Neidio i'r prif gynnwy

Apiau Hunanreoli Anadlol Cleifion GIG Cymru

Yn ddiweddar, lansiodd GIG Cymru fersiwn 2.0 o’i apiau hunanreoli anadlol i gleifion â COPD ac Asthma, a rhieni a gofalwyr plant ag Asthma, ledled Cymru.

Mae'r apiau hyn wedi'u datblygu ar y cyd ag arbenigwyr mewn Asthma Oedolion, Asthma Paediatrig a COPD, a byddant yn parhau i gael eu diweddaru ganddynt. Yn  ogystal, mae panel o gleifion wedi bod yn rhan o brofion defnyddwyr cynhwysfawr i sicrhau bod yr apiau yn gweithio yn y byd go iawn.

Gellir eu lawrlwytho am ddim ar Google Play (Android) a’r App Store (Apple). Mae gan y ddau opsiynau iaith Cymraeg a Saesneg.

Diben yr apiau yw cefnogi rheolaeth dymor hir cleifion ag Asthma a COPD i sicrhau bod gan bob claf gynllun rheoli personol sy’n glir ac y gellir ei gyrchu’n hawdd pan fydd argyfwng, yn ogystal â darparu cyngor, addysg a chymorth ychwanegol priodol. Bydd yr apiau hefyd yn helpu gweithwyr gofal iechyd proffesiynol fel offeryn i hyrwyddo hunanreolaeth ac adnodd dibynadwy i gyfeirio eu cleifion ato.

Y tri phrif ap anadlol yw:

  1. Asthamahub – i oedolion ag asthma
  2. Asthmahub for Parents – i rieni a gofalwyr plant ag asthma
  3. COPDhub – i bobl â COPD

Nid yw’r apiau’n disodli cyngor gofal iechyd ond maent yn cynnig gwybodaeth atodol am reolaeth asthma a COPD dda, gan rymuso cleifion i fonitro eu cyflwr eich cleifion y tu allan i’r amgylchedd gofal iechyd.

Gall gweithwyr gofal iechyd proffesiynol gyrchu gwybodaeth, adnoddau a fideos am yr apiau o lwyfan ICST Cymru Gyfan:  https://allwales.icst.org.uk/education/introducing-the-nhs-wales-healthhub-apps-2/

Mae ICST yn cynnal ac yn rheoli Llwyfan ICST Cymru Gyfan, sy’n cynnwys dewis eang o lwybrau, canllawiau, rhaglenni addysgol cysylltiedig, sioeau teledu, tiwtorialau, asesiadau sy’n seiliedig ar achosion, tystysgrifau ac adnoddau ychwanegol a ddarperir gan arbenigwyr anadlol o bob rhan o Gymru. Mae’r Llwyfan ICST Cymru Gyfan yn hygyrch ac am ddim i weithwyr gofal iechyd proffesiynol ledled Cymru: https://allwales.icst.org.uk

I gyfeirio eich cleifion at yr ap sy’n addas iddyn nhw, dilynwch y dolenni isod:

Asthmahub: https://healthhub.wales/asthmahub/

Asthmahub i Rieni: https://healthhub.wales/asthmahub-for-parents/

COPDhub: https://healthhub.wales/copdhub/