Neidio i'r prif gynnwy

Diogelu iechyd plant y gaeaf hwn

 

Gall y ffliw fod yn ddifrifol iawn i blant ifanc, ac mae'r nifer o blant dwy a thair oed ledled Cymru sy'n derbyn y brechlyn ffliw yn sylweddol is nag yr oedd ar yr un adeg y llynedd, a llai o blant o lawer wedi’u diogelu rhag y ffliw. Dyma grŵp blaenoriaeth yn y rhaglen iechyd y cyhoedd bwysig hon gan eu bod yn “archledaenwyr” y ffliw. Felly, yn ystod gaeaf pan ragwelir y bydd y ffliw a COVID-19 yn cylchredeg gyda’i gilydd, mae hyn yn destun pryder gwirioneddol.

Bydd cynyddu’r nifer sy’n derbyn y brechlyn ffliw yn y grŵp blaenoriaeth hwn yn diogelu’r plentyn unigol, a bydd hefyd yn debygol o fod yn ffactor pwysig wrth leihau lledaeniad y ffliw y gaeaf hwn. Mae gan bractisiau cyffredinol rôl unigryw, hanfodol i'w chwarae wrth godi ymwybyddiaeth am hyn ymhlith rhieni plant dwy a thair oed, a'i gwneud yn hawdd i'r plant hyn gael eu brechlynnau.

Mae tystiolaeth yn dangos y gall gwahodd unigolion cymwys i’w brechu rhag y ffliw wneud gwahaniaeth (Cymraeg/Saesneg) ac mae templedi llythyrau gwahoddiad wedi'u hanelu at rieni neu warcheidwaid mewn amrywiaeth o ieithoedd ar gael yma. Mae mwy a mwy o bractisiau yn defnyddio negeseuon testun i wahodd eu cleifion i gael brechlyn ffliw. Mae Neges Destun Fy Iechyd (MHT; ceir crynodeb o’r manteision yma) yn cael ei ariannu gan GIG Cymru a'i ddarparu fel gwasanaeth am ddim i bob practis cyffredinol yng Nghymru (drwy eu Cyflenwr System Meddygon Teulu). Mae amrywiaeth o bosteri, taflenni, deunyddiau a rhagor i godi ymwybyddiaeth am frechu rhag y ffliw ar gael ar ein pamffled ymgyrchu yma. Mae’r rhain yn cynnwys adnoddau sy'n benodol i blant dwy a thair oed megis:

•            Taflen ffliw i Blant

•            Posteri (teulu a phlentyn)

•            Taflen wybodaeth am frechu rhag y ffliw i blant ifanc - dwyieithog

•            Taflen Hawdd ei Darllen Brechlyn Ffliw a Gelatin Porc (Cymraeg/Saesneg/Wrdu/Arabeg

•            Ystod o adnoddau hygyrch

Mae llawer o'r rhain ar gael i'w harchebu am ddim ar https://icc.gig.cymru/gwasanaethau-a-thimau/adnoddau-gwybodaeth-iechyd/  a gellir eu harddangos/rhannu mewn practisiau cyffredinol, fferyllfeydd cymunedol, ysgolion, lleoliadau cyn ysgol a llawer o leoedd eraill i atgoffa rhieni.

Gellir gweld y data diweddaraf am frechiadau ffliw ar http://nww.immunisation.wales.nhs.uk/ivor. Gellir gweld ffigurau imiwneiddio rhag y ffliw ar lefel practis a chlwstwr, a gasglwyd gan ddefnyddio Audit+, drwy'r adroddiad rhyngweithiol ar gyfer pob practis yma. Mae amrywiaeth eang rhwng practisiau o ran nifer y bobl sy’n cael eu brechu rhag y ffliw

 

 

(Ffynhonnell: Iechyd Cyhoeddus Cymru)