Neidio i'r prif gynnwy

Addasu i'r Newid yn yr Hinsawdd: Arolwg Pecyn Cymorth Iechyd a Llesiant

Mae adroddiad diweddaraf Prif Swyddog Meddygol Cymru yn tynnu sylw at y ffaith mai newid yn yr hinsawdd yw'r bygythiad iechyd mwyaf sy'n ein hwynebu ac mae'r goblygiadau’n debygol o fod yn fawr o ran darparu gwasanaethau cyhoeddus a chyflawni blaenoriaethau iechyd a llesiant allweddol.

Mae Uned Gymorth Asesu'r Effaith ar Iechyd Cymru  yn Iechyd Cyhoeddus Cymru yn cynnal arolwg i'n helpu i gael gwell dealltwriaeth o ba adnoddau ac offer a allai gefnogi sefydliadau ledled Cymru i ymateb i effeithiau’r newid yn yr hinsawdd ar iechyd a llesiant y boblogaeth. 

Mae'r arolwg hwn yn berthnasol i bawb a byddem yn ddiolchgar iawn pe gallech dreulio amser yn ei gwblhau – dim ond tua 2 funud o'ch amser y dylai ei gymryd.

Llenwch yr arolwg YMA

Diolch!

Hoffem gael ymatebion gan gydweithwyr o Fyrddau Iechyd Lleol, Cyfoeth Naturiol Cymru, Awdurdodau Lleol, a hefyd y Trydydd Sector, Addysg a Fforymau Lleol Cymru Gydnerth, felly mae croeso i chi ei ddosbarthu'n eang.

Cefndir

Mae Uned Gymorth Asesu'r Effaith ar Iechyd Cymru (WHIASU) yn Iechyd Cyhoeddus Cymru yn gweithio ar Asesiad o'r Effaith ar Iechyd (HIA) yn sgil y newid yn yr hinsawdd yng Nghymru a'r llynedd cyhoeddwyd pedwar ffeithlun yn cynnwys rhai negeseuon allweddol ar iechyd, llesiant a newid yn yr hinsawdd yn seiliedig ar yr Asesiad o'r Effaith ar Iechyd.

Mae WHIASU yn cynnal yr arolwg hwn i asesu a oes angen pecyn cymorth i gefnogi camau gweithredu ar yr effeithiau a gaiff y newid yn yr hinsawdd ar iechyd a llesiant a beth, felly, fyddai'r meysydd mwyaf defnyddiol a phwysig i'w cynnwys ynddo. Bydd yr atebion yn cael eu defnyddio i lywio cynnwys a fformat y pecyn cymorth a deall unrhyw anghenion hyfforddi. 

Mae’r ymatebion unigol yn ddienw. Gellir crynhoi canfyddiadau cyfunol yr arolwg a'u rhannu ag eraill (e.e. mewn cyflwyniadau neu adroddiadau) i gefnogi a llywio'r gwaith o gynllunio ar gyfer newid yn yr hinsawdd. 

Llenwch yr arolwg YMA

Diolch!


I gael rhagor o wybodaeth, cysylltwch â Nerys.S.Edmonds@wales.nhs.uk

Bydd yr arolwg ar agor o 11 Gorffennaf tan 23 Awst 2022.