Gall ffisiotherapyddion ymarfer uwch fod yn bwynt cyswllt cyntaf i bobl sy’n dioddef o gyflyrau cyhyrysgebrydol mewn gofal sylfaenol yn ogystal â chefnogi’r agenda ‘ffit i weithio’. Cynlluniwyd y rôl ffisiotherapi clwstwr mewnol i gynyddu gallu clinigol y tîm yn ogystal â gweithredu fel porthor ar gyfer atgyfeiriadau cyhyrysgerbydol i ofal eilaidd. Gall therapyddion arwain gwasanaethau cyhyrysgerbydol mewn gofal sylfaenol yn llwyddiannus, gyda’u gallu i atgyfeirio cleifion yn uniongyrchol i gael pelydr-x a rhoi brechiadau a phresgripsiynau iddynt. Mae ganddynt arbenigedd clinigol ac annibyniaeth i asesu cleifion sy’n dioddef o amryw o gyflyrau, a gwneud diagnosis ohonynt a’u trin gan gynnwys cyflyrau cyhyrysgerbydol, niwrolegol ac anadlol. Rheoleiddir ffisiotherapyddion gan y Cyngor Proffesiynau Iechyd a Gofal ac mae ganddo ei indemniad atebolrwydd proffesiynol ei hun.
Manteision y gwasanaeth yw rheoli achosion yn gynnar, atal dirywiad a lleihau amser aros i gleifion. Dengys y broses o werthuso’r prosiect ‘pennu cyfeiriad’ y gall ffisiotherapyddion leihau baich achosion meddygon teulu ac atgyfeirio i ofal eilaidd yn sylweddol drwy frysbennu, gweithredu fel porthor a rheoli cleifion â chyflyrau cyhyrysgerbydol. Mae’r effaith hon ar faich gwaith gwasanaethau cyhyrysgerbydol arbenigol yn dangos manteision symud adnoddau i ariannu rolau ffisiotherapi mewn gofal sylfaenol yn y dyfodol.