    Mae'n rhaid i Fyrddau Iechyd gadw ar ymrwymiadau sydd wedi'u gwneud i leihau oedi o ran trosglwyddo cleifion a sicrhau gostyngiad diogel yn nifer y bobl sy'n cael eu cludo i Adrannau Achosion Brys mewn ambiwlansys:
•    Cynyddu derbyniadau uniongyrchol / cyfeiriadau mynediad. 
•    Rhoi sylw i garfannau allweddol o gleifion y bydd nifer sylweddol o'u plith yn cael eu cludo i adrannau achosion brys y gellid ymateb yn wahanol iddynt.
•    Yn achos Gwasanaethau Ambiwlans Cymru, byddant yn ceisio cynyddu cyfraddau'r galwadau 'Ymgynghori a Chau' at wasanaeth 999.   

•    Parhau i ddatblygu/gweithredu llwybrau clinigol allweddol i alluogi cleifion i gyrchu gofal yn y lle priodol y tro cyntaf, er enghraifft: 
o    Trwy gyfrwng llwybrau GIG 111 Cymru; gofal deintyddol, iechyd meddwl a lliniarol brys.
o    Yn gysylltiedig â gwaith y Grŵp Cynghori Proffesiynol Clinigol (CPAG), yn cefnogi dylunio llwybrau ar gyfer eiddilwch, poen aciwtedd isel (nad yw'n frys) yn y frest neu broblemau brys â chathetrau wrinol. 

•    Lleihau nifer y cleifion sy'n aros am fwy na saith diwrnod ac am fwy na 21 diwrnod mewn ysbyty, gan dargedu'r garfan sydd dros 65 mlwydd oed trwy sefydlu llwybrau i gynorthwyo â llif cleifion a datblygu dealltwriaeth well o oedi yn y llwybrau.