Neidio i'r prif gynnwy

Peilot Gofal Sylfaenol Gwyrddach Cymru

Ydych chi’n poeni am newid hinsawdd?

Ydych chi erioed wedi ystyried effaith 

gofal iechyd ar yr amgylchedd? 

Hoffech chi ein helpu i lunio dyfodol 

gofal sylfaenol gwyrddach i Gymru? 

 

Mae Is-adran Gofal Sylfaenol, Iechyd Cyhoeddus Cymru, yn chwilio am ddatganiadau o ddiddordeb gan bractisiau sy'n dymuno dod yn safle peilot ar gyfer ein Fframwaith a'n Cynllun Dyfarnu Gofal Sylfaenol Gwyrddach  

Drwy gymryd rhan yn y cam cynnar hwn, bydd eich practis yn cael ei gydnabod fel mabwysiadwr cynnar a bydd unrhyw gynnydd a wnaed yn ystod y cyfnod peilot yn cyfrannu at y broses ddyfarnu flynyddol.

Rydym yn chwilio am fferyllfeydd cymunedol, practisiau deintyddol, practisiau optometrig a phractisiau cyffredinol arloesol sydd â gweledigaeth ledled Cymru i gymryd rhan mewn cynllun peilot 2-3 mis, gan ddechrau ym mis Ionawr 2022.

Gofynnir i bractisiau sy'n cymryd rhan dreialu detholiad byr o gamau gweithredu o fewn y Fframwaith Gofal Sylfaenol Gwyrddach newydd ar gyfer Cymru ac i ddarparu adborth strwythuredig. Efallai bod eich practis eisoes wedi cyflawni rhai o'r camau gweithredu.

Bydd cyflwyniad ac arddangosiad llawn o’r cynllun yn cael ei ddarparu, a lle bo hynny'n bosibl, bydd cymhellion ariannol ar gael i bractisiau peilot brofi'r camau gweithredu yn y fframwaith ar-lein a darparu mewnwelediad ac adborth strwythuredig. Byddwn yn ceisio barn am ei ddefnyddioldeb a'i ddichonoldeb mewn ymarfer clinigol yn ogystal â'i gyflwyniad. Bydd hyn yn ein helpu i ddatblygu'r fenter ymhellach cyn ei lansio yn genedlaethol yn 2022.

Fel cymhelliant ychwanegol, bydd coeden yn cael ei phlannu ar ran pob safle peilot a bydd tystysgrif yn cael ei darparu i'r practisiau priodol.

I gael rhagor o wybodaeth, trafodaethau anffurfiol neu i fynegi diddordeb, cysylltwch â Angharad.Wooldridge@wales.nhs.uk.

Mae tudalennau gwe newydd ar wefan Gofal Sylfaenol Un hefyd yn cael eu creu i gynnal y Fframwaith a darparu rhagor o wybodaeth gefndirol.