Neidio i'r prif gynnwy

Prosiect cynaliadwyedd amgylcheddol Is-adran Gofal Sylfaenol yn cael ei dderbyn i Raglen Enghreifftiol Bevan

Mae'n bleser gan yr Is-adran Gofal Sylfaenol gael yr unig brosiect yn Iechyd Cyhoeddus Cymru i'w dderbyn ar Garfan 7 rhaglen Enghreifftiol Bevan.

Mae'r prosiect cynaliadwyedd amgylcheddol arloesol, Gofal Sylfaenol Gwyrddach, o dan arweiniad y Ganolfan Gofal Sylfaenol, wedi'i dderbyn i Raglen Enghreifftiol Bevan o dan thema ‘Gwneud pethau'n wahanol ar gyfer adferiad cynaliadwy darbodus’. Bydd Angharad Wooldridge a Victoria Hannah, y ddwy'n Uwch-ymarferwyr Iechyd Cyhoeddus yn ymuno â rhaglen Bevan.  Bydd y prosiect yn cael ei oruchwylio gan Sian Evans, Ymgynghorydd Iechyd Cyhoeddus.

Rwy'n falch iawn bod y gwaith hwn wedi'i dderbyn fel Enghraifft Bevan ac edrychwn ymlaen at weithio gyda Chomisiwn Bevan i wella'r prosiect hwn” Zoe Wallace, Cyfarwyddwr Gofal Sylfaenol.

Wrth bennu cwmpas y prosiect, mae'r tîm wedi cydweithio â phartneriaid gan gynnwys Llywodraeth Cymru a'r 4 corff proffesiynol contractwyr annibynnol yng Nghymru i ddatblygu fframwaith Gofal Sylfaenol Gwyrddach pwrpasol a phroses asesu. Bydd y camau gweithredu a'r categorïau yn y fframwaith yn cyd-fynd â Chynllun Cyflenwi Strategol Datgarboneiddio GIG Cymru, a gyhoeddwyd ym mis Mawrth 2021, a'r ymrwymiadau uchelgeisiol yn y Rhaglen Lywodraethu i sicrhau trawsnewid gwyrdd i fynd i'r afael â'r argyfwng hinsawdd a natur. Mae'r camau sy'n cael eu cwmpasu yn cynnwys y rhai sy'n annog ffyrdd newydd o weithio drwy atebion digidol ac ymyriadau blaenoriaeth iechyd cyhoeddus.   Bydd camau gweithredu'n cael eu mapio i Nodau Llesiant Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015 a Nodau Datblygu Cynaliadwy'r Cenhedloedd Unedig. 

Mae'r fframwaith yn cael ei gynllunio fel offeryn ymarferol i gynorthwyo practisau deintyddol, optometrig, fferylliaeth gymunedol a phractisau cyffredinol unigol; cydweithfeydd proffesiynol gofal sylfaenol a chlystyrau gofal sylfaenol i gymryd camau unigol, proffesiynol a sefydliadol i gefnogi'r agenda hon yng nghyd-destun Cymru. Bydd y fframwaith yn cefnogi cydweithwyr gofal sylfaenol i gyflawni targed allyriadau sero-net Senedd Cymru ar gyfer sectorau cyhoeddus erbyn 2030 a phob sector erbyn 2050.

Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru a'r Ganolfan Gofal Sylfaenol mewn sefyllfa dda i ddarparu arweinyddiaeth systemau ar gyfer y gwaith hwn a darparu dull unwaith i Gymru ar draws pob contractwr gofal sylfaenol annibynnol.

Mae'r tîm yn gyffrous i gychwyn ar eu taith fel Enghreifftiau Bevan a rhannu eu dysgu â chydweithwyr ar draws y sefydliad. Bydd tudalen we Gofal Sylfaenol Gwyrddach ar gael yn fuan drwy wefan Gofal Sylfaenol Un.

I rannu eich syniadau am y prosiect anfonwch neges e-bost at Angharad.Wooldridge@wales.nhs.uk

Troednodyn: Mae Enghreifftiau Bevan yn staff iechyd a gofal o bob rhan o Gymru sy'n cael eu cefnogi gan Gomisiwn Bevan i ddatblygu a phrofi eu syniadau arloesol eu hunain dros gyfnod o 12 mis. Fel melin drafod arweiniol Cymru ym maes iechyd a gofal, bydd Comisiwn Bevan a'i grŵp o arbenigwyr iechyd a gofal rhyngwladol yn darparu arbenigedd, cyfleoedd dysgu a rhwydweithio i'r tîm sy'n arwain y prosiect.