Neidio i'r prif gynnwy

Gogledd Sir Ddinbych

 
Arweinydd y Clwstwr Dr Nitin Shori 


Practisau Cyffredinol yn Iechyd Gogledd Sir Ddinbych
Ceir chwech practis sy’n gweithredu yn ardal glwstwr Iechyd Gogledd Sir Ddinbych
                    
Canolfan Feddygol Clarence 
Prestatyn lach 
Meddygfa Kings House 
Canolfan Feddygol Lakeside 
Meddygfa Tŷ Madryn 
Meddygfa Park House 

Cyfeiriadur Iechyd Poblogaeth Gogledd Cymru
Mae Cyfeiriadur Iechyd Poblogaeth Gogledd Cymru yn canolbwyntio ar flaenoriaethau iechyd cyhoeddus ac yn darparu gwybodaeth am anghenion iechyd y boblogaeth ar lefelau daearyddol gwahanol i staff y GIG at ddibenion cynllunio. Clwstwr Gogledd Sir Ddinbych

Prif Enwau Cyswllt yr Ardal Ganolog
Clare Darlington; Cyfarwyddwr Ardal Cynorthwyol ar gyfer Gofal Sylfaenol (Canolog) 
Dr Liz Bowen Cyfarwyddwr Meddygol yr Ardal, Gofal Sylfaenol (interim)

Jodie Berrington. Uwch Gydgysylltydd y Clwstwr (Canolog)  

Arweinwyr Clwstwr yr Ardal Ganolog

Dwyrain Conwy Dr Jonathan Williamson
Gorllewin Conwy Geraint Davies
Gogledd Sir
Ddinbych
Dr Jane Bellamy a
Dr Clare Corbett
Canol a De Sir
Ddinbych
Dr Matthew Davies

 Rhoddir arian i bob Clwstwr i gefnogi blaenoriaethau’r clwstwr yn unol â blaenoriaethau Llywodraeth Cymru i wella mynediad a chael mynediad teg neu i wella’r gymysgedd o sgiliau mewn gofal sylfaenol, a hynny’n bennaf i hyrwyddo’r broses o ddefnyddio adnoddau’n ddarbodus.

 

Cynlluniau ac Adroddiadau Clwstwr Unigol
 
Yr hyn rydym yn gweithio arno

Clwstwr Gogledd Sir Ddinbych IMTP 2020-2023
Ar ôl llwyddo i benodi 2 arweinydd clwstwr roedd modd i ni fwrw ymlaen â chynlluniau newydd a phresennol sydd o fudd i gleifion Gogledd Sir Ddinbych. Mae’r clwstwr yn parhau i gydweithio’n dda gyda chymorth parhaus yr arweinwyr a’r cydgysylltwyr.

Yr hyn rydym wedi’i wneud eisoes

Mae’r clwstwr wedi canolbwyntio ar wella bywyd i gleifion sy’n dioddef o boen cronig drwy weithio mewn cydweithrediad â ‘Pain Association Scotland’, sefydlu cwrs hunanreoli dwys sy’n cynnwys cyfarfodydd grŵp misol lleol o fewn y clwstwr.  Mae’r grŵp yn darparu gwell dealltwriaeth o boen cronig ac yn canfod ffyrdd cadarnhaol o reoli iechyd.  Mae hyn yn cefnogi’r cleifion yn uniongyrchol i fod yn gyfrifol am eu cyflyrau gan alluogi meddygon teulu i weld cleifion mwy cymhleth yn y practis.  Cynhelir gwerthusiad o’r gwasanaeth hwn, ac mae’r adborth cynnar gan gleifion yn gadarnhaol

Blaenoriaethau ariannu ar gyfer 17/18

Fferyllydd a thechnegydd fferyllol wedi’u lleoli yn y practis
Datblygu cymorth ar gyfer y gwasanaeth gofal ychwanegol sy’n bodoli eisoes er mwyn darparu ymarferydd iechyd meddwl ychwanegol o fewn y gwasanaeth
Buddsoddi yn ein timau gofal sylfaenol drwy gynnig sesiynau grŵp Rheoli Straen i staff
Ffisiotherapydd wedi’i leoli yn y Practis
Amlygir problemau iechyd meddwl ac ymddygiad ymysg y glasoed fel un o flaenoriaethau’r clwstwr.  Mewn cydweithrediad â thîm CAMHS Byrddau Iechyd, datblygodd y clwstwr rôl ymarferydd Lles Teulu.  Crëwyd y rôl hon i gefnogi materion ymddygiad teulu ar lefel isel yn yr achos cyntaf.  Mae mwy o deuluoedd nad ydynt angen ymyrraeth uwch ond a fyddai’n elwa ar gymorth pellach yn dod yn fwy cyffredin yng Ngogledd Sir Ddinbych.  Gan gefnogi gallu meddygon teulu, credir y byddai’r rôl hon yn atal problemau yn ddiweddarach i deuluoedd ac yn eu cynorthwyo i weithio er mwyn cael atebion iddynt
Fel cymorth pellach i gleifion sy’n dioddef o Iechyd Meddwl ar lefel isel megis straen a gorbryder, mae’r clwstwr hefyd yn canolbwyntio ar wasanaethau a ddarperir gan ymarferwyr i gleifion Haen 0 drwy ymchwil i’r farchnad er mwyn cael gwasanaeth sy’n darparu monitro gweithredol drwy raglen seico-addysgol hunangyfeiriedig gan ddefnyddio gweithlyfrau’r llwybrau.

 

Diweddariad arweiniol clwstwr 13/09/2021